Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
This content isn't available for download, please contact us.
Disgrifiad
GARETH DUKE
hanes nofiwr
Gareth Duke yw f’enw i. Ces fy ngeni ym Mhont-y-pŵl ar 18 Mehefin 1986 ac, ar y funud, rwy’n byw yng Nghwmbrân. Ces fy ngeni ag acondroplasia, math o gorachedd. Wrth imi ddechrau tyfu, ces broblemau gyda’m harennau felly ces amser reit ddrwg, ond roedd fy nhad a’m mam yno yn fy nghodi bob cam o’r ffordd.
methu nofio
Pan oeddwn yn yr ysgol gynradd, yn y babanod, fe feddylion nhw, “Beth am fynd i nofio”. Doeddwn i ddim eisiau mynd i nofio. Wnes i erioed hoffi’r dŵr pan oeddwn yn fach, ond fe benderfynon nhw fynd â fi i roi cynnig arni, beth bynnag. Roeddwn yn sefyll yno, yn siarad. Dyna’r dŵr. “Dydw i ddim eisiau mynd i mewn!” A daeth rhywun ataf o’r tu ôl, gafael ynof a’m gollwng i’r dŵr, ac roeddwn yn sgrechian a chrïo, ac yn meddwl, “Dydw i ddim yn gallu nofio! Dydw i ddim yn gallu nofio!”
Wedi hynny, roeddwn yn meddwl, “Fe â i bob hyn a hyn gyda’r ysgol. Fe ro i gynnig arni. Fe symuda i ychydig a dal i fynd”. A meddyliais, “Mae hyn yn teimlo’n dda”. Flwyddyn yn ddiweddarach, doedd dim ofn dŵr arna i. Meddyliais, “Rwy’n eithaf mwynhau hyn”, ac wedyn, pan symudais i’r ysgol uwchradd, meddyliais, “Oes ganddyn nhw wersi nofio? Fe ymuna i â’r rheini”. Felly, roeddwn yn mynd i nofio, yn cael tipyn o hwyl a chwarae dwli, yn ôl ac ymlaen ychydig o weithiau, a dyna sut y dechreues i.
ymarfer
Bob tro rwy’n ymarfer, rhaid imi stopio a gorffwys am bum munud i gael fy ngwynt ataf cyn mynd yn ôl i mewn. Rhaid imi orffwys a dal i orffwys. Pan fyddaf yn cerdded i rywle, rhaid imi stopio i gael fy ngwynt, a cherdded eto.
Daethom o hyd i glwb nofio yng Nghwmbrân, ac fe welon nhw mod i’n wirioneddol dda. Wedyn, daethom o hyd i glwb i’r anabl yng Nghaerffili. Roedd hyfforddwr yno. Aethom i gwrdd ag ef a chael sgwrs. Roedd e’n meddwl, “Dydy e ddim yn ddrwg”, felly symudodd fi un lôn i fyny, lôn arall i fyny, ac un arall, a phythefnos yn ddiweddarach roeddwn i yn y lôn uchaf. Alan Isles oedd y person cyntaf i sylweddoli o ddifrif fod gen i dalent. Roedd mor dda i mi, fel ail dad.
Mae’n waith caled. Os nad ydych yn hoffi’r gwaith caled, peidiwch â’i wneud. Dydw i ddim yn meindio oherwydd rwy’n ei fwynhau, a phan fyddaf yno rwy jyst yn gwneud fy ngorau. Roeddwn yn arfer gwneud wyth sesiwn, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, seibiant ar y Sul … rhaid imi gael un diwrnod yr wythnos i gysgu’n hwyr! Pan ddechreuais ymarfer yn llawn amser, roedd yn waith caled. Ymarfer, ysgol, ymarfer, adref, oedd fy mywyd, a bob hyn a hyn byddwn yn cwympo i gysgu yn y dosbarth yn yr ysgol, a bydden nhw’n dweud, “Wnes di ddim cysgu o gwbl neithiwr?” A finnau’n dweud, “Dwi’n effro, dwi’n effro!” Wedyn dechreuais yn y coleg, yn gwneud yr un fath, ymarfer, coleg, ymarfer a chanfod fod hynny’n rhy galed, felly rhoddais y gorau i’r coleg a mynd i nofio’n llawn amser. Ymarfer, cysgu, ymarfer. Roedd yn galed ac roedd rhaid imi benderfynu pa un i roi’r gorau iddo – meddyliais, rhaid imi roi’r gorau i’r coleg. Wedyn, gallwn gysgu, nofio, cysgu, nofio.
ffrindiau ac arwyr
Wel, y tro cyntaf y gwelais berson a’m hysbrydolodd ym maes nofio, meddyliais, “Fe hoffwn i allu bod cystal ag e”. Ian Thorpe, yr Awstraliad, oedd hwnnw. Meddyliais, “Mae’n edrych yn dda. Byddwn yn dwlu bod fel fe rywbryd”. Yn lleol, y rhai sy’n f’ysbrydoli fwyaf yw Liz Johnson, Anthony Stevens a Graham Edmunds. Pan ymunodd Graham â’r tîm gyntaf, roedden nhw am ein rhoi gyda’n gilydd i rannu ystafell, ac rydym wedi rhannu ystafell byth ers hynny. Rydym mor dda gyda’n gilydd. Mae fel tad arall imi. Arferai ofalu amdanaf mor dda a’m cadw i fynd. Pan oeddwn oddi cartref, roedd gen i hiraeth yn arfer bod a byddwn yn teimlo, “Dydw i ddim eisiau gwneud hyn”, ond roedd e wastad yno i’m helpu. Mae wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth imi. Yn Athen, aeth â’i feic allan gan nad yw’n hoffi cerdded. Rhoddodd fi ar ei feic ac roedd yn pedalu, yn chwysu ac yn pedalu, ac roeddwn i yno gyda thywel dros fy mhen fel ET. Ffonia adref.
Mae Liz Johnson hefyd yn ffrind arbennig. Rydym yn adnabod ein gilydd ers blynyddoedd lawer. Rydym wedi bod yn gydgystadleuwyr ers oedden ni’n fach, a, byth ers hynny, ni allwn wneud heb ein gilydd!
Pan fyddwch yn ennill, rydych yn meddwl rwy wedi curo rhywun, ond wedyn, y tu allan i’r nofio, rydym yn ffrindiau da, yn hongian o gwmpas ac yn cael hwyl, wastad yn ffrindiau agos. Pe na bawn i’n nofio, byddwn yn hongian o gwmpas fel pawb arall ar y stryd, gyda dim i’w wneud, jyst ymlacio, eistedd yma wedi diflasu, yn gwneud dim. Ond gyda’r nofio, gallwch weld eich ffrindiau wrth ymarfer, ac wrth fynd i gystadlaethau. Maen nhw yno bob amser, wastad gerllaw, fel pe na baech yn gweld digon arnyn nhw!
athen 2004
Es i Bencampwriaethau’r Byd yn yr Ariannin yn 2002, a gwneud yn reit dda. Dyna pryd ymunais i â thîm Prydain Fawr gyntaf. Fe aethon nhw â fi yno a chanfod, “Mae e’n dda”. Arian ac efydd, ie.
Ond fy llwyddiant mawr cyntaf, serch hynny, fyddai Athen, y Gemau Olympaidd cyntaf imi fynd iddynt, ac roedd rhai ohonom yn meddwl, “Beth wnaiff e? Pa mor dda wnaiff e?” Ac roeddem yn meddwl, “Does dim ots p’un y daw e’n bedwerydd, yn drydydd neu’n ail”. Cyn gynted ag y cyffyrddais â’r dŵr, aeth popeth yn dawel. Fyddai neb yn siarad, a chyn gynted ag y daeth y bwrdd i fyny, roeddwn yn meddwl, “Ie, fe enillais i!”
Pan ddechreuon nhw rhoi’r fedal imi, roedd pawb yng Nghwmbrân yn gwylio’u teledu, a phawb o gwmpas y byd yn gwylio. Cyn gynted ag y dechreuodd yr anthem genedlaethol roeddwn yn ceisio dal rhywbeth i mewn, ac yn meddwl, “Na, paid”, ond llifodd y cyfan allan, ac roedd pawb eisiau gafael ynof. Allai fy hyfforddwr, Billy Pye, ddim crïo oherwydd roedd camera teledu byw reit wrth ei ymyl, felly aeth e rownd y cornel i grïo.
Athen 2004 oedd fy moment fwyaf. Rwy wastad yn meddwl, “Nid fi yw hwnna! Nid fi yw hwnna!” Fe wnes i hanner y byd grïo.
trawsblaniad rhif un
Pan oeddwn tua phedair oed, es am archwiliad i’r ysbyty a chanfuwyd bod gen i glefyd ar yr arennau – roeddent yn cael eu difa’n raddol. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, dechreuon fynd yn ddrwg iawn; un ai roedd angen imi fynd ar ddialysis neu roedd angen trawsblaniad arnaf. Pan glywodd fy nhad am hynny, dywedodd ar unwaith, “Dydw i ddim yn ei roi ar y peiriant yna”. Roedd am wneud y prawf ar unwaith. Roedd tua wythnos cyn byddai angen imi fynd ar y peiriant ac fe oedon nhw a gwneud prawf ar fy nhad a, chwpl o fisoedd yn ddiweddarach, roeddem yn yr ysbyty a gwnaethpwyd y trawsblaniad ar yr aren. Roedd hynny yn 2006, felly roeddwn tua 17, 18, ar ôl Durban, Pencampwriaethau’r Byd, lle’r enillais aur arall, 100 metr yn y dull broga, record byd.
Roeddwn yn teimlo, “Waw!”. Ar ôl deuddydd roeddwn am ailddechrau nofio. Ar ôl pedwar diwrnod, roeddwn yn rhedeg i fyny ac i lawr yr ysbyty, yn meddwl, “Dewch o ’na, rwy wedi diflasu, wedi diflasu. Gadewch imi wneud rhywbeth”. Ar ôl pedair wythnos, dywedont, “Fe gei di ddechrau ychydig bach o ymarfer corff”. Ar ôl hynny, roeddwn yn teimlo’n wych a dechreuais ymarfer.
beijing
2007 oedd pan fethodd yr aren gyntaf, a stopio gweithio. Pan es i Beijing yn 2008, roeddwn yn dal ar ddialysis. Roedden nhw’n ceisio trefnu pethau imi gyda pheiriannau yno, a chael a chael oedd hi. Tua phythefnos ymlaen llaw, daethant o hyd i le imi fynd iddo am ddeuddeg diwrnod; fel arall byddwn wedi gorfod hedfan allan, nofio a hedfan yn syth yn ôl.
Pan es ar ddialysis gyntaf, arferai fod dair gwaith yr wythnos am ddwy awr yna aeth i fyny i bedair, uchafswm o bedair awr dair gwaith yr wythnos, a gallai dydd Sul fod yn ddiwrnod ychwanegol pe bai angen hynny. Flwyddyn yn ddiweddarach, gwelsant nad oedd y peiriant yn gweithio’n dda iawn felly penderfynwyd fy rhoi arno bob yn ail ddiwrnod, felly: peiriant, diwrnod heb driniaeth, peiriant, diwrnod heb driniaeth, nes i Beijing gyrraedd. Pan es allan i Beijing, roedd yr un fath: diwrnod heb driniaeth, peiriant, diwrnod heb driniaeth, peiriant, felly roedd yn waith caled. Roedd yn mynd â hanner fy mywyd. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud y pethau rwy’n hoffi’u gwneud gan ei fod yn mynd â hanner fy niwrnod. Os oeddwn eisiau mynd allan i rywle, allwn i ddim gan mod i ar y peiriant y diwrnod hwnnw. Roedd yn ddrwg.
Roeddem yn arfer ei wneud yn yr ysbyty, yna fe glywsom fod modd cael dialysis gartref, ac fe feddylion ni, “Dyna wnawn ni”. Daeth y nyrsys allan a rhoi hyfforddiant i nhad.
Pan bennwyd yr amser gofynnol yn y treialon cyn Beijing, meddyliais, “Ydw i’n mynd i allu gwneud amser Beijing neu beidio?” Pan gyrhaeddodd y gystadleuaeth, meddyliais, “Dere mlaen, Gar, mae angen hyn arnat neu fyddwn ni ddim yn mynd i Beijing”. Felly, meddyliais, “Iawn, fe alla i wneud hyn”. Rhoddwyd fy amser imi ac roeddwn o fewn yr amser o ryw eiliad. Cael a chael oedd hi, ond rwy ar y rhestr, nawr. Rwy ar y rhestr, ond yn dal ar ddialysis bob yn ail ddiwrnod.
Fe ddywedon nhw, “Falle bydd gen ti obaith o ddod yn bedwerydd”, a meddyliais innau, “O, rwy eisiau’r aur! Er mod i ar y peiriant, rwy eisiau’r aur”. Pan aethon nhw i’r gwersyll ymarfer, hedfanais i’n syth i Beijing, felly yno y cwrddodd y tîm â fi. Roedd China mor fawr, roeddwn yn teimlo, “Mae hyn yn braf!”.
Yna dechreuodd y ras a meddyliais innau, “Dyma’r her i fi. Bant â ni”. Pan gyrhaeddon ni’r 15 metr olaf, gallwn weld fy hun ar y sgrin, a meddyliais, “Fe gymera i gip, i weld pwy sydd o ’mlaen i”. Allwn i ddim gweld neb ac wedyn gwelais y Rwsiad yma’n dod i fyny nesaf ataf, a meddyliais, “Dwyt ti ddim yn mynd i mhasio i. Rydw i eisiau’r aur yna!” Ac wrth inni gyffwrdd, fe aeth â hi. Doeddwn i ddim ond cyffyrddiad y tu ôl iddo, dim ond eiliad. Ac ro’n i’n meddwl, “Fe’th gaf i di yn Llundain, pan fydd gen i aren”.
Pan oedd y cyfan drosodd a finnau wedi cael fy medal, es nôl a meddyliais, “Gallwn roi crasfa iddo nawr i gael yr aur”. Roeddwn eisiau’r aur. Roeddwn braidd yn siomedig. Pan ddywedodd fy ffrindiau yn y tîm, “Gar, fe alli di ennill yn Llundain”, meddyliais, “Rhaid imi wneud hynny. Dim ots beth, rwy’n mynd i gael f’aur yn ôl”.
estyniad einioes?
Dim ond 16 mis barodd f’aren gyntaf. Dechreuodd wrthod fy nghorff. Peidiodd â gweithio, felly roedd rhaid imi fynd ar ddialysis, rhywbeth nad oeddwn erioed wedi bod arno o’r blaen. Allwn i wneud dim am chwe mis. Dim ond eistedd yno, yn gwneud dim, ac roedd hynny’n anodd iawn.
Cynigiodd tipyn o bobl. Roedd fy nghefnder am roi ei aren imi ond fe ddywedon nhw ei fod yn rhy ifanc. 17 oedd e ar y pryd. Roedd rhai aelodau eraill o’r teulu am roi eu haren imi, hefyd. Penderfynodd f’ewythr fynd am brofion i weld a oeddem yn cydweddu. Canfuwyd nad oeddwn yn yr un grŵp gwaed, felly fe newidion nhw fy ngrŵp gwaed i i’w grŵp ef er mwyn i’r aren weithio yn fy nghorff i. Roeddent yn dal i wneud profion am ryw chwe mis ac wedi hynny dewiswyd dyddiad ym mis Mai’r llynedd a Bwwm! Wedi’i wneud! Roeddwn yn yr ysbyty am wythnos neu ddwy. Roedd yn wych. Allwn i ddim disgwyl i fynd yn ôl. Llynedd oedd hynny, yr ail aren, 25 Mai 2010.
Roeddent wedi fy rhoi ar beiriant dialysis gwahanol sy’n cael gwared â phethau gwrth-ymwrthiant yn y corff, fel y byddai’r aren hon yn aros yn y corff ar ôl mynd i mewn, na fyddai’n gwrthod y corff. Roedd yn tynnu llawer ohonof. Doedd gen i ddim egni i wneud dim. Ar ôl y llawdriniaeth, pan ddeffrais allwn i ddim codi o’r gwely. Allwn i ddim cerdded. Roeddwn mewn poen mawr oherwydd, mae’n debyg, pan fyddant yn gwneud y llawdriniaeth, fel arfer maen nhw’n rhoi tiwb i mewn i ollwng yr holl stwff drwg allan ac fe anghofion nhw wneud hynny. Roeddent wedi fy ngwnïo i fyny. Felly, roedd rhaid imi fynd yn ôl i’r theatr yr eildro y diwrnod hwnnw, a rhaid oedd fy ailagor a glanhau fy nhu mewn. Ar ôl hynny, roeddwn mor gysglyd am ddiwrnod ond teimlwn yn wych wedyn, i fyny ac i lawr y coridor. Roeddwn yn teimlo, “Dewch mlaen, dewch mlaen!”.
Mae’n mynd yn dda, nawr. Rwy’n meddwl, “Ie, fe gei di aros yna nawr. Dwyt ti ddim yn dod allan!” Gyda lwc, hon fydd yr un olaf.
Does gen i ddim tair aren, dim ond dwy. Gadawsant aren fy nhad yno. Dydyn nhw ddim yn ei thynnu allan, mae’n marw. Maent yn ffeindio lle i roi’r un newydd. Pan fydd fy ffrindiau’n fy ngweld, maen nhw wastad yn hoffi gwneud wyneb o’m bola, oherwydd mae gen i ddwy graith!
Methais fynd i’r treialon gan mod i’n cael y llawdriniaeth, felly allwn i ddim mynd i Bencampwriaethau’r Byd ond roedd pawb yn dweud, “Paid â phoeni, Gar, mae Llundain i ddod eto”. Bydd hynny’n fy nghadw i fynd. Mae gen i gwpl o flynyddoedd o hyd. Allwn i ddim rhoi’r gorau iddi. Rwy’n rhy ifanc. Mae gen i ddigon o flynyddoedd i ddal i fynd.
cymru
Cymro ydw i ond dydw i ddim yn siarad Cymraeg. Pan fyddaf yn mynd i gystadlaethau, rwy’n meddwl, “Rwy’n gwneud hyn dros fy ngwlad!” Rwy’n falch o Gymru! Yn y Gemau Paralympaidd, rwy’n gwisgo fest Prydain Fawr, ond pan fyddaf yn rasio rwy wastad yn meddwl, “Rwy’n gwybod ble mae nghartref. Rwy’n gwneud hyn dros fy lle i”.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw