Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cofeb ar gyfer dynion o'r ardal lleol a fu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys Preifat Richard Williams.

Roedd Preifat Richard Williams yn dod o Glynafon, Rhydwyn, Caergybi. Cafodd ei ymrestru i Gwmni B a Phlatŵn C yn 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Cafodd Richard ei ladd wrth ymladd yn Ypres, Gwlad Belg yn 1917.

Deffrodd Mam Richard un bore a dod o hyd i nodyn yn esgid Richard i ddweud wrthi ei fod ef a'i gyfaill Lewis Jones o Ysgoldy Pedair, Llanrhuddlad, wedi mynd i ffwrdd i ymuno â'r fyddin ym Mharc Cinmel. Cafodd Richard a Lewis eu gwahanu i wahanol Fataliwn, ac aethant i'r Rhyfel ar wahân. Yn anffodus cafodd y ddau eu llad wrth wasanaethu gyda'r fyddin. Yn anhygoel, cafodd y ddau eu lladd ar yr un diwrnod, ac er eu bod ar y pryd yn gwasanaethu mewn gwahanol leoliadau, yn rhyfeddol cawsant eu claddu cefn wrth gefn ym Mynwent Bard Cottage, Gwlad Belg.

Ganwyd Richard ar 12 Mehefin 1895 yn Stryd y Capel, Rhydwen, neu Rhydwyn fel y gelwir heddiw, pentref bach yn Llanrhuddlad Plwyf ger Caergybi, Ynys Mon. Roedd Richard yn un o wyth o blant a anwyd i Hugh a Catherine William. Symudodd y teulu yn ddiweddarach i Glyn Afon, Rhydwen. Ymadawodd Richard am Ffrainc yn 1916 ac yno ymunodd â 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, rhan o'r 38ain Isadran. Aeth i'r ffosydd ger Ypres, a bu hefyd yn ymladd yn Boesinghe ac ar hyd Camlas Yeser yn ystod y cyfnod a arweiniodd i fyny at Drydedd Frwydr Ypres yn 1917. Collodd ei fywyd ar 16 Mehefin 1917 yn 23 mlwydd oed. Roedd yn rhan o'r uned gosod ceblau cyfathrebu ar y pryd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw