Cerdd gan Pedrog, Parg 1919 ar gyfer Thomas John Jones
Disgrifiadau
Ysgrifennwyd y gerdd hon gan Pedrog yn bersonol i Tom – Thomas John Jones. Y Parch. John Owen Williams 'Pedrog' (1853—1932). Ganwyd Pedrog ym mis Mai 1853 ym Madryn, ger Pwllheli, yn fab ifancaf i Owen a Martha Williams, y ddau’n gwasanaethu’n lleol. Cafodd blentyndod trasig. Yn ddwy flwydd oed fe’i anfonwyd i aros gyda chwaer ei dad, Jane Owen, yn Llanbedrog, pan gafodd ei frawd hyn y frech wen. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe fu farw ei fam yn geni plentyn. Yna, penderfynodd ei dad fynd i’r môr fel stiward ar long, ond daeth ei fordaith gyntaf i ben mewn ysbyty yn Melbourne ble bu farw. Prin a niwlog oedd atgofion Pedrog o’i ddau riant.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment