Skip to main content

Yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru

Disgrifiadau

Ganed y newyddiadurwr a'r ffotograffydd papur newydd Geoff Charles ym Mrymbo ger Wrecsam yn 1909. Astudiodd ar gyfer Diploma mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Llundain, a graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn 1928. Bu'n gweithio fel gohebydd ar y Western Mail a'r Mountain Ash and Aberdare Express cyn symud i Guildford i weithio ar y Surrey Advertiser. Yn dilyn cyfnod o salwch difrifol dychwelodd i Gymru i weithio gyda'r Wrexham Star, ac ychydig ar ôl iddo ymuno â'r papur hwnnw fe adroddodd ar drychineb Glofa Gresffordd. Symudodd i'r Drenewydd i redeg y Montgomeryshire Express ble y cyfarfu â'r gohebydd John Roberts Williams, y daeth i ddarlunio erthyglau iddo yn Y Cymro yn ddiweddarach. Rhoddodd 50 mlynedd o'i oes i bortreadu Cymru trwy lens ei gamera. Mae cyfraniad Geoff Charles i Gymru yn unigryw, a heddiw mae ei archif o 120,000 o ffotograffau yn un o drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw Geoff Charles yn 2002

Owner:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru - National Library of Wales
Crëwr:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru - National Library of Wales
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2010
Eitem wedi’i llwytho:
1/2/2015
Gwelediadau:
1552
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment