Nannerth-ganol, Rhaeadr Gwy, Powys - Animeiddiad
Disgrifiadau
Nannerth-ganol, Rhaeadr Gwy, Powys - Animeiddiad gan y Comisiwn Brenhinol
Man cychwyn llawer o dai hirion cyfarwydd Cymru oedd y neuaddau a godwyd tua diwedd yr Oesoedd Canol a'u beudai ynghlwm wrthynt. Tŷ o'r fath yw Nannerth-ganol. Dyddiad y neuadd a'i nenffyrch yw 1555, ac fe'i trowyd yn dŷ deulawr tua 1600, sef, mae'n debyg, dyddiad ychwanegu ato'r simnai sgwâr a thrawiadol o gerrig. Erbyn heddiw, Nannerth-ganol yw un o'r lleoedd gorau i werthfawrogi ffermdy llewyrchus a godwyd ar dir uchel tua diwedd oes y Tuduriaid.
Un o chwe animeiddiad sy'n ail-greu gwahanol fathau o dai hanesyddol yng Nghymru. Crëwyd gan CBHC a See3D Ltd i'r gyfres deledu 'Cartrefi Cefn Gwlad Cymru' (cynyrchiadau Fflic) ar S4C. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: 2010.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment