Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

CYFWELIAD NICOLE COOKE

Fy enw yw Nicole Cooke. Rwy'n dod o Abertawe, ac yn byw yn y Wig ym Mro Morgannwg. O oedran ifanc, rwyf wedi bod yn egnïol iawn ac wedi cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau a chwaraeon. Roedd gen i feic, ac roedden ni wrth ein boddau'n mynd allan - fi a'm ffrindiau, o amgylch y lonydd. Cymerais ran yn y gweithgareddau chwaraeon a oedd ar gael yn y pentref ac yn yr ysgol, a gwnes i bopeth mewn gwirionedd, yn weddol gyffredin, tan i mi gymryd rhan mewn ras yn 11 oed, a mwynhau'r profiad yn fawr. Roedd yn ras wych i gymryd rhan ynddi; ras cyclo-cross oedd hi yn y categori dan ddeuddeg. Rydw i'n meddwl i mi ddod yn bedwerydd neu'n bumed, dim byd arbennig, ond roeddwn i am wella a dechrau ymarfer, ymddiddori mewn rasio, a dechreuais feicio er mwyn ymarfer yn amlach nag er mwyn cael hwyl yn unig. Rai misoedd yn ddiweddarach, enillais fy ras gyntaf, sef Pencampwriaeth Cyclo-Cross Dan 12 Cymru lle llwyddais i guro'r holl fechgyn.

rhywbeth i'r teulu

Roedd beicio yn rhywbeth yr oedd ein teulu ni wedi ymddiddori ynddo erioed. Roedd 'nhad yn arfer rasio ar lefel ranbarthol pan oedd yn iau, ac roedd ganddo feic tandem ar ôl o'i gyfnod yn beicio, tandem hen ffasiwn, hen iawn, ac fe welais i o yn yr atig un diwrnod a gofyn "Dad, be’ di hwnna?" Ac estynnodd y beic a'i adfer, ac wrth adfer y beic yna, cafodd hyd i feic tandem arall, felly aeth ati i adfer yr ail feic tandem hefyd, ac aethon ni i gyd ar wyliau beicio. Dyna fydden ni'n ei wneud ar ein gwyliau teulu yn yr haf. Fydden ni'n mynd i ffwrdd am ddeg diwrnod - pythefnos, gyda'n bagiau beic yn llawn dop o bopeth yr oedd arnon ni eu hangen am bythefnos o wyliau, ac roedd yn andros o hwyl. Roedd yn rhywbeth i'r teulu. Byddai fy mam yn reidio, a byddwn i fel arfer gyda hi ar un tandem a'm tad a'm brawd ar y tandem arall, ac roedden ni wrth ein bodd, a dwi'n meddwl mai dyna lle cychwynnodd fy awch am feicio, roedd o'n rhywbeth yr oedden ni i gyd yn ei wneud efo'n gilydd. Mae gen i atgofion gwych o'r gwyliau yna, a phan gefais y cyfle i rasio roeddwn i am roi cynnig arni.

gallwn i fod yn dda am wneud hyn

Pan enillais Bencampwriaeth Cyclo-Cross Dan 12 Cymru, dyna'r tro cyntaf y meddyliais, “Aros funud, gallwn i fod yn dda am wneud hyn. Rwyf wedi curo'r holl fechgyn, felly mae'n rhaid fy mod yn gwneud rhywbeth yn iawn!" Dyna oedd yr hwb cyntaf o hyder a gefais i weld beicio fel rhywbeth y gallwn i ei wneud yn gystadleuol, ond doedd gen i ddim syniad o hyd pa mor bell y byddwn i'n gallu mynd. Felly, ar ôl siarad efo Mam a Dad, rhoddon nhw gefnogaeth i mi fynd ar daith rasio i'r Iseldiroedd, ac es i ar y daith yr haf canlynol pan oeddwn yn 12 oed, gyda thri beiciwr arall o Brydain. Roedd yn brofiad gwych gan fy mod wedi gweld y Tour de France ar y teledu. Roedd yna raglenni hanner awr o hyd ar Sianel 4, a bydden ni'n eu gwylio nhw gan wybod bod y Tour de France yn ddigwyddiad enfawr, a bod sîn rasio broffesiynol i'w chael allan yna. Ond doedd dim rasys rhyngwladol i'w cael ym Mhrydain, heb sôn am Gymru, ac yn y rasys yr oeddwn i'n cymryd rhan ynddyn nhw - roeddwn i yn y categori Dan 16 ar y pryd - mae'n debyg mai pedwar neu bum beiciwr rhwng 12 ac 16 oed fyddai ar y llinell gychwyn, felly ar ôl ychydig o funudau bydden ni i gyd ar wasgar. Felly roedd hi'n reit anodd cael cyfle i gystadlu go iawn wrth rasio, er ein bod yn cymryd rhan yn yr un ras. Doedd dim tacteg, na llawer o gynllun ar gyfer y ras; dim ond dechrau a cheisio aros wrth sodlau'r beicwyr cyflym mor hir ag a oedd yn bosibl. Yna byddai'n troi'n dreial amser, ac roedd yn rhaid i chi wneud eich ffordd at y llinell derfyn.

Rwy'n cofio'r daith rasio gyntaf yna i'r Iseldiroedd - roedd yn brofiad anhygoel. Roedden ni'n rasio mewn categorïau oedran blwyddyn, felly roeddwn i'n rasio yn erbyn bechgyn 12 oed o'r Iseldiroedd, o Wlad Belg ac o rai gwledydd eraill, ac roedden nhw wedi cau canol y dinasoedd ar ein cyfer; roedd yna sylwebyddion; roedd beiciau modur yn arwain y ras; cawsom gyflwyniadau anrhydeddus ar ôl y ras gyda blodau a chrysau, gan fod y camau'n cysylltu â’r ras camau iau, felly roedd gennym y crys melyn i'r arweinydd, y crys gwyrdd am gystadleuaeth y pwyntiau, a daeth tyrfaoedd o bobl i wylio. Roedd rhai'n berthnasau neu'n ffrindiau i'r beicwyr lleol, ac roedd pawb fel pe baen nhw'n cymryd rhan, ac agorodd fyd cwbl newydd i mi gan wneud i mi feddwl, "Waw! Pe bawn i'n feiciwr proffesiynol, dyma sut y gallai fod ym mhob ras". Roedd hynny'n ysgogiad go iawn i mi, ac rwy'n cofio dod yn ôl a sôn am y cyfan wrth mam a dad, ac wedyn daeth y cwestiwn mawr, "Sut ydyn ni'n mynd i wneud iddo ddigwydd?" Roeddwn i am geisio bod yn Bencampwr y Byd, yn Bencampwr Olympaidd, ond doedd neb o Dde Cymru na Phrydain hyd yn oed yn rasio'n rhyngwladol felly roedd taith ansicr o'n blaenau...ond roedden ni am roi cynnig arni.

Rwyf wedi cael fy magu gyda'r agwedd mai'r peth pwysicaf yw gwneud ein gorau, ac efallai meddwl am bethau ychydig y tu hwnt i'r cyffredin. Nid mynd ar wyliau gyda beiciau tandem oedd y ffordd arferol i deuluoedd fynd ar wyliau ar y pryd. Roedd Mam a Dad, y ddau ohonyn nhw'n beicio i'r gwaith yn aml, a bydden ni'n gwneud llawer o bethau ac yn cael llawer o brofiadau a oedd o bosib y tu hwnt i'r cyffredin. Felly, efallai fod fy mreuddwyd i am fod yn Bencampwr Olympaidd ychydig y tu hwnt i'r cyffredin, ond agwedd ein teulu ni oedd, "Iawn, beth am roi cynnig arni. Beth am fynd amdani?" Roedd ein traed ni wastad ar y ddaear wrth i ni fynd ati i wneud pethau, ac roedden ni'n gwybod y byddai angen llawer o waith caled ar hyd y daith, a llawer o ymroddiad, ond roedd yn rhywbeth yr oeddwn i wir am roi cynnig arno.

esiamplau i'w dilyn

Yn y 90au hwyr, roedd gennych chi Chris Boardman a oedd yn llwyddiannus, a Graham Obree hefyd, ond ychydig iawn o feicwyr o Brydain oedd yn arwain y ffordd mewn gwirionedd o ran sut i symud ymlaen o sîn rasio Prydain i'r sîn rasio ryngwladol. Roeddwn i'n ffodus iawn fod gennym ni ddau feiciwr da iawn yn fanma, Sally Hodge o Gaerdydd fu'n Bencampwr y Byd ar y trac ym mlynyddoedd olaf yr 80au, a Louise Jones a enillodd y fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad ym 1990. Felly'n weddol fuan wrth feicio, cefais gyfarfod â Louise a Sally, ac roedd y profiad hwnnw'n bwysig iawn i mi oherwydd gwelais y gallwn i fynd allan i'r byd a chystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd, ennill rasys, ennill yng Ngemau'r Gymanwlad. Rhoddodd hynny rywfaint o ysbrydoliaeth i mi - os gallan nhw ei wneud o, ac maen nhw'n dod o dde Cymru ac yn ymarfer wrth y Bwlch ac ar drac Maendy, wel rydw i'n ymarfer ar yr un ffyrdd, felly galla i ei wneud o hefyd. Felly roedd hynny'n bwysig iawn i mi, ond roedd y ddwy wedi ymddeol, felly dibynnais i raddau helaeth ar gefnogaeth fy rhieni i'm helpu i ddilyn fy nhrywydd fy hun i fyd beicio.

curo'r bechgyn

Roeddwn i'n 13 pan enillais am y tro cyntaf mewn Pencampwriaeth ym Mhrydain. Y Bencampwriaeth Cyclo-Cross Dan 16 oedd y gystadleuaeth, felly roeddwn i'n un o'r cystadleuwyr iau, ac roedd hi'n gychwyn cyfnod lle byddwn i'n dominyddu'r rhengoedd Dan 16. Enillais bedwar teitl Cyclo-cross yn olynol, teitlau Beicio Mynydd drwy'r categori Dan 16, tri theitl Treial Amser olynol. Ond ar y pryd, roedd pum Pencampwriaeth Trac i Fechgyn Dan 16, a dim i'r merched, ac mi feddyliais i, "Iawn, rwy'n reidio o amgylch y trac, mi wnes i rasio i fyny ym Maendy, roeddwn i'n cystadlu am y gorau yn fanna yn erbyn y bechgyn, yn curo'r bechgyn yn y rasys", ac felly siaradon ni â Beicio Prydain, "Gaf i reidio yn ras y bechgyn?" "Na, chei di ddim gwneud hynna!" "Wel, gaf i rasio yn ras y menywod?” “Na, chei di ddim gwneud hynna!" Felly, yn y diwedd, gwnaethon ni ysgrifennu llythyr i Beicio Prydain gan ofyn "Plîs allwch chi gynnal Pencampwriaeth Trac i Ferched Dan 16?", a dyna wnaethon nhw ym 1998. Cawson ni'r Bencampwriaeth Trac gyntaf erioed ym Mhrydain i Ferched Dan 16, ac fe wnaeth saith ohonon ni reidio a mynd amdani go iawn, rhoi ein gorau, ac enillais i bob un o'r pedwar digwyddiad gwibio, y digwyddiadau dygnwch a'r digwyddiadau gwibio, a'r flwyddyn ganlynol enillais bob un o'r digwyddiadau eto.

Felly cefais gyfnod hynod lwyddiannus yn ifanc, ac es i'n ôl i rasio i'r Iseldiroedd bob haf, yn y Rasys Camau i Feicwyr Ifanc, i rai Dan 16, ac ym 1997, â minnau'n 14 oed, enillais y digwyddiad cyfan, gan guro'r holl fechgyn o'r Iseldiroedd ac o Wlad Belg. Dyna oedd y tro cyntaf i hynny ddigwydd erioed yn hanes y Ras Camau - a oedd wedi’i chynnal ers tua deugain mlynedd. Roedd y rhestr o enillwyr yn cynnwys llu o enwogion a aeth yn eu blaenau i fod yn sêr beicio Yr Iseldiroedd ac yn sêr beicio proffesiynol ar ochr y dynion - felly roedd honno'n foment enfawr i mi, gwneud rhywbeth a oedd yn arbennig ac yn cael ei gydnabod y tu hwnt i Brydain Fawr.

Erbyn hynny, roedden ni’n cyrraedd blynyddoedd hŷn yr adran iau. Er mod i’n rasio ac yn ennill llawer ym Mhencampwriaethau Dan 16 Prydain, doedd ganddyn nhw ddim Pencampwriaeth Ras Ffordd Dan 16 i Ferched. Cefais fy mhen-blwydd yn un ar bymtheg y flwyddyn honno, a oedd yn golygu y gallwn reidio mewn ras ar y ffordd agored, oherwydd tan hynny bu'n rhaid i'r rhai Dan 16 reidio ar gylchffordd gaeedig er diogelwch, felly cofrestrais yng nghystadleuaeth elît Pencampwriaeth Ras Ffordd Prydain. Dwi'n meddwl mai'r wythnos y cefais fy nghanlyniadau TGAU oedd hi, ac aethon ni i fyny i Neuadd Milden lle mae'r Rali Trac Glaswellt yn cael ei chynnal, penwythnos hir, a buon ni'n rasio ar y Trac Glaswellt a hefyd yn cymryd rhan yn yr holl ddisgyblaethau eraill. Es i yno gyda Dad. Roedd gennym ni gynllun ar gyfer tactegau yn erbyn cystadleuwyr eraill, ac ar gyfer yr hyn yr oedden ni'n meddwl fyddai'n digwydd, ac enillais y ras - y Pencampwr ieuengaf erioed ym Mhrydain yn 16 oed, gan guro llawer o feicwyr a oedd hefyd yn dda iawn ar y pryd, felly roeddwn i'n bendant yn torri tir newydd, y teitl hŷn cyntaf, tynnodd hynny sylw llawer o bobl ata i. Mae'n anrhydedd cael gwisgo crys Pencampwr Prydain, ac rwyf wedi gallu gwneud hynny sawl gwaith, felly roedd yn foment arbennig a phwysig iawn i mi.

reidio i'r ysgol (ac i Sydney?)

Mae hi'n ddiwedd 1999. Roedd 2000 yn gam reit fawr i mi. Symudais i'r categori oedran Iau, ac o hynny allan byddwn yn targedu Pencampwriaethau Iau y Byd, felly roedd gen i lawer i edrych ymlaen ato. Dechreuais ymarfer yn galetach ar y reidiau ymarfer i'r ysgol. Fydden ni ddim yn mynd i'r ysgol y ffordd gyflym. Llwyddon ni i gael hyd i lwybr o amgylch ffordd yr arfordir ger Aberogwr a Southerndown, ac os wy’n cofio’n iawn, pan fydden ni'n dilyn y llwybr hiraf, bydden ni'n mynd dros dri bryn ar y ffordd ac yn gwibio mynd erbyn y diwedd cyn i ni gyrraedd Ewenni. Roedd hi'n sesiwn ymarfer heb ei hail ar y ffordd i'r ysgol yn y bore.

Rwy'n meddwl mai drwy'r gaeaf hwnnw yr oedden ni'n gwybod bod Gemau Olympaidd Sydney ar y ffordd, a fi oedd Pencampwr Prydain, felly roedden ni'n disgwyl clywed gan ddewiswyr Prydain ynghylch mynd i'r Gemau. Gan mai fi oedd y gorau ym Mhrydain, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n cael fy nghynnwys. Y tro cyntaf i ni glywed unrhyw beth oedd pan gysylltodd Ffederasiwn Beicio Prydain a dweud: Dydyn ni ddim yn mynd i'ch ystyried chi ar gyfer y Gemau Olympaidd o gwbl gan fod yr UCI - y corff llywodraethu ar gyfer beicio - wedi pennu isafswm oedran ar gyfer y Ras Ffordd Olympaidd. Mae'n un o'r digwyddiadau anoddaf, mae'n fwy na thair awr o hyd a'r isafswm oedran yw 19, ac fe fyddi di'n 17, felly chei di ddim mynd, felly dydyn ni ddim hyd yn oed yn mynd i'th ddewis di. Ymddangosodd y stori yn y wasg yng Nghymru ar y pryd, ac fe gysylltodd cyfreithiwr â mi a dweud, "Rydyn ni wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ymchwil, ac yn ôl y Siarter Olympaidd, 'Ni fydd oedran yn rhwystr'". Felly, aethon ni i weld y cyfreithiwr yma a siarad am yr hyn y gallen ni ei wneud, a dywedodd, "Rwyt ti'n aelod o Ffederasiwn Beicio Prydain felly gelli di ofyn i'r Ffederasiwn apelio ar dy ran, ac fe allan nhw gyflwyno apêl i'r UCI, ac fe ddylai'r broses o wrth-droi'r penderfyniad fod yn weddol syml". Ysgrifennodd lythyr i Ffederasiwn Beicio Prydain a'u holi ynghylch hyn, ac ysgrifennodd y Ffederasiwn yn ôl gan ddweud mai "trwy hap a damwain yr enillodd Nicole Bencampwriaeth Prydain"! Darllenodd y cyfreithiwr y llythyr i ni, ac fe gawson ni drafodaeth am y peth a dywedodd Dad, "Dydi hyn ddim yn iawn. Nid trwy hap a damwain yr enillodd hi. Roedd hi'n amlwg fod Nicole yn un o gystadleuwyr cryfaf y ras, a bydd yna rasys eraill ar ddod, felly cawn weld yn ddigon buan beth yw'r sefyllfa. Felly ysgrifennwch yn ôl a gofynnwch iddynt eto!” Yr wythnos ganlynol o bosib, cawsom rownd o gyfres Rasys Ffordd Prydain, a dyna oedd un o'r ychydig rasys lle'r oedd holl Dîm Hŷn Prydain yn cymryd rhan. Roedden nhw i gyd ar y llinell gychwyn. Roeddwn i yno hefyd, ac enillais y ras - ac roedd y safle 1af, 2il a 3ydd yn union yr un peth â'r hyn a gafwyd ym Mhencampwriaeth Prydain!

Ysgrifennodd fy nghyfreithiwr yn ôl a dweud, "Dydw i ddim yn meddwl bod mellt yn taro'r un lle ddwywaith. Beth am gefnogi Nicole a mynd drwy'r broses hon?" Rai wythnosau'n ddiweddarach, cawsom yr ymateb. Oddi wrth Brian Cookson o Beicio Prydain y daeth yr ymateb, a dywedodd, "Wel, os ydyn ni am ddilyn y broses hon, bydd yn rhaid i'r Bwrdd wneud penderfyniad yn ei gylch, a gallaf eich sicrhau y byddaf yn codi'r mater yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Tachwedd"! Ar ôl y Gemau Olympaidd! Felly, erbyn hynny roedden ni wir yn taro ein pennau yn erbyn wal. Penderfynon ni dderbyn y sefyllfa ar y pryd. Roedden nhw'n ymddwyn yn hollol afresymol, ac roedden ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu.

Roedd cyllid y loteri wedi cychwyn, felly roedden nhw wedi bod yn gwario llawer o arian ar y beicwyr, gan roi'r gefnogaeth orau iddyn nhw, ac yn fy nhyb i, mae'n debyg nad oedden nhw am weld plentyn ysgol 16 oed yn ymuno gyda'i thad ac yn eu curo nhw. Dylai'r tîm fod wedi cynnwys y goreuon o sîn Prydain. O'r cychwyn cyntaf, y cyfan yr oedden ni am ei wneud oedd ein gorau er budd Beicio ym Mhrydain - dyna pam y gwnaethon ni ysgrifennu i geisio cael Pencampwriaeth i rai Dan 16 a datblygu beicio. Fyddech chi'n meddwl mai ein nod ni a'u nod hwythau fyddai sicrhau cymaint o lwyddiant ag a oedd yn bosibl. Felly, dydw i ddim yn deall beth oedd eu cymhelliant, ond roeddwn wedi siomi'n fawr nad oedden nhw yno i'm cefnogi a'm helpu ar fy llwybr i wireddu fy mreuddwyd o ennill teitl Olympaidd.

teimlo'n fflat

Yn ffodus, roedd gen i Bencampwriaethau Iau y Byd i ganolbwyntio arnyn nhw, felly es i'm Bencampwriaeth Iau gyntaf. Mis Mehefin 2000 oedd hi. Pencampwriaeth Beicio Mynydd y Byd. Enillais fedal efydd, felly roedd yn gychwyn da, ond roeddwn yn hynod siomedig â hynny. Ar hanner ffordd, fi oedd wedi bod yn arwain y ras, ond wedyn aeth rhywbeth mecanyddol o'i le, sy'n gallu digwydd ar feic mynydd. Mae'n profi'r beic a'r cyfarpar i'r eithaf, ac roeddwn yn hynod siomedig â'r fedal efydd.

Ar ôl hynny, daeth Pencampwriaeth Trac Iau y Byd - profiad annymunol iawn â bod yn onest. Roedd Mam a Dad wedi bod mor gefnogol, yn gwneud cymaint, a phan gyrhaeddais un o'r rasys dywedodd y mecanic fod twll yn nhwb yr olwyn yr oeddwn wedi'i dewis yn arbennig am resymau aerodynameg, felly newidiais yr olwyn a reidio gydag olwyn wahanol, a doeddwn i ddim yn gallu ymlid yn dda iawn, ac yn y Ras Bwyntiau, deuais i'n bedwerydd, a oedd un pwynt oddi ar gyrraedd y podiwm, felly roeddwn i'n hynod siomedig. A phan ddeuais i'n ôl, roedd 'nhad yn gofyn, "Wel, pam na wnes di ddefnyddio dy olwyn?" a dywedais i, "Wel, roedd yna dwll ynddi, a doedden nhw ddim yn gallu newid y twb", ac mi wnaeth 'nhad daro golwg, gan fod y twb yr oedd wedi'i osod yn dal yn ei le, ond doedd o ddim yn gallu cael hyd i'r twll, edrychodd eto ac eto, a phwmpio llawer iawn o aer i mewn iddo fo. Roedd yn dal yn llawn ddiwrnodiau'n ddiweddarach! “Does dim twll ynddo. Does dim byd o'i le ag o!" Ac aeth fy mrawd ar Dreial Amser 10 milltir o hyd arno rai misoedd yn ddiweddarach, yr union un olwyn, yr union un twb! Felly gwnaeth llawer o bethau fy nhaflu i braidd yn y digwyddiad, a doedd o ddim yn brofiad braf iawn o gwbl i mi.

draw dros yr enfys

Ond unwaith eto, anelais at y ras nesaf, sef Pencampwriaeth Ras Ffordd Iau y Byd yn Llydaw, Ffrainc. Bu 'nhad a fi yno'r flwyddyn gynt i reidio o amgylch y cwrs, i weld beth oedd o'm blaen, ac enillais y ras. Dyna oedd un o uchafbwyntiau fy ngyrfa, roedd hi'n ddiwrnod arbennig iawn. Roeddwn i ym mlwyddyn gyntaf y ddau grŵp oedran, un o'r ieuengaf yn y categori, ac mi wnes i reidio'r beic yn awdurdodol iawn, gan orfodi pum beiciwr i dorri ymaith, wedyn llwyddais i drechu'r criw oedd wedi torri ymaith gan ddod yn fuddugol. Roedd hi'n ras wych. Roedd Mam a Dad yno, roedd fy mrawd yno hefyd, ac roedd hi'n foment arbennig iawn ennill crys enfys yn ogystal â throi'n Bencampwr y Byd.


rasiwr o'r radd flaenaf

Yn 2001, roeddwn i'n fy ail flwyddyn yn y gystadleuaeth Iau, a hefyd yn cwblhau fy Safon Uwch. Roeddwn i wedi sefyll TGAU mathemateg yn gynnar ac wedyn wedi dechrau mathemateg Safon Uwch hefyd, felly mewn gwirionedd roeddwn i wedi gorffen fy mathemateg Safon Uwch ym mlwyddyn gyntaf fy Safon Uwch ac yn gweithio ar ddau bwnc Safon Uwch yn fy ail flwyddyn, a hefyd yn cystadlu mewn cynifer o deitlau rhyngwladol yn y categori Iau ag y gallwn i. Ac rwy'n meddwl y flwyddyn honno fe gawson ni glwy'r traed a'r genau, felly oherwydd hynny wnes i ddim llawer o feicio mynydd drwy'r flwyddyn, gan ganolbwyntio ar y ffordd yn unig. Rwy'n meddwl mai mis Awst oedd hi pan es i i America lle'r oedd Pencampwriaethau Beicio Mynydd y Byd yn cael eu cynnal, ac enillais Bencampwriaeth Beicio Mynydd Iau y Byd, felly roedd y perfformiad hwnnw'n ffantastig. Rwy'n meddwl i mi rasio'n dactegol iawn, ac oherwydd hynny roedd modd i mi fanteisio ar fy nghryfderau wrth berfformio yn erbyn y beicwyr eraill, yn hytrach na dim ond mynd allan yna a defnyddio'r dacteg Treial Amser a ddefnyddiais y llynedd.

Ac wedyn, ryw fis yn ddiweddarach, cafwyd Pencampwriaeth Ras Ffordd y Byd a Phencampwriaeth Treial Amser y Byd, ac enillais y Treial Amser a'r Ras Ffordd. Enillais gyfanswm o bedwar o Deitlau Iau Rhyngwladol, a dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un erioed wedi gwneud hynny yn yr un flwyddyn o'r blaen, na chyda'i gilydd, nac ennill mewn disgyblaethau amrywiol, Beicio Mynydd a Rasio Ffordd ar Dreial Amser. Gall ddigwydd yn y felodrôm, ond roedd hyn yn golygu Beicio Mynydd, yn cynnig her o safbwynt technegol, trin a thrafod beic, Treial Amser, pŵer a chyflymder aruthrol, ac yna tactegau Rasio Ffordd, penderfynu ymosod a gwybod beth i'w wneud. Disgyblaethau gwahanol iawn i'w gilydd, felly roedd hynny'n llwyddiant aruthrol, ac yn glo hyfryd i'r hyn yr wyf yn ei ystyried yn gychwyn fy ngyrfa .

troi'n broffesiynol

2002 oedd fy mlwyddyn gyntaf fel beiciwr Hŷn, ac fe drois yn broffesiynol gyda thîm rasio yn yr Eidal, a oedd yn golygu bod angen i mi symud i'r Eidal. Rwy'n cofio gadael gyda ches fis Chwefror y flwyddyn honno. Roedd rhywun yn mynd i gwrdd â mi yn y maes awyrennau, wedyn mynd i gael trefn ar fy meic a chwrdd â chyd-aelodau'r tîm, roedd hi'n flwyddyn gyffrous iawn i mi. Y ddau brif beth y tymor hwnnw oedd dysgu am rasio proffesiynol - y tro cyntaf yn rasio mewn timau mawr - a hefyd Gemau'r Gymanwlad a oedd ar y gorwel ym Manceinion. Rwy'n meddwl i mi ennill tua phedair neu bum ras yn hanner cyntaf y tymor hwnnw, felly roedd yn gychwyn anhygoel wrth symud o'r rhengoedd Iau i'r rhengoedd Hŷn, gan ennill rasys, felly roedd yn brofiad anhygoel cael parhau i ennill rasys....ac wedyn daeth Gemau'r Gymanwlad.

beicio dros Gymru

Roedd y Gemau ym Manceinion, ac roeddwn i wedi bod i fyny yno ac wedi reidio'r cwrs y flwyddyn gynt, wedi tynnu lluniau o bopeth, felly roeddwn i'n barod, ond roeddwn i'n reit siomedig gyda'r Treial Amser, sef y digwyddiad cyntaf. Pan ddaeth y Ras Ffordd, dyna oedd fy nghyfle i unioni pethau a dangos yr hyn yr oeddwn i'n gallu ei wneud go iawn. Roedd hi'n anodd rheoli'r ras mewn unrhyw ffordd gan mai fi oedd yn reidio ar fy mhen fy hun mewn gwirionedd. Roedd fy nghyd-aelodau yno, ond pan ddaeth hi'n bryd dethol i greu'r grŵp terfynol, roeddwn i'n reidio ar fy mhen fy hun ac roedd hi'n galed iawn yn erbyn beicwyr Canada ac Awstralia. Roedd sawl beiciwr yn y grwpiau dethol hynny, ond fi enillodd y ras. Gwibiais ar gyflymder anhygoel ar y diwedd, ac enillais y ras. Roeddwn i wedi anelu am hynny, ond dydw i ddim yn meddwl i mi erioed fy ystyried fy hun yn un o'r ffefrynnau. Roeddwn i'n 19 oed ar fy nhymor cyntaf ac yn rasio yn erbyn beicwyr proffesiynol a oedd wedi hen ennill eu plwyf, ac mewn timau mwy hefyd. Roedd yn bendant yn un o'm diwrnodiau hapusaf fel beiciwr rasio. Roedd pawb o'm teulu yno ac roedd yr awyrgylch yn wych. Rasio dros Gymru, mae'n ychwanegu dimensiwn arall at y peth. Mae'n arbennig iawn. Cawson ni seremoni ragorol ar gyfer y medalau. Roedd yn deimlad gwych pan chwaraewyd anthem Cymru.

ennill profiad

Felly ar ôl fy nghamp fawr yng Ngemau'r Gymanwlad, fy nheitl Hŷn cyntaf, anelais wedyn am rasys eraill mawr, Cyfres Cwpan y Byd o rasys un diwrnod, ac wedyn y Gemau Olympaidd yn Athen yn 2004, fu'n brofiad enfawr i mi. Es i yno fel un o'r beicwyr i'w gwylio, yn bendant yn debygol o fod ymhlith y goreuon, ac yn y diwedd enillais y pumed safle, sy'n ganlyniad anhygoel, ond gan fy mod yn anelu am y podiwm, neu o bosib yn anelu i fod yn fuddugol, roedd y siom yn aruthrol. Dysgais gymaint o'r profiad yna. Roedd yna bwysau mawr arna i. Roedd yn wahanol i unrhyw beth a brofais erioed o'r blaen. Roedd pawb fel pe baent wedi gwella'u gêm ar gyfer y ras arbennig honno, gan mai dyna'r ras bwysicaf ym mywydau pobl dros gyfnod o bedair blynedd.

beijing

Bu'r cyfnod o baratoi am Beijing yn llawn trafferthion. Ges i anaf i'm pen-glin yn 2007, felly bu'n rhaid i mi gael llawdriniaeth twll clo ddiwedd 2007, a rhoi'r gorau iddi cyn diwedd y tymor. Felly roedd yr awyrgylch eisoes yn dynn o ran paratoi. Ydw i ar y trywydd iawn? Ydi popeth yn mynd i fod yn barod o ran ymarfer a pharatoi? Es i allan i Beijing ym mis Rhagfyr 2007, dilynais y cwrs a saethu llawer o fideos fel bo modd i mi edrych arnyn nhw dros y misoedd nesaf wrth baratoi'n wirioneddol i fynd i'r Gemau. Roedd yr anaf i'm pen-glin yn dal i roi ychydig o boen i mi, hyd yn oed ar ôl y llawdriniaeth, a dim ond ddiwedd mis Ionawr yr oeddwn i'n gallu dechrau ymarfer. Byddwn i'n dal i gael poenau yn fy mhen-glin ar adegau wrth feicio, ond roeddwn i ar raglen ymarfer go iawn. Doeddwn i ddim yn siŵr o gwbl beth fyddai'r canlyniad. Roeddwn i'n gwybod pe bai modd i mi gael bloc da o dri mis y gallwn i weithio'n galed iawn a chyrraedd lefel perfformio o safon fyd-eang. Ond roedd llawer o ansicrwydd ynghylch hyn.

Llwyddais i wella o'm hanaf, a bu modd i mi ymarfer, wedyn paratoi'n gymharol dawel at y Gemau. Roeddwn i'n gwneud llawer iawn o rasio, ond roeddwn i’n dal heb fod ar fy ngorau, a dim ond drwy fis Gorffennaf yn y misoedd cyn y Gemau y dechreuais gyrraedd lefel ardderchog, ac roedd hynny'n amseru gwych. Roedd y cyfan yn dod at ei gilydd yn dda.

Rwy'n cofio pan gyrhaeddon ni Beijing, roedd yn brofiad gwahanol iawn i Athen, gan fod yno risgiau diogelwch, felly roedden ni wedi'n cyfyngu i'r pentref ac yn gorfod mynd i sesiynau ymarfer penodol ar y cwrs. Cawson ni ein sesiwn ymarfer olaf ar y cwrs ar y dydd Iau, felly bedwar diwrnod cyn fy ras, a gwnaethon ni ymarfer senario ar gyfer diwedd y ras gyda dau o’m cyd-aelodau yn y tîm, Sharon ac Emma, a'n Rheolwr GB hefyd, felly roedd yna bedwar ohonon ni, a gwnaethon ni feicio'n gyflym at y diwedd ac yna i fyny'r allt ac wedyn gwibio at y llinell derfyn, ac aeth y cyfan yn dda iawn iawn. Roeddwn i'n teimlo'n gryf iawn. Roedd fy amseru i'n gywir, ac roeddwn yn sylweddoli fy mod ar fy ngorau. Roedd y cyfan wedi dod at ei gilydd. Ac wedyn, dechreuais deimlo'n andros o nerfus, oherwydd yn hytrach na bod yn ras i'w hennill, roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n ras yr oeddwn i mewn perygl o'i cholli, oherwydd roeddwn i’n teimlo’n gwbl barod, a phe bawn i ddim yn ennill gyda'r paratoadau mor dda, byddai hynny wedi bod yn siom ofnadwy. Siaradais â'r seicolegydd, Dr Steve Peters, ac fe roddodd o gyngor da iawn i mi. Dywedodd, “Wel, rwyt ti'n rasiwr, rwyt ti wrth dy fodd yn rasio, felly pan ddaw'r amser dos amdani - rwyt ti wedi gwneud yr holl waith caled, rwyt ti wedi gwneud yr holl waith paratoi, ymlacia, a phan ddaw hi'n bryd i rasio, byddi di'n barod a bydd dy sylw wedi'i hoelio ar ddiwrnod y ras”. Roedd hynny'n help mawr.

y ras at y llinell

Roedd diwedd y ras, yr oedden ni wedi'i ymarfer fel tîm, yn bwysig iawn er mwyn barnu dros faint o bellter y gallwn ddefnyddio fy holl nerth heb i'm hegni ddarfod 50 metr cyn y llinell derfyn gan adael i bawb fynd heibio i mi, ond gwyddwn y byddai llawer yn dibynnu ar benderfyniadau gwirioneddol a greddf ar ddiwedd y ras. Wrth i'r ras fynd rhagddi, roeddwn yn marcio rhai o'r rhai a oedd yn cystadlu yn fy erbyn, torrodd fy nghyd-aelod, Emma Pooley ymaith ac aeth rhai o'r beicwyr gyda hi, felly roedd hi yn y criw a oedd wedi torri ymaith a minnau yn y clwstwr, ac roedd yn symudiad peryglus. Roedd Emma yn beicio'n gryf iawn, a gwelodd y timau eraill y perygl a mynd ar ei hôl hi, felly roedd modd i mi ddilyn a chadw fy egni, ac fe gafwyd canlyniad da iawn i'r cyfan oherwydd wrth i'r rasiwyr ddod nôl at ei gilydd, a dal i fyny â chriw Emma a oedd wedi torri ymaith, pan ddaeth y gyfres nesaf o ymosodiadau, roeddwn yn ffres ac roedd rhai o'r timau eraill yn wannach, nail ai am eu bod yn y criw a oedd wedi torri ymaith, na wnaeth lwyddo, neu am eu bod wedi mynd ar ôl y criw yna.

Felly, dros ben yr allt aeth y criw terfynol a oedd wedi torri ymaith - pum beiciwr. Roeddwn i yn un o'r criw yna, a gwelais y bwlch yn agor, a meddwl, "Hei, rwy'n adnabod y beicwyr yma, ac os yw'r ras yma'n un arferol, rwy'n meddwl mai fi fydd un o'r rhai cryfaf, felly mae pethau'n edrych yn dda". Felly roedd yn rhaid i ni barhau i weithio gan fod y clwstwr ond saith eiliad y tu ôl i ni. Gallen ni eu gweld nhw weithiau'n dod am ein gwarthau, ac aethon ni i lawr tuag at y danffordd derfynol wedyn i fyny'r allt at y llinell derfyn. Es i'n bwyllog iawn wrth fynd rownd y gornel, gan fod y glaw'n pistyllio ac roeddwn i ar deiars ysgafn, sy'n wych ar gyfer tywydd sych, ond heb fod yn dda pan fydd hi'n wlyb. Aeth y lleill yn gynt, gan fy ngadael i y tu ôl wrth fynd rownd y gornel, ac roedd yn rhaid i mi ddal i fyny efo nhw, ac rydw i wedi gweld y darn yna o'r ras yn cael ei chwarae'n ôl, ac mae'n edrych fel pe bai rhywbeth wedi mynd yn wirioneddol o'i le. Ond llwyddais i ddal i fyny â'r criw, ac wedyn wrth i ni gyrraedd y tro olaf a mynd tuag at y llinell derfyn, meddyliais, "Reit, dwi'n mynd i ymateb i'r her. Dwi'n mynd i fynd amdani." Fi oedd yr un cyntaf i ymosod ac i gyrraedd y blaen. Roeddwn i'n gwybod y byddai'r beicwyr eraill ar fy ôl i yn fy sgilwynt, ond roeddwn i'n gwybod fy mod wedi gwneud yr ymarferion iawn ar gyfer y math yna o orffeniad. Roeddwn i wedi cael hyd i allt i ymarfer arni drwy gydol y flwyddyn a oedd yn debyg i'r un yn y ras, ac roeddwn i'n gwybod y gallwn daro'r sbardun am y tro cyntaf a chadw'r cyflymder, ac wedyn taro'r sbardun eto'n nes at y llinell, a dyna a ddigwyddodd!

Roeddwn i'n gwybod fy mod wedi ennill tua thri metr ar ôl i mi groesi'r llinell gan fy mod i wedi canolbwyntio gymaint ar groesi'r llinell yna, ac ar ôl rhoi bron pedair blynedd ar ddeg o waith i mewn i ras arbennig, y peth olaf yr oeddwn am ei wneud oedd tynnu'n ôl a gadael i rywun fynd heibio yn y metrau neu'r centimetrau olaf hyd yn oed. Roeddwn i wedi bod yn ailadrodd y peth drosodd a throsodd, "Mae'n rhaid i mi ganolbwyntio ar y llinell yna". Mae digonedd o amser i ddathlu os bydd pethau'n mynd yn dda, felly gwna'n siŵr dy fod yn croesi'r llinell.

gorfoledd wrth ennill

Y foment. Wel, mae'n deimlad unigryw iawn, oherwydd mae fy nghorff wedi cyrraedd pen eithaf ei allu, rwy'n anadlu'n galed, fy nghoesau'n ffrwydro, fy ysgyfaint yn ffrwydro, felly rwyf wedi gwthio fy nghorff hyd yr eithaf, ac ar ôl hynny - y llawenydd o ennill ac o wireddu breuddwyd. Fyddwn i erioed wedi dychmygu y byddwn i'n dathlu fel y gwnes i, yn sgrechian a phopeth arall a ddigwyddodd, ond dim ond yr holl angerdd yna'n cael ei ryddhau oedd hynny, gan fy mod wir eisiau ennill. Y dathlu, dyrnu'r awyr, allwn i ddim tynnu'r ddwy law oddi ar fariau'r beic, gan nad oedd gen i ddigon o egni ar ôl. Roeddwn yn fy nyblau’n ceisio cael cymaint o aer yn ôl i'm hysgyfaint ag a oedd yn bosibl, yr unig beth y gallwn i ei wneud oedd creu dwrn.

buddugoliaeth ddwbl

Nid oedd yr un dyn na'r un fenyw erioed o'r blaen wedi ennill teitl y Gemau a theitl y Byd yn y Ras Ffordd neu'r Treial Amser yn yr un tymor. Mae rhai wedi llwyddo mewn gwahanol flynyddoedd, ond nid yw hynny erioed wedi digwydd o fewn yr un tymor. Mae lle rydw i'n byw yn Lugano yn y Swistir yn agos iawn at y ffin â'r Eidal, ac roedd Pencampwriaeth y Byd tua phum milltir ar hugain, neu ugain milltir o'r lle rydw i'n byw. Rhoddodd y Gemau Olympaidd gymaint o hyder i mi. Roeddwn i wedi ennill medalau arian, medalau efydd yn Nheitlau Hŷn y Byd yn y blynyddoedd cynt, ond doeddwn i ddim wedi ennill Pencampwriaeth Ryngwladol erioed o'r blaen a meddyliais, "Efallai mai eleni fydd hi". Felly ceisiais fynd o amgylch y cwrs sawl gwaith, ymarfer ar y cwrs, yna reidio adref, a oedd yn ffordd dda iawn o baratoi am Bencampwriaethau'r Byd. Roeddwn i'n gwybod nad oedd neb erioed wedi ennill y dwbl, felly roeddwn i'n meddwl mai ychydig o siawns oedd gen i i lwyddo, ond roeddwn i'n mynd i roi cynnig arni.

Rwy'n meddwl bod ennill y Gemau Olympaidd wedi helpu, gan nad oeddwn i'n ysu i ennill i'r un graddau â'r blynyddoedd cynt, ar ôl ennill y medalau efydd ac arian. Mewn gwirionedd, roeddwn i'n gallu bod ychydig yn dawelach fy meddwl am y ras, ac am bopeth a ddigwyddodd ar y lap olaf. Roeddwn i'n un o griw o bump o feicwyr a oedd wedi torri ymaith. Roedd y criw'n cynnwys dau Almaenwr, felly meddyliais fod ganddyn nhw fantais o ran rhifau dros Marianne Vos o'r Iseldiroedd, Hansen a minnau, ac rwy'n meddwl, o fod wedi ennill y Gemau, fy mod wedi gallu bod ychydig bach yn dawelach na'r arfer. Fel arfer, fydda i'n mynd ar ôl unrhyw beth, heb fod am i'r ras lithro o'm cyrraedd, ac fe ges i arbed ychydig mwy o egni nag arfer, a phan ddaeth diwedd y ras, rwy'n meddwl mai dyna un o wibiadau gorau fy ngyrfa. Roedd Marianne Vos yn arwain y blaen, a bu modd i mi ddeifio am ei holwyn gefn, i mewn i'r sgilwynt i'm sbarduno ymlaen er mwyn mynd heibio iddi.

Roedd yn rhy anhygoel i mi allu credu'r peth i ddechrau. Medal aur yn y Gemau Olympaidd, rydych yn breuddwydio am hynny; a chyda Teitl y Byd ar gyfer beicio, rydych chi'n ennill crys enfys sy'n eiconig iawn. Dim ond pencampwyr y byd a all ennill y crys enfys, ac mae pawb yn gwybod beth yw ei arwyddocâd a'i ystyr, felly rydw i wedi breuddwydio am gael gwisgo'r crys enfys. Rydych chi'n meddwl am yr holl feicwyr anhygoel sydd wedi bod yn Bencampwyr y Byd o'ch blaen. Mae'r Eidalwyr wrth eu bodd yn beicio, ac roedd yn agos at ble roeddwn yn byw, felly roedd gen i gymaint o ffrindiau yno a oedd wedi dod draw i'm gweld ac i'm cefnogi. Mae'r Eidalwyr wrth ei bodd â'u pencampwyr a rasio, felly roedd o'n lle gwych i ennill teitl y Byd.

2012

Roedd mynd i'r Gemau Olympaidd am y drydedd waith yn Llundain yn arbennig iawn. Roedd y Gemau Olympaidd yn digwydd gartref, yn gyfle i gynrychioli eich gwlad o flaen cynulleidfa gartref, o flaen yr holl gefnogwyr, eich teulu, eich ffrindiau, yn ddigwyddiad cwbl anhygoel i gael ei gynnal ym Mhrydain, ac yn ddigwyddiad arbennig iawn iawn pan ddaeth diwrnod ein ras. Ni fu'r paratoi'n gwbl ddidrafferth i ni yn nhîm Prydain Fawr. Roedden ni wedi bod i Bencampwriaeth y Byd y flwyddyn gynt, lle enillais y pedwerydd safle - o fewn dim i ennill medal - ond doedden ni ddim wedi cael cyfnod da o baratoi cyn y gystadleuaeth mewn gwirionedd. Doedd dim gwersylloedd hyfforddi na dim, felly cawson ni ein taflu at ein gilydd ar ddiwrnod y ras, ac aeth pethau o chwith. Mae Beicio Prydain wedi dysgu yn sgil y camgymeriadau, felly cawson ni gyfnod gwell o baratoi am y Gemau na'r Bencampwriaeth Byd ddiwethaf, a hefyd o gymharu â'r Gemau Olympaidd eraill yr oeddwn i wedi cymryd rhan ynddyn nhw.

Rydyn ni wedi datblygu o gael fi fy hun yn cynrychioli Prydain Fawr ar ddiwedd y ras i gael tri beiciwr a all sicrhau canlyniad. Roeddwn i , Emma Pooley a Lizzie Armitstead â'r gallu i ennill medal a sicrhau canlyniad y diwrnod hwnnw, felly bu'n rhaid i ni feddwl am strategaeth ar gyfer y ras a oedd yn gweddu i bawb. Wrth Rasio Ffordd, mae tactegau'n hanfodol, mae'n hanfodol cael eich tactegau'n iawn, ac felly yn Llundain, roedd yn rhaid rhoi'r tîm o flaen yr unigolyn - roedd y tîm yn bwysicach na'r unigolyn. Felly, dewison ni strategaeth lle bydden ni'n gallu manteisio ar ein cryfderau - ac mae gan bob un ohonom wahanol rinweddau fel beicwyr - felly byddai hynny'n gymorth i benderfynu pwy fyddai'n gweddu'n naturiol i fath penodol o gynllun ras, yn dibynnu sut fyddai'r ras yn datblygu. Ac fel roedd hi'n digwydd ar y diwrnod, llwyddodd Lizzie Armitstead i ymuno ag un o'r criwiau cyntaf i dorri ymaith a llwyddodd i gadw ar y blaen, wedyn symudodd Emma a minnau i'n rolau i gefnogi Lizzie, a llwyddodd hi i ennill y fedal arian. Felly, fel tîm, dyna'r gorau y gallen ni fod wedi'i ddisgwyl. Roedd yn berfformiad ffantastig. Enillon ni fedal arian, y fedal gyntaf i Brydain fawr yn Ngemau Olympaidd y flwyddyn honno.

Ar lefel bersonol, oeddwn, roeddwn i’n siomedig na chefais gefnogaeth lawn y tîm i fynd amdani i ennill dau deitl Olympaidd. Emosiynau cymysg i mi, ond roeddwn i'n gwybod fy mod i wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer y ras. Rwy'n siomedig i mi golli cyfle, ond ar yr un pryd, rwy'n dal i fod yn Bencampwr Gemau Olympaidd Beijing, a bydd hynny wastad yn wir. Felly mae'n debyg ei bod hi'n haws ymdopi â siom Llundain gan fy mod i eisoes wedi ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd. Ond dyna fel mae hi wrth Rasio Ffordd weithiau, ac mae'n rhaid i chi dderbyn y peth.

gêm fawr o wyddbwyll

Mae dwy agwedd iddi. Un yw cadw pawb arall yn ôl ac amharu ar allu beicwyr i ymlid, ond wedyn, yn ail, fel y digwyddodd pethau yn Beijing, pan fydd cyd-aelod o'ch tîm ymhellach i fyny'r ffordd, gallwch arbed eich ynni ac, er eich bod o bosib yn amharu ar yr ymlid, mae'n golygu defnyddio llawer llai o egni na phe baech chi wedi bod yn gweithio yn y toriad neu'n gweithio o fewn y clwstwr. Felly roeddwn i'n gobeithio y byddai'r toriad yna'n dychwelyd, ac roeddwn i wedi gwneud penderfyniad tactegol. Wrth i mi weld y criw yn torri ymaith, meddyliais y byddai'n methu ac y byddwn i wedyn yn ymosod. Ond, fel roedd hi'n digwydd, roedd pedwar beiciwr yn y criw, gan gynnwys Shelley Olds o America a oedd yn wibiwr cyflym iawn. Roedd hi wedi curo'r holl feicwyr yna bythefnos yn ôl ar Daith yr Eidal, a dydw i ddim yn meddwl y byddai wedi creu'r cyfuniad cywir - pedwar beiciwr i dair medal. Dydw i ddim yn meddwl y byddai wedi gweithio'n dda.

Ond wedyn, cafodd Shelley Olds dwll yn ei theiar, felly mae'r gwibiwr cryfaf allan o'r gystadleuaeth, ac mae tri beiciwr i dair medal yn gweddu i'r dim. Felly'r funud honno, newidiwyd dimensiwn y ras, ac allwch chi ddim ystyried, "O, rwy'n meddwl bod hon a hon yn mynd i gael gwrthdrawiad mewn tri chilometr". Allwch chi ddim dweud hynny, ac allwch chi ddim meddwl, "O, os bydd hon a hon yn cael twll yn ei holwyn, mae hynny'n newid pethau". Mae'n rhaid i chi wneud penderfyniad yr eiliad honno, ac ar y pryd hwnnw. Roedd yn benderfyniad da edrych ar gryfderau'r beicwyr a'r niferoedd, ond mae hynny hefyd yn rhan o rasio ar feic - gall gwrthdrawiadau, tyllau mewn teiars a phethau annisgwyl ddigwydd - a cheisio ymateb ac ymdopi â'r rheiny yw'r hyn sy'n gwneud Rasio Ffordd yn rhywbeth mor gyffrous, a'r hyn sy'n rhoi cymaint o wefr i'r rasiwr yw eich bod ar y llinell gychwyn, ond does gennych chi ddim syniad beth fydd yn digwydd, na sut mae'r ras yn mynd i ddatblygu, ac ymateb i'r newidiadau hyn a'r gêm fawr o wyddbwyll sy'n newid wrth i'r timau ddefnyddio'u domestiques a'u gweithwyr i wneud rhai tasgau, ac wedyn mae gynnoch chi'r arweinwyr: “Ydyn nhw'n mynd i aros, neu ydyn nhw'n mynd i ymosod neu lansio'u hunain oddi ar ymosodiad rhywun arall”. Mae cymaint o senarios ar gyfer pob ras unigol, a dyna sy'n rhoi'r wefr i rywun. A phan fydd pethau'n llwyddo, mae'n anhygoel.

Mae'n hanfodol i chi roi eich tîm yn gyntaf. Roedd pawb wedi ymroi'n llwyr i'r tîm ac i amddiffyn pa feiciwr bynnag a oedd yn y criw a oedd wedi torri ymaith sydd, fel y dywedais, yn dda i'r tîm ond hefyd yn dda i'r beiciwr yn y clwstwr os oedd y toriad yn methu. Felly, efallai fod rhan ohonof yn gobeithio y byddai'r toriad yn methu er mwyn i mi gael fy nghyfle wedyn, ond nid fi oedd yn debygol o gael y dewis. Roedd y cyfan yn mynd i ddibynnu ar allu'r beicwyr o fewn y clwstwr a'r modd y byddai'r beicwyr yn torri ymaith.

cyffuriau

Mae yna lawer o sylw’n cael ei roi i gyffuriau mewn chwaraeon, cyffuriau ym myd beicio, ac rwyf wastad wedi beicio'n lân, a dyna'r unig ffordd yr hoffwn i rasio, ac i mi mae gwybod fy mod wedi gweithio'n galed iawn bob tro wrth ennill, ac mai fy ymdrech i yn unig oedd yn gyfrifol am hynny, fy ngwaith caled i, mae hynny'n rhoi cymaint o foddhad i mi, ar ôl rasio'n lân mewn cyfnod lle'r oedd pobl yn cymryd cyffuriau.

Roedd gen i fy amheuon ynghylch beicwyr, ac fe gafodd rhai beicwyr eu dal a'u profi'n bositif. Felly, rwyf wedi profi diwrnod lle mai fi oedd y beiciwr glân cyntaf yng Nghwpan y Byd, ond lle gwnaeth rhywun arall gipio’r fuddugoliaeth a'r dathlu a'r ewfforia o fod wedi ennill Cwpan y Byd oddi arnaf. Cystadleuaeth Cwpan y Byd yn 2003 oedd honna, pan oeddwn yn 20, a phan enillodd Genevieve Jeanson o Ganada y Gwpan. Roeddwn i'n ail, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach cyfaddefodd ei bod wedi cymryd cyffuriau ers iddi fod yn un ar bymtheg oed. Felly, ydw, rwy'n gwybod sut brofiad yw cael rhywun arall yn dwyn y diwrnodiau hynny gennych chi, a fi fyddai'r unig feiciwr i fod wedi ennill pedair Cwpan Byd yn olynol. O'm safbwynt i, fi yw'r unig feiciwr i ennill pedair Cwpan Byd yn olynol, ond dydych chi ddim yn cael y ganmoliaeth na'r gydnabyddiaeth ar y pryd. Rwy'n deall yn iawn beth yw dioddef yn sgil gweithredoedd pobl eraill.

Mae rhywun arall yn dwyn sylw'r penawdau ar y diwrnod. Rwy'n dal i feddwl y gellid gwneud mwy, o ran gallu gwahardd pobl rhag cymryd rhan yn eu camp ar ôl cael canlyniad positif. Nid hawl yw cael cymryd rhan mewn chwaraeon yn fy marn i. Gêm ydi hi, ac rydych chi'n derbyn y rheolau ac yn chwarae yn unol â'r rheolau, ac os bydd rhywun yn torri'r rheolau maen nhw wedi cael eu cyfle. Mewn bywyd yn gyffredinol, rydw i'n meddwl ei bod hi'n iawn rhoi ail gyfle i rywun, ond mae chwaraeon yn wahanol. Rydyn ni'n batrymau ymddygiad, mae gennym ran bwysig iawn i'w chwarae mewn cymdeithas ac mae cam-drin gobeithion a breuddwydion pobl ifanc a allai fod yn addoli beicwyr - mae hynny'n gwbl annerbyniol.



(Cynhaliwyd y cyfweliad hwn yng nghartref teulu Nicole yn y Wig ar 12 Rhagfyr 2012. Phil Cope oedd yn cyfweld.)

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw