Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tystysgrif trosglwyddo Preifat Richard Lewis. Ganwyd Richard ar 13 Tachwedd 1898 yn Llanfair-yn-neubwll, Sir Fon. Roedd e'n un o ddeg o blant i William a Margaret Lewis. Tua 1912, symudodd y teulu i fyw ym Mhen Bont Dronwy, Llanfachreth, Sir Fon. Yn y fan yma mynychodd Richard yr ysgol leol, ac ar ol iddo adael yr ysgol gweithiodd ar ffermydd yn yr ardal. Ar 2 Ionawr 1917, ymunodd â 4ydd Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ar ol hyfforddi a gwasanaethu adref, trosglwyddodd i'r Machine Gun Corps lle cafodd hyfforddiant pellach. Ym mis Chwefror 1918 croesodd drosodd i Ffrainc ac fe ymunodd â Chwmni B Bataliwn 1af Machine Gun Corps, Is-adran 1af. Ym mis Chwefror, fe ymladdodd ym Mrwydr y Lys, Fflandrys. Ym mis Ebrill fe ymladdodd yn Estaires, Hazebrouck, a Bethune. Ym mis Medi fe ymladdodd ym Mrwydr Drocourt - Queant Switch Line a hefyd ym Mrwydrau Llinell Hindenburg, yn Epehy, Camlas St Quentin a Beaurevoir Line. Ym mis Hydref cymerodd ei Isadran rhan ym Mrwydr y Selle, a'i gyfraniad olaf oedd croesi'r Gamlas Sambre ar 4 Tachwedd 1918. Ar 16 Chwefror, 1919, ar ol gwasanaethu gyda'r Fyddin, aeth Richard gartref i Ben Bont Dronwy ac aeth yn ol i weithio ar y ffermydd. Yn 1920 priododd a Margaret Ann Jones o Landdeusant, Ynys Mon, a ganwyd dau fab iddynt, Thomas Hugh a John Arthur. Yn 1923, penderfynodd Richard a'i wraig i ymfudo i Orllewin Awstralia drwy hwylio ar y Diogenes. Yn Awstralia ganwyd iddynt dri o blant eraill, William Leonard, Hywel a Gwyneth. Yn anffodus, bu farw Hywel yn faban. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, ymunodd Richard a'i ddau fab Thomas Hugh a John Arthur y Fyddin Awstralia. Cafodd Thomas Hugh ei wneud yn garcharor rhyfel gan filwyr Japan am dair blynedd. Bu farw Richard ym 1974 yn 76 mlwydd oed, heb ddychwelyd o gwbl i Gymru ar ol allfudo i Awstralia.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw