Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

LIZ JOHNSON
Hanes nofwraig
Fy enw i yw Liz Johnson. Cefais fy ngeni yng Nghasnewydd ar y 3ydd o Ragfyr 1985 ac ar hyn o bryd dwi’n byw yng Ngaerfaddon. Cefais fy ngeni gyda pharlys yr ymennydd ac er na ddiffiniodd hynny pwy ydw i fe ddiffiniodd y dewisiadau a wnes yn fy mywyd. Roedd fy rhieni wastad yn weithgar iawn yn sicrhau fy mod yn cymryd rhan ac yn annibynnol iawn, felly roedd gan chwaraeon ran bwysig iawn yn fy mywyd er pan oeddwn yn ifanc ac, am wn i, fe wnaeth hynny ddylanwadu mewn rhyw ffordd ar y person ydw i nawr.

Roedd angen imi symud cymaint â phosib a hyfforddi f’ymennydd gymaint ag y gallwn er mwyn bod ar yr un gwastad â chyfoedion abl o gorff, felly fe es i i’r dosbarthiadau i gyd. Fe ddysgais i nofio, yn bennaf dwi’n meddwl am fod fy rhieni’n ofni y byddwn yn boddi pan oedden ni ar ein gwyliau. Roeddwn yn chwarae chwaraeon o bob math ar y stryd, pethau fel pêl-droed, beth bynnag oedd ar y teledu ar y pryd, boed hynny’n Wimbledon neu’r Uwchgynghrair Bêl-droed.

gwersi gyrru

Fe es i drwy fy mywyd ysgol i gyd yng Nghasnewydd, ac yna symudais i Abertawe, yn bennaf ar gyfer y nofio, ond roedd hefyd yn golygu y gallwn astudio am radd yr un pryd. Tra oeddwn i’n gwneud fy arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Gyfun Basaleg yng Nghasnewydd, roeddwn yn hyfforddi yn Abertawe. Dyna’r amser anoddaf yn fy mywyd mae’n debyg achos roeddwn yn gyrru 800 milltir yr wythnos ac yn ceisio hyfforddi ac astudio. Dyma fyddai diwrnod arferol i mi: deffro tua hanner awr wedi pedwar a gyrru i Abertawe a nofio am ddwy awr o chwech tan wyth; yna gyrru’n ôl i Gasnewydd i fynd i’r ysgol; yna, pan âi’r gloch am hanner awr wedi tri, ’nôl i Abertawe am ddwy awr arall o hyfforddi; a chyrraedd adref rhwng chwarter i naw a chwarter wedi naw, yn dibynnu ar y traffig a pha mor flinedig oeddwn i. O ran addysg a nofio, dyna oedd fy unig opsiwn ar y pryd, achos doedd dim lle i nofio yng Nghasnewydd ac roedd hi’n gwneud synnwyr imi aros yn yr ysgol gydag athrawon a ffrindiau oedd yn fy nabod i fel y gallen nhw fy nghefnogi. Fe eisteddais i lawr gyda fy mam i geisio penderfynu ar yr opsiwn gorau, er mwyn imi allu cyrraedd y nodau yr oeddwn wedi’u gosod i mi fy hun. Dyna oedd yr unig opsiwn ac fe weithiodd achos fe es i i Athen ac fe ges i fedal arian a oedd, ar y pryd, y gorau y gallwn fod wedi gobeithio amdano, ac fe ges i hefyd y canlyniadau Safon Uwch yr oedd eu hangen arnaf i gael mynd i’r brifysgol. Felly, yn 2004, am wn i fy mod wedi cyrraedd pob nod, ac fe alluogodd hynny fi i symud i Abertawe. Roeddwn yn mynd i allu ymarfer fel athletwraig elît a hefyd gallwn gario ymlaen heb fwlch yn f’addysg, felly, pan fyddwn yn graddio, byddwn ar dir gwastad gyda phawb arall.

pedair eiliad yn gyflymach

Mae gen i ewyllys gref iawn a, chyn gynted ag yr wyf yn gosod nod i’m hunan, byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i’w gyflawni. Dydw i ddim yn meddwl fy mod i’n sylweddoli ar y pryd faint o straen oedd yr holl yrru, nes imi symud i Abertawe. Roeddwn yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Roeddwn yn byw oddi cartref. Roedd fy mywyd wedi newid yn gyfan gwbl drwy wneud dim mwy nag osgoi’r holl yrru. Gwellodd fy amser gorau bedair eiliad mewn blwyddyn.

Wrth edrych yn ôl, oedd, roedd y gyrru’n cael effaith, ond ar y pryd dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi ennill medal aur yn Athen a dod yn bencampwraig Baralympaidd pe na bawn wedi bod yn ei wneud. Dyna oedd fy nod bob amser ac roedd popeth a wnes i o’r eiliad y penderfynais wneud hynny yn anelu tuag at Beijing, am wn i. Felly, dydw i ddim yn teimlo fy mod wedi aberthu fy medal yn Athen na’m hastudiaethau Safon Uwch. Pe bawn i wedi canolbwyntio ar astudio a heb fod yn nofwraig yna, byddwn, mae’n siŵr y byddwn i wedi cael gwell graddau ond fe ges i’r graddau i fynd am y radd yr oeddwn eisiau ei gwneud ac yn y lle yr oeddwn am ei gwneud.

Roeddwn yn arfer gweld, pan oeddwn yn iau, fy mod i weithiau’n colli allan ar barti pen-blwydd, ac yn difaru na fyddwn wedi gallu mynd, ond doedd hynny ddim ond oherwydd y byddai pobl yn sôn amdano ar fore Llun a byddai’n cymryd rhywfaint o amser i mi i ddal i fyny gan fy mod wedi bod yn nofio. Ond, yn gyffredinol, roeddwn yn cael cymaint mwy allan o’r nofio a’r chwaraeon a ’mhrofiadau fel nad ydw i’n difaru dim. Dydw i ddim yn wir wedi colli allan ar unrhyw beth mae fy ffrindiau wedi’i wneud. Ond rydw i wedi gwneud cymaint mwy ar ben hynny.

pam na alla i?

Dydw i ddim yn siŵr a sylweddolodd unrhyw un fy mod yn mynd i fod yn nofiwraig arbennig yn syth, ond gallaf gofio’r eiliad pan benderfynais i fy mod am fod yn bencampwraig Baralympaidd ac am ymroi i’r nofio. Roeddwn yn ddeng mlwydd oed yn fy Mhencampwriaethau Cenedlaethol cyntaf ac roeddwn i wedi cwrdd â rhai o’r bobl oedd yn mynd i Gemau Olympaidd Atlanta. Gan fy mod i wedi cwrdd â nhw, ac wedi nofio yn yr un rasys ac wedi eu gweld nhw yn y pwll, fe sylweddolais nad oedden nhw’n fodau goruwchddynol. Os gallen nhw ei wneud, doedd dim rheswm pam na allwn i!

Dwi wastad wedi bod yn berson cystadleuol iawn. Roeddwn yn chwarae chwaraeon o bob math gyda’m ffrindiau yn yr ysgol, ond daeth pwynt lle na fyddwn byth yn gallu parhau â rhai ohonynt i’r lefel y byddwn i’n ei dymuno o achos natur fy anabledd. Roedd hynny’n ffaith ac roedd nofio’n un gamp y gallwn wneud yn dda ynddi, felly, ar y pryd, dwi’n credu imi wneud penderfyniad bwriadol y byddwn yn gwneud mwy o ymdrech i wella fy nofio. Ac wrth wneud hynny, dechreuodd pobl sylwi arna i ac fe symudais ymlaen drwy’r system.

llwyddiannau

Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n angenrheidiol ichi gael medal i gael eich llwyddiant cyntaf. Dwi’n meddwl mai’r peth mwyaf yw teimlo eich bod wedi torri trwyddo ac felly, i’r mwyafrif o bobl, yn fy nghynnwys i, y llwyddiant cyntaf yw’r tro cyntaf rydych yn cael y llythyr yna sy’n dweud eich bod yn y garfan genedlaethol, y tro cyntaf rydych yn cael eich cap nofio Prydain a’ch crys T, hwdi a thracwisg nofio Prydain. I fi, roedd hynny yn y flwyddyn 2000. Dwi’n meddwl fod hynny’n cofnodi’r pwynt lle mae’r aberth a’r dewisiadau rydych wedi eu gwneud yn dechrau talu’r ffordd, ac rydych yn sylweddoli y byddwch, os daliwch chi ati, yn cyrraedd y man lle rydych eisiau bod.

Mae llawer o bencampwriaethau mawr wedi bod. Dwi wedi bod yn rhan o dîm nofio Prydain ers 2000, ers oeddwn yn 14, ac mae wedi bod yn llawn uchafbwyntiau ac iselbwyntiau, ond dwi’n meddwl mai’r rhai sydd wastad yn sefyll allan i chi fwyaf yw’r gemau Paralympaidd a Phencampwriaethau’r Byd. De Affrica yn 2006 oedd y tro cyntaf erioed imi ennill medal aur mewn pencampwriaethau mawr ac roeddwn yn dathlu f’unfed pen-blwydd ar hugain yr wythnos honno hefyd. Fe enillais i ac roeddwn i’n rhan o ddwy ras gyfnewid, felly fe ddes i’n ôl gyda thair medal aur a record byd. Mae’n siŵr mai dyna’r gystadleuaeth fwyaf llwyddiannus i mi ar bapur, ond bydd fy medal Baralympaidd gyntaf wastad yn agos at fy nghalon, Athen 2004, gan fy mod wedi gorfod mynd drwy gymaint i ddal y ddysgl yn wastad rhwng yr ysgol a nofio i’w hennill.

Yn amlwg, fy mhrif lwyddiant, fy llwyddiant mwyaf yn sicr oedd fy medal aur Baralympaidd o Beijing, oherwydd dyna oeddwn i wedi bod yn gweithio tuag ato gydol fy mywyd. Dyna fu fy mreuddwyd erioed. Felly, pe bai rhaid imi ddewis un eiliad dyna fyddwn i’n ei ddewis. Ond, wedi dweud hynny, fe es i i Bencampwriaethau’r Byd, cwrs byr, yn 2009 mewn pwll 25 metr ac fe enillais fedal aur arall yno, y tro cyntaf iddyn nhw gynnal Pencampwriaethau Byd cwrs byr ym maes nofio i’r anabl, felly fi yw’r Bencampwraig Byd gyntaf, ac mae hynny’n arbennig. Ac, mewn ffordd wahanol, roedd Gemau’r Gymanwlad Manceinion 2002 yn brofiad gwych gan fy mod yn cael cynrychioli Cymru. Roedd e’n brofiad cymysg oherwydd, y ffordd mae’r rhaglen nofio Baralympaidd yn cael ei rhedeg, maen nhw’n dewis cystadlaethau penodol, a wnaethon nhw ddim dewis cystadleuaeth lle roedd gen i obaith o ennill. Fe nofiais i’r 100 dull rhydd, sef fy mhumed, neu fy chweched cystadleuaeth. Mae’n anodd iawn sefyll tu ôl i’r bloc gan wybod fel athletwraig nad oes gennych unrhyw obaith o ennill. Ond roedd gallu cynrychioli Cymru yn anhygoel yn ei hun. Byddwn i wir yn hoffi cael y cyfle i wneud hynny’n amlach.

hanner eiliad

Dwi’n meddwl mai ras fwyaf dramatig fy ngyrfa oedd ffeinal Beijing. Dwi’n meddwl fod yr holl ddrama’n ychwanegu rhywbeth at y fuddugoliaeth achos, o’r eiliad y penderfynais fy mod eisiau bod yn bencampwraig Baralympaidd yn ddeg oed, roedd pob penderfyniad a wnes i, boed hynny’n ble roeddwn yn mynd i’r ysgol, pa bynciau roeddwn yn eu hastudio, gyda phwy roeddwn i’n mynd allan, pryd roeddwn i’n mynd allan, roedd y cyfan yn cael ei wneud i roi’r cyfle gorau imi i ennill yn Beijing. Chwe mis cyn Beijing, roeddwn wedi brifo fy ysgwydd, fy mraich chwith, fy mraich gref, felly roedd rhaid i mi a’m hyfforddwr ar y pryd, Billy Pye, ailysgrifennu fy rhaglen gyfan. Roedden ni wedi eistedd i lawr ar ôl Athen a chynllunio’r ffordd ymlaen i Beijing. Roedd y cyfan wedi’i benderfynu a fydden ni’n gwneud dim mwy na dilyn y rhaglen. Yna, chwe mis ymlaen llaw, roedd rhaid inni anghofio’r cwbl, ailysgrifennu’r holl beth. Roedd e’n berson a oedd yn gyffyrddus, â digon o gyfiawnhad dros hynny, yn gwneud yr hyn y gwyddai ei fod yn gweithio ond, yn sydyn, doedden ni ddim yn gwybod beth i’w wneud. Doedden ni ddim yn gwybod beth oedd yr atebion ac fe gymerodd rywfaint o amser i weithio pethau allan. Felly, dyna’r rhwystr cyntaf i’w oresgyn. Yn yr un flwyddyn, dim ond tri mis yn gynharach, canfuwyd bod canser ar fy mam, ac roedd hynny’n dipyn o ysgytwad i’r ddwy ohonom hefyd. Ond, fe fu nofio’n gymorth mawr i mi unwaith eto, gan ei fod yn ddihangfa ac yn rhoi ffocws imi. Roedd fy mam wedi gweithio mor galed ag yr oeddwn i, yn galetach i ddweud y gwir, achos hi oedd yr un a’m rhoddodd i mewn sefyllfa i ddilyn fy mreuddwyd yn y lle cyntaf, felly fe roddodd ffocws iddi hi hefyd. Dwi’n meddwl fod hynny wedi’n helpu ni i gyd yr adeg honno.

Fe gyrhaeddais Beijing. Doeddwn i ddim yn gwybod o hyd a fyddwn yn gallu nofio o achos fy ysgwydd. Doeddwn i heb nofio’n iawn drwy gydol y cyfnod hwn, ers y treialon Paralympaidd. O’r diwrnod yr enillais fy lle yn Beijing tan y diwrnod y cyrhaeddon ni Beijing, doeddwn i heb nofio 400 metr dull broga, felly roedd gen i ddeuddeg diwrnod i weithio allan a fyddwn yn gallu cymryd rhan. Ar y diwrnod y cyrhaeddon ni Beijing, fe gawson ni alwad ffôn. Roedd fy mam wedi marw. Fe roddodd hynny bethau mewn persbectif mewn ffordd. Roeddwn wedi anghofio fod fy ysgwydd yn gwneud dolur. Roedd rhaid imi benderfynu a oeddwn yn mynd i aros. Fyddai neb wedi gweld bai arnaf am fynd adref: doeddwn i ddim yn gwybod a fyddai fy ysgwydd yn gallu dal y pwysau, felly byddai wedi bod yn esgus perffaith, ond dydw i ddim yn credu y byddai wedi bod yn deg â mam, ar ôl yr holl waith a wnaeth hi, imi benderfynu mynd adref. A, hefyd, mae’r Gemau Paralympaidd mor arbennig a dydych chi ddim yn gwybod a gewch chi gyfle – mae rhai ohonom yn ffodus i gael mynd i fwy nag un – ond dydych chi byth yn gwybod a fyddwch chi’n cael y cyfle hwnnw, felly mae’n rhaid mynd amdani, am wn i.

Roeddwn yn ffodus nad oeddwn i’n rasio tan chweched diwrnod y rhaglen nofio. Pan gyhoeddwyd hynny gyntaf roeddwn i’n meddwl, “O, mae’n rhaid i mi aros tan y chweched diwrnod”, ond oherwydd fy mod wedi f’anafu, a gyda phopeth a ddigwyddodd gyda mam, mae’n siŵr fod angen yr amser hwnnw arnaf i gael fy meddwl yn ôl i rywbeth tebyg i normal.

Yna, pan ddaeth diwrnod y ras, nofiais y rhagras ac roeddwn i’n teimlo’n iawn, fe synnais fy hun mor gyflym yr es i. Roeddwn i wedi ennill fy lle yn y ffeinal gyda’r amser cyflymaf. Dwi’n cofio fy mod i fel arfer yn mynd yn nerfus iawn ac yn dechrau meddwl, “Beth os aiff rhywbeth o’i le?” neu “Beth sy’n digwydd os yw hyn yn digwydd?”. Ond, am yr un ras honno, y cyfan a wnes i oedd sefyll tu ôl i’r bloc ac edrych i lawr y pwll a, phan aeth y chwiban i fynd ar y bloc, y cyfan sy’n rhaid ichi ei wneud yw cyrraedd pen draw’r pwll ac yn ôl o flaen pawb arall. Mae mor syml â hynny, achos roedd y ddwy ferch ar y naill ochr i mi wedi mynd eiliad a hanner yn gynt na fi at y troad 50 metr yn y bore… a doeddwn i heb ymarfer ers chwe mis. Doedd neb arall yn gwybod hynny ond doeddwn i heb ymarfer mor galed ag yr oeddwn i’n meddwl roedd ei angen ers chwech mis, felly allwn i ddim dod yn ôl atynt fel rwy’n ei wneud fel arfer, achos fel arfer dwi’n eu dal nhw yn yr ail 50. Ond, doeddwn i ddim wir yn meddwl y byddai hynny’n opsiwn. Felly, fe roddais fy wyau i gyd mewn un fasged a, phan aeth y gwn, fe hedfanais i allan o’r bloc a mynd cyn gyflymed ag y gallwn. Fe gyrhaeddais i’r troad ac os byddech chi wedi stopio’r ras yr adeg honno byddech yn meddwl y byddwn i’n ennill yn gyffyrddus, a dwi’n meddwl fod pobl wedi credu hynny. Yna fe droais i ac, fel y dywedais, roeddwn yn disgwyl i’r merched eraill fod yn agos ond doeddwn i ddim yn gallu eu gweld, felly fe feddyliais i, “Iawn, rho dy ben i lawr a cer”.

Felly, wrth imi ddod ar hyd yr ail 50, roeddwn wedi gwneud rhyw 10 metr ac, yn sydyn, teimlwn fel pe bawn yn stopio ac, wrth i mi godi a disgyn gyda phob symudiad o’r dull broga, roeddwn yn gallu gweld y wal a doedd hi ddim yn dod ddim agosach, neu felly y teimlai. Mae’r atgof sydd gen i o weddill y ras yn dod o’r fideo oherwydd, yr adeg honno, crafangu i ddal fy ngafael oeddwn i. Edrychai fel pe bai’r merched yn fy nal. Edrychai fel pe bai nhw’n mynd lawer yn gyflymach na fi ac roedd un o’r merched, y ferch o Awstralia a’m curodd i yn Athen, hi oedd yr un oedd yn fy nal i gyflymaf. Mae hi’n goraches ac, wrth inni gyrraedd y pum metr olaf, roedd ein pennau ni’n gyfartal a dwi’n meddwl fod pawb ar bigau’r drain. Ac fe gyffyrddon ni â’r wal. Mae gen i freichiau hirach na hi ac fe enillais i o ychydig llai na hanner eiliad.

Doeddwn i ddim yn gwybod i sicrwydd fy mod i wedi ennill. Pan droais i at y bwrdd ac fe gadarnhawyd y canlyniadau, ac roedd rhif un wrth f’enw i, dyna pryd y teimlais don o ryddhad, achos dyna’r cyfan yr ydw i erioed wedi bod ei eisiau o ran nofio, dod yn bencampwraig Baralympaidd. Ac yna edrychais yn y dyrfa ac roedd fy nhad a’m chwaer yno, ac edrychais ar Billy a’r bobl oedd yn rhannu ystafell â fi. Dwi’n meddwl fod ewyllys pawb y tu cefn imi yn y ras honno ac roedd hynny’n gymorth mawr i mi. Bu’n help i bawb sylweddoli’r grym sydd gan chwaraeon. Dwi wedi bod yn rhan o’r tîm yna ers deng mlynedd, felly mae pawb yn agos, ac roedden nhw hefyd yn teimlo fy mhoen i, ac yn sicr dyna’r un adeg pan oeddwn i mor ddiolchgar am nofio.

rhwystrau a chyfleoedd

Byddwn yn hoffi dweud na wna i byth fynd i ras mewn cyflwr gwaeth. Byddwn yn gobeithio na allai dim byd gwaeth byth ddigwydd imi, ond dydych chi byth yn gwybod. Gwnaeth lawer iawn i brofi imi mor bwysig fu presenoldeb nofio yn fy mywyd ac, os ydych yn gosod targed i’ch hunan, y gallwch un ai fod yn rhywun sy’n gwneud esgusodion neu gymryd y cyfle. Dwi wastad wedi edrych ar rwystr fel cyfle, achos weithiau mae’n agor drws neu’n creu llwybr nad oeddech yn gwybod eu bod yno. Boed hynny’n sut i ddal y ddysgl yn wastad rhwng astudio a chwaraeon, neu rywbeth ychydig yn fwy tyngedfennol. Dwi’n meddwl fy mod wedi cael llawer o gryfder o hynny.

Byddwn yn gobeithio y byddaf, yn Llundain, yn cael paratoad haws ac y byddaf yn y cyflwr gorau posib, achos yn Beijing fe enillais i, ac mae’r amser yn amherthnasol. Mae gen i’r fedal aur, ond byddwn yn dwlu ar fynd i Lundain ac ennill mewn record byd. Dydw i ddim yn meddwl y gallwn i byth fod yn y sefyllfa yna eto achos fy mam oedd fy ffrind gorau, ac roedd hi’n gymaint o bresenoldeb yn fy mywyd. Alla i ddim rhagweld unrhyw amgylchiadau a allai gael cymaint o effaith ar fy mywyd, ond, wrth edrych yn ôl, dwi’n cymryd llawer o’r profiad oherwydd, do, mae’n siŵr ei fod wedi rhoi mantais imi o ran ychydig mwy o angerdd a phenderfyniad. Dwi’n gwybod nawr y gallaf ddelio ag unrhyw beth. Felly, o ran hynny, gwnewch eich gwaethaf!

billy pye

Fe weithiodd Billy Pye a fi gyda’n gilydd yn Abertawe am chwe mlynedd, felly fe aethon ni drwy ddau Gemau Paralympaidd gyda’n gilydd a Phencampwriaethau’r Byd, ac fe esblygodd y ddau ohonom fel pobl, dwi’n meddwl. Fe ddaeth e ar y dechrau o gefndir nofio i’r rhai nad ydynt yn anabl, felly byddwn yn hoffi meddwl fy mod i wedi bod yn gymorth mawr iddo ddeall y byd Paralympaidd ac roedd e, yn amlwg, yn gymorth mawr i mi gan iddo fy ngalluogi i astudio am radd yn llawn-amser a nofio gan ei fod yn barod i roi ei amser. Byddai’n dod i mewn os oedd angen imi fod yno’n gynnar, cyn y brifysgol. Neu, os oedd rhaid inni aros yn hwyr, byddai wastad yn rhoi ei amser imi.

Fe ddatblygodd ein perthynas i’r fath raddau fel ein bod yn eistedd i lawr a thrafod, a fydden ni ddim wastad yn cytuno, ond byddem wastad yn darganfod yr ateb gorau yn y pen draw. A, hyd yn oed nawr, er fy mod wedi gadael, dwi’n gwybod os bydd byth angen unrhyw beth arna i fe allaf ei ffonio a gofyn ei farn, neu pe bawn i eisiau mynd yn ôl i Abertawe am benwythnos, y byddai e wastad yn fy nghymryd i. A, phan rydyn ni’n mynd i ffwrdd ar dripiau nofio Prydain, mae e’n dal i fod yn brif hyfforddwr, felly dwi’n dal i’w weld e yno ac, fel mater o ffaith, dwi yn ei grŵp lôn e’n eithaf aml. Dwi’n meddwl ei bod yn braf cael y fath ddealltwriaeth a’r fath berthynas lle mae e’n ymddiried ynof i os ydw i’n dweud rhywbeth neu’n gofyn rhywbeth iddo, ac rydw i’n ffyddiog y bydd e’n gwrando ar fy marn ac y byddwn yn y pen draw, rhyngom, yn dod i’r casgliad gorau. Fe wnaeth e hyd yn oed fynd â fi i weld Dinas Caerdydd yn chwarae ar ddydd gŵyl San Steffan.

Dwi’n meddwl mai prif gryfder Billy Pye a’r rheswm y mae e wedi cyrraedd lle mae e nawr yw ei ymroddiad yn nhermau amser. Os oedd angen imi fod yn y pwll am 3 o’r gloch y bore, byddai e wedi canfod ffordd o wneud i hynny ddigwydd, ac fe fyddai e wedi dod gyda fi. Ar lefel bersonol, dim ond i chi roi, mae yntau’n rhoi.

person gwahanol

Fe symudais i Gaerfaddon ym mis Mai 2009. Roeddwn yn teimlo, os oeddwn am fynd i Lundain a dal i ddwlu ar nofio a dal i wella yn fy ngyrfa, fod angen imi newid pethau rywfaint ac efallai cael barn ffres a charfan newydd. Roeddwn wedi bod gyda’r un garfan ar hyd yr adeg ac roeddwn wedi graddio. Roeddwn yn berson gwahanol i’r sawl oeddwn i pan es i yno gyntaf, a doeddwn i ddim eisiau dal i fod yr un person ymhen pedair blynedd. Roeddwn i eisiau datblygu ac esblygu. Mae fy ngharfan i yma’n un hŷn gan ei bod wedi ei seilio mewn prifysgol; mae’r person ieuengaf yn 18. Dydy fy hyfforddwr newydd erioed wedi gweithio gydag unrhyw un â’m hanabledd i o’r blaen ond wedyn, doedd Billy ddim chwaith pan es i i Abertawe am y tro cyntaf, felly mae’r ychydig fisoedd cyntaf neu hyd yn oed y flwyddyn gyntaf wastad yn adeg pan fydd llawer i’w ddysgu ar y naill ochr a’r llall o’r berthynas. Dydw i ddim yn achos safonol. Gan fy mod mewn carfan o nofwyr nad ydynt yn anabl nawr, gallaf edrych ar fy ffrindiau nofio abl o gorff a meddwl, “O, dyna sut maen nhw’n nofio’r dull broga. Mi wna i roi cynnig ar hwnna”. Yn y byd abl o gorff, oherwydd y niferoedd, mae mwy o gystadleuaeth, felly mae ganddyn nhw’r awch cystadleuol yna drwy’r amser, a dwi’n berson cystadleuol iawn. Felly, mae’n braf gallu cymryd rhan ym mhob sesiwn ymarfer a chael yr egni a’r penderfyniad yna, hyd yn oed os mai ystyr hynny yw fod rhaid i mi gyrraedd 10 metr cyn iddyn nhw gyrraedd 20.

cymru

Dwi’n Gymraes i’r carn. Mae fy rhieni’n Gymry, cefais fy ngeni yng Nghymru a Chymru yw fy nghartref. Rydw i yng Nghaerfaddon nawr achos mai dyna yw’r lle gorau er mwyn imi symud ymlaen yn fy ngyrfa tuag at 2012, ond os oes unrhyw un yn gofyn o ble rwy’n dod, Cymraes ydw i.

Dydw i ddim ond wedi bod i un Gemau’r Gymanwlad. Peidiwch â chamddeall, mae cynrychioli Prydain Fawr yn anrhydedd fawr a dwi’n dwlu ar wneud hynny, ond dwi’n meddwl fod anthem genedlaethol Cymru’n dod â rhyw fymryn o angerdd ychwanegol, a byddwn yn dwlu ar gael y cyfle i sefyll ar y podiwm a chlywed honno’n cael ei chwarae.

Dydw i ddim yn gwybod a ydw i’n cytuno â’r egwyddor y dylai Cymru fod yn endid annibynnol yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd achos Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ydyn ni, dyna ydyn ni wastad wedi bod a mwy na thebyg dyna fyddwn ni wastad. Oes, mae gan Gymru garfan gref o athletwyr yn y gemau Paralympaidd ac Olympaidd ac rydyn ni’n llwyddiannus iawn, ond gellid dweud yr un peth am rywle fel Manceinion, ond dydy Manceinion ddim yn mynd i gynrychioli eu hunain yn y Gemau.

Mae gan chwaraeon y fath rym i uno cenedl. Dwi’n meddwl y gall ysbrydoli pobl i fynd ymlaen a gwneud pethau a chyflawni pethau yn eu bywydau, targedau unigol, targedau ym maes chwaraeon neu rai academaidd neu bersonol. Dwi’n meddwl fod y ffaith inni fod mor llwyddiannus yn golygu fod y llwyddiant hwnnw’n adeiladu tuag at Lundain – allwch chi ddim mynd i unrhyw le heb weld neu glywed rhywbeth am Lundain 2012, boed hynny yn eich banc, eich llyfr ffôn neu ble bynnag – dwi’n meddwl yn wir fod chwaraeon yn cyffwrdd â phawb erbyn hyn.

breuddwydion

Fy mreuddwyd eithaf fyddai mynd i Lundain ac ennill medal aur Baralympaidd arall ac amddiffyn fy nghoron. Tu hwnt i hynny, byddwn yn dweud celwydd pe bawn yn dweud fy mod yn edrych tu hwnt i Lundain ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw athletwr ym Mhrydain yn edrych tu hwnt i Lundain 2012 ar hyn o bryd, achos mae popeth wedi’i anelu at fod ar eich gorau ar yr amser iawn. Felly, dydw i ddim yn meddwl eich bod chi eisiau tynnu’ch sylw oddi ar hynny mewn unrhyw ffordd, ddim hyd yn oed i boeni am yr hyn sydd gennych ar gyfer y Nadolig y flwyddyn honno ar ôl Llundain. Ar hyn o bryd, Llundain 2012, y Seremoni Gloi, yw’r diwrnod olaf ar feddyliau pobl, mwy na thebyg. Yr unig beth nawr yw nofio, nofio, nofio am fedal aur arall. Ond alla i ddim rheoli beth mae pobl eraill yn ei wneud ac, os dysgodd Beijing unrhyw beth imi, fe’m dysgodd nad ydych byth yn gwybod beth sydd i ddod. Y cyfan y gallwch chi ei wneud yw rhoi eich hunan yn y safle gorau i fynd allan a rhoi’r cyfle gorau i chi’ch hun.


Tri gair i ddisgrifio fy hun? Cystadleuol, penderfynol a, byddwn yn gobeithio, mewn rhai ffyrdd, ysbrydoledig.


Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw