Cerdyn post o Herbert Blake a dau garcharor rhyfel arall
Disgrifiadau
Ffotograff a dynnwyd mewn stiwdio o dri dyn (gyda Herbert Blake ar yr ochr dde) - pob un yn garcharor rhyfel. Dengys y bathodyn ar iwnifform Blake ei fod yn saethwr, ac mae'r chevron yn golygu ei fod wedi dangos ymddygiad teilwng. Danfonwyd y cerdyn at chwaer Herbert, Annie Moore (a oedd yn byw yn Bolsover). Mae'r ysgrifen mewn pensil yn darllen: "8673 Pte H Blake, 2nd Suffolk Regiment, Gefangenenlager, Doeberitz, Deutschland". [Gefangenen Lager Doeberitz, sef gwersyll carcharorion Doeberitz - tua with milltir i'r gorllewin o Berlin.] Mae stampiau arno: "15 Doeberitz Gepruft F.A. [Gepruft yn golygu bod y sensor wedi pasio'r cerdyn]"; "Kriegsgefangenensondung" [Carcharor Rhyfel] a "London F.S. PAID Nov 10 15".
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment