Skip to main content

Plasauduon, Carno, Powys - Plu 3D Ddelweddu Pensaernïaeth Trwy Animeiddio

Disgrifiadau

Plasauduon, Carno, Powys - Plu 3D Ddelweddu Pensaernïaeth Trwy Animeiddio

Mae Plasauduon yn nodweddiadol o’r math o dai a geid yn Nyffryn Hafren yn yr ail ganrif ar bymtheg – tai ac iddynt fframiau coed cymesur ynghyd â chynteddau deulawr canolog a thrawiadol a agorai i lobi wrth ochr y lle tân canolog. Ffurf yw honno sy’n creu dwy ystafell gytbwys ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf; yma, mae’r neuadd ar y dde a’r parlwr ar y chwith, ac ystafelloedd gwely uwch eu pennau. Codwyd Plasauduon tua 1660 ac efallai i’r adain gefn ddiweddarach ddisodli fframwaith cynharach. Mae’r tŷ mewn cyfl wr rhyfeddol o dda.

Er gosod ffenestri newydd yn lle’r mwyafrif o’r hen rai yn yr ugeinfed ganrif, ni fu fawr o newid ar weddill y nodweddion pensaernïol gwreiddiol ac mae hynny’n ddymunol iawn oherwydd i’r tŷ gael ei adeiladu tua chanol yr ail ganrif ar bymtheg, cyfnod o addurno mawr ar dai o’r fath. Ceir ffurf bigfain ddwbl (‘bwa ciwpid’) i’r mwyafrif o bennau’r drysau, mae’r cyntedd â’i seddau gosodedig a chelfi gwreiddiol y drws yn hyfryd, ac mae trawstiau nenfwd addurnol y parlwr wedi cadw eu plastr gwreiddiol. Y peth mwyaf trawiadol o’r cyfan yw’r llawr o gerrig palmant yn y neuadd; mae’r patrwm addurnol arno’n nodweddiadol o Sir Drefaldwyn.

Mae’n debyg bod arddangos cyfoeth drwy gyfrwng pensaernïaeth allanol a mewnol y cartref hwn yn bwysig i’r ffermwr dosbarth-canol a’i hadeiladodd. Mae dau dalcen y prif adeilad wedi’u hestyn ddwywaith ar swmerau mowldiedig ac ‘estyll draig’ yn gynheiliaid iddynt wrth y corneli. Credir weithiau fod y llawr cyntaf a’r ail mewn adeiladau trefol yn yr Oesoedd Canol yn estyn allan i greu rhagor o ofod uwchlaw strydoedd poblog, ond yng nghefn gwlad rhaid mai mater o ffasiwn ydoedd ef – ac yn sicr mae’r effaith yn apelio at y llygad. Mae tai fel Plasauduon yn rhoi cymaint o fwynhad oherwydd bod yr addurno arnynt yn deillio o ffurf eu hadeiladwaith ac nid o ryw chwaeth fympwyol.

Owner:
RCAHMW
Crëwr:
RCAHMW and See3D
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
7/5/2014
Gwelediadau:
1402
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment