Skip to main content

Ellis Davies, Fferm Betlands, Llanddewi, Gŵyr ar hanes Cymdeithas Aredig Gorllewin Gŵyr a'r ornest aredig gyntaf. Mae'n cynnwys stori ddigrif am Austin Morgan (llanc ifanc o Aberhonddu) a'i arian am ennill y brif wobr

Disgrifiadau

Ellis Davies, Fferm Betlands, Llanddewi, Gŵyr yn sôn am sefydlu Cymdeithas Aredig Gorllewin Gŵyr, y gêm aredig gyntaf ac atgofion o gemau cynnar ar ôl y rhyfel gyda cheffylau a thractorau cynnar, a stori ddoniol am gystadleuaeth aredig gyntaf Austin Morgan ifanc (o Aberhonddu) a gwobr ariannol fawr.
Trawsgrifiad:
ED:  Pan ffurfiwyd Cymdeithas Aredig Gorllewin Cŵyr yn 1942 yn ystod y rhyfel, cafodd ei ffurfio am fod niferoedd mor fawr yn gweithio ar ffermydd bryd hynny, ac roedd prinder bwyd ac roedd yn rhaid aredig mwy o dir, ac fel dywedais i, roedd niferoedd mawr yn gweithio ar y fferm, felly fe ddechreuon nhw gystadlaethau aredig am eu bod nhw’n meddwl y byddai’n fath o adloniant hamdden i’r bobl ifanc oedd yn gweithio ar y tir.  
ED: Y bencampwriaeth gyntaf dwi’n ei chofio’n bersonol oedd 1947, felly roedd y gamp wel, yn bedair oed… pum mlwydd oed yno. Roedd hi’n ddiwrnod ofnadwy, ofnadwy o wlyb, byddai’r gemau’n cael eu cynnal ym mis Chwefror bryd hynny ac roedd hi’n ddiwrnod gwlyb iawn, iawn, ac eirlaw. Oedd, roedd y ceffylau’n crynu ag oerfel, a phobl yn rhoi sachau dros eu cefnau i geisio’u cadw damaid yn gynhesach. Nawr arhosodd y diwrnod hwnnw yn fy meddwl, 1947, diwrnod gwlyb iawn, a’r tractor, roedd nifer fach o dractorau’n aredig bryd hynny, ond roedden nhw’n sgidio. Bu’n rhaid eu tynnu. Doedd tractorau ddim mor nerthol na da ag y maen nhw heddiw, ac roedd pobl yno’n dweud, hen drinwyr ceffylau, yn dweud na fydd y tractorau hyn byth yn disodli’r ceffylau, dydyn nhw ddim cystal â’r ceffyl, ond fe wnaethon nhw ddisodli, ac mae’r ceffylau, heblaw am arddangos, mae’r ceffylau wedi mynd oddi ar y tir bron yn llwyr. Ond roedd y diwrnod hwnnw’n glir iawn yn fy nghof. Roedd fy mrawd yn aredig gyda cheffylau y diwrnod hwnnw, oedd. Dwi’n meddwl iddo fe ddod yn drydydd, os yw fy nghof yn iawn.
ED: Dywedodd Mr Austin Morgan stori wir ddigwyddodd iddo fe’n grwt ifanc 12 mlwydd oed. Roedd e’n awyddus iawn i gael tro mewn gêm leol, ond yr unig dractor oedd ganddyn nhw ar y fferm bryd hynny oedd Fordson safonol ar olwynion haearn, ac roedd hwnnw’n dractor trwm. Roedd tad Austin o’r farn fod y tractor yn rhy drwm i’w drin gan un mor ifanc, a chynghorodd e Austin i holi cymydog lan y lôn a allai e fenthyg ei Allis-Chalmers Model B, oedd yn dractor bach, ysgafn.
Roedd gan y cymydog enw am fod braidd yn gybyddlyd, ac atebodd Austin na fyddai e ddim yn rhoi benthyg, siŵr o fod. Dywedodd Mr Morgan, fe ofynna i am fenthyg y tractor, dwi ddim yn meddwl y bydd e’n dweud na wrtha i. Felly cytunwyd y gallai Austin fenthyg y tractor.
Y bore wedyn, ar ôl bwydo’r da, aeth Austin i nôl y tractor. Cyn iddo fe adael y clos, cafodd bregeth fawr i fod yn ofalus iawn gyda’r tractor yma, am ei fod wedi costio lot o arian, “gwna’n siŵr bod digon o le o dy flaen i droi, a chadwa bant o elltydd serth”.
Y noson cyn y gystadleuaeth aredig, rhoddodd Austin sglein i’r tractor nes ei bod hi’n sheino. Daeth dydd y gystadleuaeth. Gwnaeth yr Austin ifanc braidd yn dda. Enillodd ddosbarth y bechgyn yn y gystadleuaeth mewn a mas. Dyna pryd fyddwch chi’n rhoi’r aradri mewn, a’i thynnu mas. A’r wobr am y tractor yn y cyflwr gorau. Yn gyfan, roedd ei enillion yn gyfanswm o bum gini, y math o arian na allai Austin ddim breuddwydio amdano cyn hynny. Y cyfan arferai e gael oedd coron i fynd i Ffair Aberhonddu.
Y bore wedyn, dywedodd tad Austin wrtho am olchi’r tractor a gwneud yn siŵr fod y tanc yn llawn dop o danwydd, ac yna, i fynd ag e’n ôl, diolch i’r cymydog am ei fenthyg, a holi, oes arnon ni unrhyw beth i chi? Dyna wnaeth Austin, a dywedodd y cymydog: “Wel, ŵr ifanc, dwi wedi cyfrif dy fod ti wedi ennill pum gini. Fe gymera i’r pum gini.”
Defnyddiodd Austin y Fordson yn y gystadleuaeth nesaf.

Owner:
Swansea Council / Ellis Davies
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Date originally created:
3/2022
Gwelediadau:
36
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment