Tŷ -mawr, Wybrnant - 3D Fly Delweddu Trwy Animeiddio
Disgrifiadau
Er bod cwm afon Wybrnant heddiw’n teimlo mor anghysbell ag y gellir bod yng Nghymru, yn yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd ar brif ffordd y porthmyn o Lŷn i Ddolwyddelan ac ymlaen i’r marchnadoedd gwartheg dros y ffin. Ac er ei fod yn enwog fel man geni William Morgan (y cyntaf i gyfi eithu’r cyfan o’r Beibl i’r Gymraeg) ym 1545, mae’r tŷ lawn mor bwysig fel enghraifft o Dŷ Eryri o’r unfed ganrif ar bymtheg sydd wedi’i ddiogelu a’i adfer yn gelfydd. Mae ei enw’n awgrymu nad fferm gyffredin mohono yn ei ddydd a chredir iddo fod yn gartref i deulu o ffermwyr cyfoethog.
Yr hyn sy’n ddiddorol yma yw i hen neuadd (o gyfnod William Morgan) gael ei haddasu i greu adeilad sydd, yn allanol beth bynnag, yn dilyn patrwm clasurol ‘tŷ Eryri’. Mae hynny’n dangos apêl fawr y math newydd o dŷ deulawr a gâi ei godi’n lleol gan y dosbarthiadau canol; cai tai a fodolai eisoes, hyd yn oed, eu haddasu i gyd-fynd â’r ffasiwn ddiweddaraf.
Ychydig sy’n weddill o’r neuadd gynnar heblaw am ddau ddarn o nenfforch yn wal y dwyrain a’r rhan isaf o waith maen. Ailwampiwyd y neuadd yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg neu, o bosibl, tua dechrau’r ganrif wedyn. Dilynai’r cynllun newydd batrwm tŷ Eryri gan osod lleoedd tân yn waliau’r talcenni yn hytrach nag yng nghanol y tŷ, fel y digwyddai’n gyffredin bryd hynny ar y gororau. Nid oes iddo risiau cerrig yn y wal, sef nodwedd a welir o hyd mewn rhai o’r tai cyfagos ym Mhenmachno, ac mae’n fwy na thebyg mai grisiau ysgol a ddefnyddid i gyrraedd y siambrau newydd ar y llawr cyntaf.
Adferodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y tŷ ym 1988 i ddathlu pedwarcanmlwyddiant cyfieithu’r Beibl. Cafwyd gwared ar lawer o’r newidiadau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif er mwyn creu’r tu mewn syml a welir heddiw.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment