Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd Preifat Richard Williams yn rhan o Gwmni B a Phlatŵn C yn 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Danfonodd Richard y llythyr yma adref o'r ffosydd yn Boesinghe, Ffrainc at ei fam a'i dad yn Glynafon, Rhydwyn, Caergybi. Cafodd Richard ei ladd wrth ymladd yn Ypres, Gwlad Belg yn 1917.

Deffrodd Mam Richard un bore a dod o hyd i nodyn yn esgid Richard i ddweud wrthi ei fod ef a'i gyfaill Lewis Jones o Ysgoldy Pedair, Llanrhuddlad, wedi mynd i ffwrdd i ymuno â'r fyddin ym Mharc Cinmel. Cafodd Richard a Lewis eu gwahanu i wahanol Fataliwn, ac aethant i'r Rhyfel ar wahân. Yn anffodus cafodd y ddau eu llad wrth wasanaethu gyda'r fyddin. Yn anhygoel, cafodd y ddau eu lladd ar yr un diwrnod, ac er eu bod ar y pryd yn gwasanaethu mewn gwahanol leoliadau, yn rhyfeddol cawsant eu claddu cefn wrth gefn ym Mynwent Bard Cottage, Gwlad Belg.

Ganwyd Richard ar 12 Mehefin 1895 yn Stryd y Capel, Rhydwen, neu Rhydwyn fel y gelwir heddiw, pentref bach yn Llanrhuddlad Plwyf ger Caergybi, Ynys Mon. Roedd Richard yn un o wyth o blant a anwyd i Hugh a Catherine William. Symudodd y teulu yn ddiweddarach i Glyn Afon, Rhydwen. Ymadawodd Richard am Ffrainc yn 1916 ac yno ymunodd â 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, rhan o'r 38ain Isadran. Aeth i'r ffosydd ger Ypres, a bu hefyd yn ymladd yn Boesinghe ac ar hyd Camlas Yeser yn ystod y cyfnod a arweiniodd i fyny at Drydedd Frwydr Ypres yn 1917. Collodd ei fywyd ar 16 Mehefin 1917 yn 23 mlwydd oed. Roedd yn rhan o'r uned gosod ceblau cyfathrebu ar y pryd.

“April 23/1917
Annwyl Deulu,
Wel dyma fi yn anfon gair back i chwi gan fawr obeithio eich bod yn iach fel ag yr ydwyf finnau ar hyn o bryd. Pte R Williams 59744,B Comp 6 Platoon, 17Btn R W F. BEF FRANCE. Derbyniais eich llythyr yn saff ac mi oedd yn dda gennyf gael gair or hen wlad i mi gael gwybod eich bod yn iach yna i gyd.
Wel mi ydwyf wedi gweld lot or hen fois oedd yn ei nabod yn Kinmel Park ac mi welais Lewis Ysgoldy Pedair hefyd wel mi oeddach yn son am yr William Jerman mi oeddach yn deud y gwir reit hawdd dweud yn Rhydwen ddigon pell or twrw ond mi ydwyf yn dal yn fy nghalon run fath o hyd yn dal i ganu long way to Tipperary gan ddal mewn gobaith caf ddod yn ol ir hen Rhydwen am un waith eto...?..gorfaod symud yn ol mae William o hyd mi ydan yn mynd ar i ol fel llewod. Mi gewch ragor y tro nesaf pan gai amlen glas ..?.. rhiw air ydi hwn i ddeud fy mod ar dir rhai byw, mae yn rhaid terfynu gan gofio atoch i gyd fel teulu a cofiwch fi at Bessie yn y modd gora, dydd da hen ??? a Annie.
Oddi wth eich cyfaill Dick sydd bell oi wlad”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw