Skip to main content

Castell y Fewpyr, Saint Hilari, Bro Morgannwg - Animeiddiad

Disgrifiadau

Castell y Fewpyr, Saint Hilari, Bro Morgannwg - Animeiddiad gan y Comisiwn Brenhinol
Codwyd y maenordy canoloesol hwn tua 1300 a'i addasu yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Ynddo cewch gyntedd wedi'i gerfio'n wych yn null y Dadeni ac sy'n dangos dylanwad cynlluniau o'r Eidal ar bensaernïaeth Cymru. Mae yng ngwarcheidiaeth Cadw erbyn hyn.

Codwyd y maenordy sylweddol hwn yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ganrif ddilynol ac mae wedi'i drefnu o amgylch tri chwrt helaeth. Deuir ato drwy borthdy trawiadol a godwyd tua 1586. Arferai hwnnw fod yn grenelog ac fe ddangosai ddyddiad. Mae pilastrau Ïonaidd ffliwtiog ac arfbais teulu Bassett a'u harwyddair 'Gwell anghay na chwillydd' yno o hyd.

Un o chwe animeiddiad sy'n ail-greu gwahanol fathau o dai hanesyddol yng Nghymru. Crëwyd gan CBHC a See3D Ltd i'r gyfres deledu 'Cartrefi Cefn Gwlad Cymru' (cynyrchiadau Fflic) ar S4C. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: 2010.

Crëwr:
RCAHMW and See3D Ltd.
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
8/5/2014
Gwelediadau:
1150
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment