Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

O dan garpedi modern Bryndraenog ac uwchlaw ei nenfydau plastr cewch dystiolaeth mai neuadd uchelwr oedd y ffermdy hwn, i gychwyn, yn yr Oesoedd Canol. Yn ôl y blwyddgylchau, codwyd y tŷ o goed a gwympwyd ym 1436, ac mae arysgrif yn cofnodi i’r oriel sy’n rhedeg o amgylch y tŷ ar lefel y llawr cyntaf gael ei osod yno union ddwy ganrif yn ddiweddarach, ym 1636.
Mae’n fwy na thebyg mai’r sawl a gododd y neuadd oedd rhingyll a fu’n gyfrifol am weinyddu arglwyddiaeth Maelienydd. Mewn cywydd cynnar gan Ieuan ap Hywel Swrdwal o’r Drenewydd sy’n canmol Llywelyn Fychan ab Ieuan, Bryndraenog, ac yn tystio i gryfder y Gymraeg mewn ardal sydd bellach wedi’i Seisnigo, disgrifi r y tŷ fel ‘morwyn falch o galch a gŵydd’.
Ar y pryd, ffurf U oedd i gynllun y tŷ, sef neuadd â thri bae ac adain allanol ym mhob pen gyda pharlwr, geudy ac ystafell olau yn y pen uchaf, a chegin ac ystafelloedd gwasanaethu yn y pen isaf. Er mwyn ychwanegu at y symbolau pensaernïol o statws ceir cyntedd deulawr eithriadol ac ar ei lawr cyntaf ystafell bwysig a arferai fod, efallai, yn gapel neu’n oratori.
Bu ailadeiladu, newid ac estyn yr adenydd ers y cyfnod cyntaf hwnnw, ac erbyn heddiw mae’r to addurnol â’i ategion cysbedig a’i dreswaith pigfain o feillion o’r golwg yn y llofft. Ond nid yw’r ffenestri newydd a’r rhannu a fu ar yr adenydd yn amharu dim ar arwyddocâd cyffredinol Bryndraenog fel un o’r cartrefi canoloesol sydd wedi’u diogelu orau yng Nghymru.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw