Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganwyd William Martin Williams ar 25 Hydref 1892 yn Abererch, Sir Gaernarfon. Ymunodd a'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ond yna trosglwyddodd i Gatrawd Swydd Gaerwrangon a gadawodd y Fyddin fel Capten dros dro. Ar noson 26 Awst 1918, roedd yn gwasanaethu gyda Bataliwn 1af, Catrawd Swydd Gaerwrangon, a oedd yn gyfrifol ymosodiad bomio. Yn ôl cyfrif William Martin Williams ei hun, cafodd clwyf ar ei ben ar ôl cael ei dargedu gan saethwr o ochr y gelyn, a oedd anelu at ei ben. Yn ffodus, roedd strap gên ei helmed yn rhydd a'r helmed yn lletraws ar ei ben, gan adael bwlch bach y tu mewn rhwng yr helmed a rhan uchaf ei ben. Arbedodd hyn ei fywyd. Pasiodd bwled y saethwr drwy'r helmed gan sgraffinio ei groen yn unig. I ddechrau, credodd mai chwys oedd yn rhedeg i lawr ei ben, nid gwaed. Ni sylweddolodd ei fod wedi cael ei daro nes iddo dynnu ei helmed yn ddiweddarach. Cadwodd yr helmed fel memento. Enillodd y Groes Filwrol am ei arweiniad a'i ddewrder.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw

Adborth