Archifau Teuluol o Bedwar Ban Byd
Casgliad o eitemau o blith archifau teuluol sy'n cofnodi hanes hynafiaid a ymfudodd i Batagonia a Chanada, rhai a aeth a'u sgiliau mwyngloddio i Ghana a Sumatra ac eraill, cynhyrchwyr llaeth o orllewin Cymru, a agorodd fusnesau yn Llundain. Gan ddyddio yn fras o’r 1880au i’r 1940au, nid yn unig yw'r ffotograffau hyn yn adrodd hanesion perthnasau a adawodd Gymru i chwilio am waith, ond maent hefyd yn cofnodi hanesion cyndieidiau a ddaeth i Gymru yn y gobaith o sichau bywyd gwell i'w teuluoedd, o Wlad Pwyl a’r Eidal, Jamaica a Barbados. Ceir yn y casgliad un cyfweliad hanes llafar yn ogystal (‘Our Fathers – In the Same Boat’). lle mae amryw o drigolion y Barri yn cofio am gartrefi brodorol eu tadau, gan amlygu’r gwahanol genhedloedd a ddaeth yno wrth i waith yn y dociau ddenu pobl o bedwar ban byd.