Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Anfonwyd y llythyr hwn, dyddiedig 5 Awst 1944, o ogledd Ffrainc lle'r oedd Kenny yn gwasanaethu gyda 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fel aelod o'r Fyddin Ryddhau Brydeinig. Yn y llythyr, esbonia ei fod wedi bod yn teithio cryn dipyn yn ystod yr wythnosau diwethaf ac nad yw wedi cael llawer o gyfle i ysgrifennu. Er i'r bataliwn gael ei daro gan rai o ymosodiadau awyr cyson yr Almaenwyr, yr unig Almaenwyr y mae Kenny wedi eu gweld yw'r aelodau 'tramor' rheini o'r fyddin Almaenig a ildiodd o'u gwirfodd ac sydd bellach yn garcharorion rhyfel. Disgrifia'r amodau cysgu cyfyng lle'r mae'r dynion yn cael eu poeni drwy'r adeg gan bryfaid, gwenyn meirch a mosgitos, a sonia am y prinder dŵr yfed. Dywed ei fod wedi cyfarfod nifer o fechgyn sy'n hannu o ardal Wrecsam. Disgrifia'r holl ddifrod a llanast sydd o'i gwmpas yn Ffrainc a rhai o'r eitemau y mae wedi dod o hyd iddynt tra'n archwilio tai a fomiwyd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw