Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Y tu allan, Bloc yr adweithyddion o'r dwyrain-dde-ddwyrain.
Cafodd Atomfa Trawsfynydd ei hadeiladu rhwng 1959 a 1963 yn ôl manylebau pensaernïol Syr Basil Spence. Cafodd ei rhoi ar waith ym 1965 a bu ei hadweithyddion Magnox dwbl yn cynhyrchu trydan am 26 blynedd cyn i'r atomfa ddod i ddiwedd ei hoes ym 1991. Trawsfynydd oedd yr atomfa sifil fewndirol gyntaf i gael ei chodi yn y DU, a deuai'r dŵr croyw ar gyfer oeri'r adweithyddion o lyn Trawsfynydd, a grêwyd yn wreiddiol yn y 1920au fel rhan o gynllun trydan dŵr ym Maentwrog.
Roedd ar y safle bedwar grŵp o adeiladau, yr oedd pob un ohonynt yn cyflawni un o swyddogaethau penodol yr atomfa - adeiladau'r adweithyddion, neuadd tyrbinau, ardaloedd gwaredu tanwydd ac is-orsaf drydan. Cafodd y rhain eu trefnu'n daclus gyda'i gilydd a'u cysylltu â rhodfeydd â tho drostynt. Cafodd yr adeiladau lle gosodwyd adweithyddion dwbl yr orsaf eu gwneud o goncrit cyfnerth a'r rhain, a oedd yn cyrraedd uchder o 180 o droedfeddi, oedd nodwedd amlycaf y safle. Roedd y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog yn awyddus i gydnabod mai gorsaf drydan Gymreig oedd Trawsfynydd ac felly defnyddiwyd 'cerigos' maint clogfeini i greu mosaig enfawr ar ffurf draig a oedd yn rhan o bafin y cwrt canolog.
Trawsfynydd oedd yr unig atomfa i gael ei hadeiladu ar safle mewndirol yn agos at lyn, a fu'n darparu dŵr oeri pan oedd yr orsaf drydan yn gweithio. Mae'r atomfa wedi'i gosod mewn tiroedd wedi'u tirlunio helaeth a gynlluniwyd gan Sylvia Crowe, a nododd hefyd sut y cafodd yr adeiladau eu lleoli i ymdoddi i dirwedd ehangach Parc Cenedlaethol Eryri. Ar ôl cynhyrchu trydan am 26 blynedd, dechreuwyd digomisiynu'r atomfa ym 1991. Disgwylir y bydd yn cymryd 100 mlynedd eto i glirio'r safle. Bu'n rhaid gorchuddio adeiladau'r adweithyddion, sy'n parhau ar y safle, i'w gwneud yn adeiladau storfa ddiogel.
Mae'r holl danwydd wedi cael ei dynnu o'r adweithyddion erbyn hyn ac mae'r gwaith digomisiynu wedi cychwyn ers tro byd. Yn 2010 cafodd yr Achos Busnes Gofal a Chynnal Cyflym ei roi ar waith, ac yn ystod y cyfnod adrodd rhoddwyd y sylw pennaf i weithredu cynllun digomisiynu cyflym.
Ref.DS2010_540_009

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw