arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Amryw drigolion yn cofio cartrefi brodorol eu tadau, gan amlygu’r gwahanol genhedloedd a ddaeth i’r Barri wrth i waith yn y dociau ddenu pobl o ar draws y byd. Arweiniodd hyn at gymuned amlddiwylliannol amryfal a ffyniannus, a sefydliad y Barri ei hunan.
Golygodd y mewnlifiad anferth o weithwyr o dramor yr angen am letyau, a gyda’u sefydlu daethant â busnes i’r perchnogion. Byddai pobl o genedligrwydd penodol yn bur aml yn mynd i’r lletyau hynny oedd fwyaf tebygol o fod yn gartref i’r rheiny o’r un rhan o’r byd, gan arwain at gymunedau agos a strydoedd wedi’u llenwi â theuluoedd o dramor.

“In the Same Boat”, 1990
Cyfweliadau hanes llafar gyda thrigolion y Barri, yn trafod y datblygiad diwylliannol a chymdeithasol o ddechrau’r 20fed Ganrif hyd at 1990. Mae’r ffilm fer hon wedi’i rhannu yn 7 rhan, pob un yn delio ag agwedd wahanol o fywyd cymdeithasol y Barri.
Cyfweledigion:
Phyllis Caldwell, Maureen Flipse, Pini Hicks, Violet Jones, Frossini Moran, Johnny Palmer, Gwen Payne, Elsie Phipps, Betty Pring and Ronnie Smith.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw