Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

DAI GREENE
hanes neidiwr clwydi

Cefais fy ngeni yn Llanelli ar 11 Ebrill 1986. Roeddwn i bob amser yn grwtyn bywiog iawn. Pêl-droed oedd fy nghariad cyntaf. Yn yr ysgol gynradd, dim ond pêl-droed o’n i am ei chwarae, ac, oherwydd hynny, fy arwr i ym myd y campau oedd Ryan Giggs. Person troed dde oeddwn i’n naturiol ond dysgais chwarae gyda’m troed chwith er mwyn i fi allu bod fel Giggs. Roeddwn i’n cymryd rhan mewn pob math o chwaraeon yn yr ysgol uwchradd. Criced, traws gwlad, badminton, gymnasteg. Roedd fy rhieni yn fy annog i ac yn fodlon mynd â fi i ble bynnag roedd ei angen. Wnaethon nhw erioed wrthod mynd â fi neu brynu unrhyw offer i fi; roedden nhw’n hapus mod i’n gwneud chwaraeon, ac roeddwn i’n hapus iawn gyda chwaraeon.

Yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd, dechreuais wneud rasys dros y clwydi a ffeindio fod y dechneg yn dod yn hawdd imi. Roeddwn bob amser yn gyflym iawn dros y sbrint byr ac roeddwn bob amser yn dda am redeg traws gwlad hefyd, felly, pan gefais wneud y clwydi 400 metr o dan 17, roedd hynny’n ddilyniant naturiol i mi; cymysgedd o dechneg a dygnwch oedd yn fy siwtio i i’r dim. Cyn gynted ag y trois i at y 400, dechreuais ennill rasys ar y lefel leol ac yna ar lefel sirol, a datblygodd pethau’n gyflym o hynny.

Byddwn i’n argymell fod plant yn gwneud cymaint o wahanol chwaraeon ag y gallan nhw. Y rheswm dwi di bod mor llwyddiannus gyda’r clwydi yw am mod i’n neidio gyda’r ddwy goes. Pan oeddwn i tua wyth neu naw, fe wnes i ddysgu fy hun i gicio pêl-droed gyda’m coes wan. Fe ddysges i fy hun mor dda nes bod gen i reolaeth wych drosti. Felly, pan ddaeth hi’n fater o neidio gyda’r goes arall, ro’n i’n gallu gwneud hynny’n syth. Mae sgiliau fel yna, a ddysgais yn ifanc iawn, yn gallu cael eu trosglwyddo i gampau eraill. Felly, pa mor ifanc bynnag ydych chi, mae angen ichi chwarae cymaint o chwaraeon gwahanol ag y gallwch chi.
Mewn athletau, mae 'na rywbeth i bawb, i rai byr, tew, tal, beth bynnag. Dim ots os ydych yn gyflym neu’n araf, mae 'na rywbeth i chi.

gwrthod y swans

Roedd gen i allu naturiol, dwi’n meddwl. Roeddwn yn rhagori ym mhopeth roeddwn i’n rhoi cynnig arno. Fe fues i gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Roeddwn wedi cael f’arwyddo nes byddwn yn 19, ond gwrthodais y contract pan ddaeth yr amser oherwydd doeddwn i ddim yn hoffi’r hyfforddwr. Roedd e’n teimlo mai’r ffordd orau o’m trin i oedd gweiddi arna i. Nid dyna beth oedd ei angen arnaf. Roedd arna i angen rhywun i roi ei fraich amdanaf a dweud wrthyf y gallwn wneud hyn, fy annog. Doedd gen i ddim llawer o hyder yn 16, 17 oed. Doedd fy rhieni ddim ond am imi fod yn hapus felly fe dderbynion nhw fy mhenderfyniad i adael. Pe bai gen i’r wybodaeth sydd gen i nawr am y gamp a’r hyfforddiant, a’r cadernid meddwl sydd gen i nawr, pe bawn i’n ôl yn fy nghorff yn 16 oed, yna byddwn yn sicr wedi gallu delio â’r sefyllfa, a dwi’n siŵr y byddwn wedi mynd yn bêl-droediwr proffesiynol. Does dim dwywaith am hynny. Ond y ffordd y gweithiodd pethau allan i mi, dyna sydd wedi fy ngwneud i’r hyn ydw i nawr, gymaint â hynny’n gryfach i ddelio â’r problemau yn y byd athletau.

ennill

Roeddwn bob amser yn ennill cystadlaethau pan o’n i’n iau, bob amser yn ennill y pencampwriaethau traws gwlad yn y rhanbarth, a rasys dros y clwydi, ond wnes i erioed feddwl bryd hynny, “Dwi’n bendant yn mynd i fod yn athletwr pan fydda i’n hŷn”. Pêl-droediwr oeddwn i am fod, a than oeddwn yn un ar bymtheg, dyna’r freuddwyd o hyd.

Mae’n siŵr mai tua diwedd fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol oeddwn i (sef fy mlwyddyn olaf yn cystadlu yn yr adran iau) pan gyrhaeddais i’r Ffeinal Ewropeaidd Iau a dod yn ail. Wnes i feddwl, “Dwi ddim rhy ddrwg am wneud hyn!”. Dwi’n cofio dweud wrth fy nhad yn 2006 y byddwn i, erbyn 2010, yn ennill mwy na fe a mam gyda’i gilydd, ac mai fi fyddai un o’r gorau yn y byd. Roeddwn yn cael f’ystyried yn bymthegfed pan es i yno a des oddi yno yn yr ail safle, wedi cnocio dros eiliad oddi ar fy PB (Gorau Personol), ac roedd pobl yn dechrau meddwl, “Rhaid inni gadw llygad ar y boi hwn i’r dyfodol. Mae ganddo dalent naturiol”.

Ac yna, y flwyddyn wedyn, es i lawr i 50 eiliad am y tro cyntaf, sy’n dipyn o garreg filltir, i ddweud y gwir. Mae’n bosib mai fi oedd yr athletwr Prydeinig cyntaf erioed i fynd o dan 50, a meddyliais, “Gallwn fynd yn bell fan hyn”. Ond wedyn fe gefais i sawl blwyddyn o anafiadau. Mae’n debyg mai 2008 oedd fy nhymor gwaethaf. Wnes i ddim torri drwodd o ddifrif tan 2009, gwneud beth ro’n i wedi’i addo dros y blynyddoedd, cyrraedd Rownd Derfynol Pencampwriaeth. Fe feddyliais i, “Reit, dyma ni. Dwi’n mynd i fod yn gystadleuydd go iawn yn y blynyddoedd nesa. Mae’r gallu gen i i fod i fyny yna gyda’r goreuon”. Er mai seithfed oeddwn i, dyna pryd y teimlais i mod i wedi dod i oed fel athletwr, ac roeddwn yn gwybod y gallwn fod yna yn Llundain a mwy dros y deng mlynedd nesa.

gwella’n rhy gyflym?

Fe rasiais i ddwywaith yn 2007. Roeddwn mewn cyflwr ardderchog ar ddechrau’r tymor, fe wnes i un ras er mwyn cael fy amser rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaeth Dan 23 Ewrop, ces anaf trannoeth a, chyn i fi sylweddoli, ro’n i allan am chwe wythnos. Fy ras gyntaf yn ôl oedd Pencampwriaeth Dan 23 Ewrop. Roedd rhaid i fi wneud y rhagbrofion a’r ras derfynol. Dim ond dwy sesiwn o’n i wedi’u gwneud ar y trac mewn chwe wythnos ond es ymlaen i ennill y ras gyda gorau personol, ac rown i’n gwybod y gallwn fod wedi rhedeg yn gynt hyd yn oed, pe bawn i wedi bod yn hyfforddi am y chwe wythnos. Felly, i fi, roeddwn bron ar frig fy ffitrwydd personol y flwyddyn honno, ond wnaeth e ddim digwydd. Cefais ragor o anafiadau ar ôl hynny, a’m cadwodd allan o dymor 2008. Ychydig o hyfforddiant ges i cyn mynd i mewn i dymor 2009 ond roeddwn yn gwybod mai mater o fwrw iddi a goresgyn fy mhroblemau oedd hi, a gwneud pethau’n iawn … a dyna wnes i. Doedd y bobl o’m cwmpas, fy nheulu a’m ffrindiau agos, doedden nhw ddim yn synnu at fy mherfformiadau achos roeddwn nhw’n gwybod mod i wedi gwneud amseroedd gwych yn y gorffennol ac roedden nhw’n gwybod mai’r cyfan oedd ei angen oedd imi ddod dros y trafferthion dechreuol. Un o’r problemau gydag athletau yw, os ydych yn gweld gwelliant anferth mewn amser byr iawn, yna mae rhai cyhyrau wedi cael eu hesgeuluso ac fe ddaw problemau yn sgil hynny, ac mae’n cymryd blynyddoedd maith i ddelio â’r problemau hynny a chael eich corff yn ôl i gyflwr arbennig. Bron iawn fod gwella mor gyflym wedi bod yn rhwystr imi. Doeddwn i ddim yn gallu cadw i fyny â’r cyflymder a’r pŵer roeddwn yn eu cynhyrchu drwy hyfforddi, a gwnaeth hynny ddrwg imi yn 2008.

mynd am yr aur

Roeddwn yn anelu at y fedal aur yng Ngemau Ewropeaidd Barcelona a Gemau’r Gymanwlad yn Delhi yn 2010. Gwyddem y byddai’r rheini yn bendant yn arwain at bethau uwch. Ar ôl fy nhymor yn 2009, ro’n i’n gwybod y gallwn gael yr aur, ond doedd hynny ddim yn gwneud pethau’n haws. Wrth i Barcelona agosáu, fi oedd y ffefryn amlwg, felly roedd pawb yn disgwyl i fi ddod adre â’r aur. Roeddwn yn falch iawn â’r ffordd yr aeth pethau draw yna. Rhedais Orau Personol yn y ffeinal. Allwn i ddim gofyn am ras well. Ac yna wedyn yn Delhi, ches i ddim cymaint o hwyl wrth baratoi ar gyfer hynny. Roeddwn i yn Qatar ychydig cyn y Gemau ac fe ges i firws, a methu ymarfer o gwbl. Yna mynd i Delhi a chael un sesiwn yn unig ar y trac cyn mynd i’r ras ei hun. Yn y tair wythnos cyn Delhi, dim ond unwaith roeddwn i wedi neidio dros y clwydi, sydd ddim yn ddelfrydol o gwbl mewn camp mor rhythmig. Roedd angen llawer o benderfyniad a chryfder i ddod trwy hynna, a dod nôl â’r aur. Dwi’n meddwl mai honna oedd fy ngorchest fwyaf oherwydd y problemau ges i cyn y gystadleuaeth.

O ran amser, fy mherfformiad gorau oedd curo rhif un y byd eleni, ond yn Delhi y rhoddais fy mherfformiad mwyaf, o ystyried y cyfnod cynt, bod mor sâl, colli deg diwrnod a dim ond cael a chael oedd hi imi ennill fy lle drwy’r rowndiau rhagarweiniol. Mynd o amgylch y trac ac yna gorfod ymdopi â’r cyfweliadau wedyn, hwnna oedd yr un mwyaf anodd. Roedd yn berfformiad cyflawn: fe wnes i lwyddo i gyflawni ar y noson ei hun, llwyddo i gadw ffocws er bod pobl wedi rhoi’r fedal aur o amgylch fy ngwddf cyn dechrau. Fe gefais i lawer o negeseuon caredig gan y bobl oedd wedi fy ngweld allan yno a gweld y trafferth ro’n i ynddo cyn hynny. Roedden nhw’n dweud mai dyna fy nghamp fwyaf o bell ffordd a dwi’n cytuno â hynny.

ymroddiad ac aberth

Dwi’n berson hynod o benderfynol a phendant, er nad yw hynny wedi dod dros nos. Dwi wedi bod yn y gamp ers rhyw bum mlynedd erbyn hyn, ac mae’n gwella bob blwyddyn. Dwi wedi cyrraedd y pwynt nawr lle mae popeth yn fy mywyd ynghlwm wrth athletau. Os ydw i’n hyfforddi’n galed iawn yn ystod y dydd, does dim pwynt i fi aros allan yn hwyr gyda ffrindiau, yn cael cwpwl o beints. Mae’n rhaid ichi wneud yn siŵr eich bod yn rhoi’ch bywyd cyfan iddo achos gallwch hyfforddi ar yr un llaw ac yna ddadwneud hynny â’r llaw arall, a fyddai dim diben gwneud hynny. Dwi wedi profi’r mannau isel yn y gamp felly dwi ddim yn cymryd dim yn ganiataol ac mae hynna wedi fy ngwneud i’n berson mwy gwydn, yn feddyliol. Mae wedi fy nysgu i ddelio â phethau ac wedi rhoi penderfyniad aruthrol i fi pan nad yw pethau’n mynd yn iawn, a dwi ddim yn mynd dros ben llestri wedyn pan ydw i’n cyrraedd yr uchelfannau ac yn aberthu popeth, am fod yr uchelfannau yna mor bleserus. Dwi wrth fy modd â’r teimlad o fod ar ben y podiwm a dyna pam mae’n rhaid ichi geisio canolbwyntio drwy’r flwyddyn, hyd yn oed pan fydd eira a gwynt a glaw y tu allan.

Mae’n siŵr fod athletwyr yn aberthu mwy nag unrhyw chwaraewyr eraill, a dydyn ni ddim yn cael cydnabydd-iaeth ariannol debyg i chwaraewyr pêl-droed a rygbi, oni bai mai Bolt yw’ch cyfenw chi. Dydyn ni ddim yn gwneud hyn i fod yn enwog nac i gael ein henw yn y papurau. Rydym yn gwneud hyn am eich bod chi eisiau bod y gorau am yr hyn rydych yn ei wneud, ac rydych eisiau ennill y medalau pwysig. Dyna sy’n fy ngyrru i ymlaen i wneud hyn i gyd, felly, i mi, mae’r aberth yn werth y cyfan.

rhys yn edrych dros fy ysgwydd

Dwi ddim am fod yn hunanfodlon oherwydd fy llwyddiant. Dwi eisiau parhau i wella drwy’r amser, a’r ffordd orau o wneud hynny yw cael eich cystadleuwyr o’ch amgylch chi. Mae cael Rhys [Williams] ar fy ysgwydd wedi bod yn dda. Dwi wedi llwyddo i’w gadw hyd braich eleni a dwi’n siŵr y bydd yn hyfforddi ddwywaith mor galed flwyddyn nesa er mwyn iddo fy nal i eto. Mae ffordd bell i gwympo o’r brig, a dwi eisiau bod y gorau yn y byd – tan hynny, fydda i ddim yn ymlacio.

Yn bersonol, dyw Rhys a fi ddim yn ffrindie agos. Dydyn ni ddim yn cymdeithasu oddi ar y trac. Busnes yw’r cyfan. Dydy’n hyfforddwr ni ddim yn gadael i ni fod yn gystadleuol wrth hyfforddi beth bynnag, felly dydy hynny ddim yn broblem. Rydym am gadw hynny nes ydym yn rasio, ac nid ar nos Fawrth.

rhedeg mewn fest goch

Dwi ddim yn cael cyfle i redeg dros Gymru yn aml iawn. Dim ond yng Ngemau’r Gymanwlad, felly mae rhedeg dros Gymru yn fwy o achlysur na rhedeg dros Brydain Fawr mewn ffordd. Dwi’n rhedeg dros Brydain bob blwyddyn, felly dyw e ddim mor unigryw. Dwi’n cael llawer o gefnogaeth pan dwi’n rhedeg dros Gymru ac, wrth gwrs, mae rhedeg mewn fest goch yn ychwanegu rhywbeth arbennig.

Ond nid oes byth densiwn rhwng y gwledydd cartref pan rydych yn rhedeg dros Brydain Fawr. Wel, rydym yn rhedeg dros Brydain y rhan fwyaf o’r amser. Mae ysbryd da iawn ymhlith y tîm ar hyn o bryd. Dwi ddim yn meddwl ei fod yn golygu cymaint os ydych yn dod o Loegr oherwydd roedd ganddyn nhw dîm athletau o gant ac 20 oedd gennym ni’n mynd i Gemau’r Gymanwlad. Felly, os ydych yn ennill medal dros Gymru, rydych yn cael tipyn mwy o glod, dwi’n meddwl, fel y dylech. Dylai ennill medalau mewn Gemau pwysig a pherfformiadau gwych gael eu cydnabod. Dwi’n meddwl fod hynny’n helpu Cymry eraill i weld y gallan nhw hefyd ddilyn eu breuddwydion a chyflawni pethau mawr.

Dwi ddim yn gwybod a fyddai cael Cymru yn y Gemau Olympaidd yn gweithio. A dweud y gwir, os ydych yn ennill aur yn y Gemau Olympaidd, does dim ots dros bwy rydych yn rhedeg, mae’n dal yn fedal aur Olympaidd. Mae’r un mor felys os enilloch chi hi dros Gymru neu dros Brydain.

2012

Dyw 2012 ddim ar fy meddwl i’n ormodol. Dwi’n weddol hamddenol gyda phethau felly. Dwi’n gwybod mod i mewn cyflwr da ar y funud, fe ges i flwyddyn wych a’r flwyddyn nesa dwi eisiau gwella ar hynny. Bydd hi’n 2011, ac mae Pencampwriaethau’r Byd i boeni amdanyn nhw yn y tymor hwnnw. Wrth gwrs, fydd hynny ddim hanner mor fawr â’r Gemau Olympaidd cartref, ond mae’n gam pwysig ar y daith. Mae gen i rai pethau i’w setlo, o ystyried fy mherfformiad yn Berlin pryd y gorffennais yn seithfed yn y ffeinal, a dwi’n gobeithio gwneud dipyn yn well y tro hwn a gorffen ar y podiwm gobeithio. Does dim dwywaith mai Llundain fydd cystadleuaeth fwyaf fy ngyrfa. Nid oes llawer o athletwyr yn cael cyfle i redeg mewn Gemau Olympaidd cartref pan maen nhw ar eu gorau a bydd tipyn o bwysau, ond dwi’n edrych ymlaen. Byddai’n well gyda fi fod yn Llundain nag yn unrhyw le arall, gyda phawb yn gweiddi drosta i.

Dydy hynny ddim yn codi ofn arna i. Bu dwy gystadleuaeth fawr eleni lle’r oeddwn i’n ffefryn cyn dechrau, disgwyl i fi ennill aur, ac mi wnes i hynny’r ddau dro, felly dydy’r ochr yna o bethau ddim yn fy mhoeni i. Am flynyddoedd cefais anafiadau a phroblemau, a phan ges i’r problemau hynny, roeddwn yn meddwl, “Dwi eisiau bod y gorau. Dwi eisiau bod ar y brig”, felly nawr, os ydw i’n cyrraedd pen y domen, yna dydw i ddim yn mynd i boeni am y disgwyliadau sy’n dod gyda hynny. Dwi wedi gweithio’n galed iawn a bob tro dwi’n camu ar y llinell dwi’n gwybod mod i wedi gwneud y gwaith caled, felly does gen i ddim amheuaeth yng nghefn fy meddwl.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw