Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

MICHAELA BREEZE
hanes codwr pwysau

Michaela Breeze yw f’enw ac ar hyn o bryd rwy’n byw yn Ivy Bridge yn Nyfnaint. Ganed fi yn Watford ar 17 Mai 1979. Bûm yn byw yno am naw mlynedd gyntaf fy mywyd nes i’m rhieni wahanu ac imi symud i Gernyw gyda’m mam. Wedyn des i Brifysgol Caerdydd ac astudio yn UWIC am bedair blynedd. Cymro yw fy nhad – cafodd ei fagu yn Llanidloes yn y Canolbarth, a dyna darddiad fy ngwreiddiau Cymraeg.

Athrawes ydw i yn ôl proffesiwn ac rwy’n hyfforddi hefyd ar hyn o bryd. Rwy’n hyfforddi pobl ifanc yn yr ysgol ym maes codi pwysau ac amryw o chwaraeon eraill. Rwy hefyd yn bennaeth y Rhaglen i Athletwyr Talentog a Dawnus lle rwy’n helpu rhai o’n pobl ifanc i wireddu eu potensial ym myd chwaraeon.

Rwy wedi bod yn frwdfrydig a gweddol athletaidd erioed. Roedd fy nhad yn athro Addysg Gorfforol felly cefais lawer o gyfleoedd pan oeddwn yn ifanc, a chymerais ran yn y rhan fwyaf o gampau. Roedd fy nhad am imi wneud athletau a phêl-fasged, ei gryfderau ef, a’m mam am imi wneud hoci a phêl-rwyd, ac, os ydw i’n hollol onest, pan wahanodd fy rhieni es drwy rhyw gyfnod gwrthryfelgar a phenderfynu gwneud rhywbeth o’m dewis i, a dyna sut y cefais fy hun yn gwneud tai kwan do a chodi pwysau.

Dechreuais godi pwysau pan oeddwn yn 13. Roeddwn yn gwneud athletau, roeddwn yn gwneud pêl-fasged, roeddwn yn gwneud popeth, a’r ysgogiad oedd ceisio dod yn gryfach fel y gallwn redeg yn gyflymach, neidio ymhellach a thaflu ymhellach. Yn 14 neu 15 oed, bu rhaid imi benderfynu a oeddwn am barhau ag athletau neu newid i godi pwysau pan oedd Pencampwriaethau Codi Pwysau Prydain yn cael eu cynnal yr un pryd â Phencampwriaethau Athletau De Lloegr. Dewisais godi pwysau.

dan adain cymru

Mae popeth ym maes codi pwysau yn troi o gwmpas Prydain Fawr. Nid nes imi symud i’r brifysgol yma yng Nghaerdydd y cafodd codi pwysau i fenywod ei gynnwys yng Ngemau’r Gymanwlad. Dyna pryd y bu rhaid imi wneud penderfyniad arall ac, iawn, roeddwn wedi fy ngeni yn Lloegr ond rwy’n hanner Cymraes ac roeddwn yn astudio mewn prifysgol yng Nghymru ac, ar y pryd, roeddwn yn cael nawdd gan Elite Cymru. Cymerodd Cymru fi dan ei hadain gan ddweud, “Rydyn ni’n credu ynot ti, ac rydym yn mynd i dy gefnogi a’th arwain i’r cyfeiriad cywir”. Heb amheuaeth, y gefnogaeth honno sydd wedi fy ngalluogi i gario ymlaen a llwyddo. Doedd dim penderfyniad i’w wneud: dyma Gemau’r Gymanwlad a thros Gymru y byddwn i’n cystadlu.

Mae gan Gymru draddodiad cryf mewn codi pwysau. Mae’n gamp y mae Cymru’n ennill medalau ynddi, yn enwedig yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae gennych Dave Morgan sydd wedi ennill medalau di-ri ac wedi cael gyrfa anhygoel o hir. Roeddwn yn ddigon ffodus i gystadlu gyda Dave ym Manceinion yn y gystadleuaeth olaf. Rwy’n credu iddo ddod yn ôl allan o’i ymddeoliad ar gyfer hynny. Gallaf ddweud wrthych na fyddaf fi’n dod allan o’m hymddeoliad; nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Mae’n siŵr gen i fod David wedi pasio’r baton i mi, a hoffwn feddwl fy mod wedi gwneud Cymru mor falch ag y medrwn, a nawr mae’n bryd i rywun arall gymryd drosodd.

Rwy’n cofio cystadlu ym Manceinion yng Ngemau’r Gymanwlad a’r gefnogaeth a gefais gan bawb gartref. Pan es i Melbourne, y negeseuon e-bost a gefais gan bobl nad oeddwn hyd yn oed yn eu hadnabod, sy’n dweud wrthych fod gennych gymaint o gefnogaeth gartref, fod pawb yn eich gwylio. Ac wedyn, i mi, yn Delhi, roedd ysgwyddo rôl y capten yn brofiad gwallgof. Roeddwn yn teimlo pwysau ychwanegol oherwydd hynny. Gwyddwn fod gennym wlad angerddol oedd yn disgwyl inni lwyddo.

uchafbwyntiau a phoenau

Gemau’r Gymanwlad yn Melbourne (2006) oedd un o’m llwyddiannau mwyaf i, nid yn gymaint oherwydd y fedal aur ond y cipiad 100 kilo mor fuan ar ôl adennill ffitrwydd llawn. Roeddwn wedi cael llawdrin-iaeth ar fy mhen-glin chwe mis cyn hynny. Fi oedd y ffefryn ar bapur ond wyddai neb yr hyn y bûm drwyddo, ac roedd dod yn ôl ac adennill fy ffitrwydd wythnos yn llythrennol cyn hynny, yna mynd allan a gwneud fy nghipiad gorau erioed – y 100 rhiniol! – ac ennill y fedal aur i Gymru, gwych. Dyna’r uchafbwynt, rwy’n meddwl.

Roedd y rhan fwyaf o bobl am imi roi’r gorau iddi yn 2000 pan gefais dorasgwrn straen yng ngwaelod fy nghefn. Rhoddodd hynny fi allan o’r gamp am rhyw ddeunaw mis. Gallwn fod wedi cael llawdriniaeth i wella’r broblem yn gyflym neu gallwn weithio ar fy sadrwydd gweithredol, fy rheolaeth weithredol, a dyna rwy wedi bod yn ei wneud. Fe lwyddon ni i sefydlogi fy nghefn fel y gallwn barhau i ymarfer a chystadlu. Pan ddaeth adeg Gemau Olympaidd Beijing, roedd yn anoddach cymhwyso nag oeddem wedi gobeithio. Roedd rhaid imi fod ar restr y deg gorau yn y byd i gymhwyso ar fy union ond roeddwn yn 13eg ar y pryd. Doeddwn i ddim wedi cyrraedd y safon, felly bûm yn ymarfer ychydig llai ac, o ganlyniad, collais rywfaint o ffitrwydd. Wedyn daeth yr alwad ffôn i ddweud mod i yn y tîm, ond, yn syml iawn, doeddwn i ddim yn barod. Dim ond chwe wythnos cyn y byddai disgwyl imi hedfan allan y cefais wybod. Felly, es i’r gampfa, es ati i ymarfer yn rhy galed yn rhy gyflym, a dechreuodd fy nghefn achosi problemau. Roedd y boen yn annioddefol ac roeddwn mewn cyfyngder cyn mynd allan. Roedd rhaid gwneud penderfyniad: ydw i’n aros neu ydw i’n mynd? Roedd yn benderfyniad anodd ond doedd neb i gymryd fy lle, felly, pe bawn i wedi tynnu allan, ni fyddai neb yn cynrychioli Prydain yn y codi pwysau. Dyna pam yr es i. Roedd y rhain yn Gemau Olympaidd; mae poen yn amherthnasol.

Roedd Gemau’r Gymanwlad yn Delhi yn wahanol, yn unigryw. Roedd yn brofiad rwy’n falch imi fynd drwyddo; mae’n brofiad na fyddwn am ei ailadrodd. Roedd Delhi yn wlad anodd iawn i gystadlu ynddi; roedd problemau cyn inni fynd, roedd problemau tra oeddem yno. Pan ofynnwyd gyntaf imi fod yn gapten Cymru, fe’m trawyd yn fud. Mae arwain eich gwlad mewn digwyddiad mawr fel hyn yn anrhydedd aruthrol. Dyma’r ffordd orau y gallaf ei dychmygu o orffen fy ngyrfa fel codwr pwysau rhyngwladol, y tro olaf un imi godi bar codi pwysau dros fy mhen.

trychinebus

Mae codi pwysau yn gamp leiafrifol, ac yn gamp i ddynion yn bennaf. Ychydig iawn o sylw a gaiff yn y cyfryngau, ac mae’n anodd iawn denu unrhyw fath o nawdd. Des i i’r gamp oherwydd mod i’n teimlo’n gryf am yr hyn rwy’n ei wneud ac am fod gen i dargedau yr oeddwn am eu cyrraedd. Roedd yn uchelgais gennyf fynd i’r Gemau Olympaidd, a chystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, felly byddwn wedi dyfalbarhau a cheisio gwireddu fy mreuddwydion gyda neu heb nawdd ariannol. Roeddwn yn lwcus iawn pan oeddwn yn y brifysgol fod Elite Cymru wedi fy nghymryd o dan ei adain a chynnig cymorth imi o ran ffisiotherapi, darpariaeth feddygol, ac unrhyw gymorth arall yr oedd ei angen arnaf – roedd yno imi.

Enillais fedalau yng Ngemau’r Gymanwlad ym Manceinion, enillais fedalau ym Mhencampwriaethau Ewrop. Wedyn, cyflwynwyd Cyllid Podiwm drwy UK Sport ac roeddwn yn ddigon lwcus i fod yn athletwraig oedd yn cael fy noddi tan 2008. Doedd yr arian ddim yn enfawr ond roedd yn fy ngalluogi i ganolbwyntio mwy ar ymarfer a pheidio â gorfod poeni am weithio cymaint, er fy mod wedi cael fy nghyflogi fel athrawes er 2001.

Rwy’n credu fod y cyllid i’r rhan fwyaf o gampau yn dal ar ei hôl hi braidd o ran y ffordd y caiff ei weinyddu; maent yn disgwyl i athletwyr gyflawni rhywbeth cyn y gwnânt gynnig cymorth. Mae yna bobl ifanc yn dod drwy’r rhengoedd a nhw yw’r rhai ddylai fod yn cael eu cyllido i sicrhau canlyniadau. Ond wedyn, sut mae cyllido rhywun nad yw wedi cyflawni dim? Mae’n anodd iawn.

Ym maes codi pwysau, mae’r cyllid yn drychinebus. Pe bai codi pwysau’n ennill medal yn y Gemau Olympaidd, caem ein cyllido’n eithriadol o dda. Rwy’n credu fod angen mwy o fuddsoddi ar lawr gwlad, ar y seiliau er mwyn dod â phobl ymlaen. Ar hyn o bryd, does dim seiliau ym maes codi pwysau.

Ond mae bywyd yn rhy fyr i gwyno. Fy agwedd i nawr yw, “Beth bynnag sy’n cael ei daflu atoch fel athletwr, deliwch ag ef”. Mae uchafbwyntiau ac iselbwyntiau, mae gwleidyddiaeth, mae yna bobl mewn mannau na fyddech am iddynt fod yna. Bu yna bobl mewn mannau gydol fy ngyrfa sydd wedi fy llesteirio, wedi ceisio fy nal yn ôl, sydd wedi bod yn genfigennus o’r hyn rwy wedi’i gyflawni, sydd wedi bod yn boen o’r mwyaf, ac, rwy’n siŵr, hebddyn nhw, byddwn wedi mynd ymlaen i gyflawni mwy a gwneud yn well ond, yn y pen draw, does dim y gallwch ei wneud am hynny. Y neges y byddwn yn ei rhoi i unrhyw athletwr yw, “Dal i fynd. Dim esgusodion. Delia â’r anawsterau a bydda’r gorau y galli di fod”.

rhoi’r gorau iddi

Ymddeolais o godi pwysau ar ôl Gemau’r Gymanwlad yn Delhi yn 2010, ac roeddwn yn ymwybodol iawn y byddai tipyn o fwlch yn fy mywyd. Dechreuais pan oeddwn yn 13, ac rwy wedi bod yn ymarfer, yn llythrennol, am y 18 mlynedd diwethaf; yr unig seibiant rwy wedi’i gael yw pan orfodwyd hynny arnaf oherwydd anafiadau. Ches i ddim gwyliau bron yn yr 16 mlynedd gyntaf; ac, a bod yn onest, mae fy nghorff wedi gweithio mor galed fel na allaf ymdopi bellach. Mae’n debyg y dylwn fod wedi ymddeol ar ôl Beijing ond, yn feddyliol, nawr, rwy’n barod. Mae’n bryd rhoi’r gorau iddi a phasio’r baton ymlaen i rywun arall.

Mae llawer o bobl yn breuddwydio, ac eisiau mynd ymlaen i gyflawni pethau mawr; ychydig iawn ohonom sydd â’r ddawn, y cyfle, y potensial a’r gefnogaeth i wneud hynny. Wrth edrych yn ôl ar fy ngyrfa, rwy mor ddiolchgar i’r holl staff cymorth, heb anghofio’ch rhieni, eich hyfforddwyr, eich ffisio, eich ffrindiau, pawb sydd wedi bod yn gefn ichi, a chymaint y maen nhw wedi’i roi ichi fel athletwr. Mae’n debyg mod i wedi cymryd hynny yn ganiataol braidd ac rwy’n difaru na fyddwn wedi gwerthfawrogi hynny’n fwy pan oeddwn yn hyfforddi.


Pe bawn yn disgrifio fy hun fel athletwraig, cyn imi ymddeol: ymroddedig, llawn cymhelliad, rwy am ddweud hunanol, ond byddai â ffocws cryf yn nes ati. Rwy wedi gorfod bod yn gul fy meddwl yn fy ffordd, er mwyn cyflawni’r hyn a gyflawnais.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw