Ellis Davies, Fferm Betlands, Llanddewi, Gŵyr ar hanes aredig ac aredig cystadleuol, ei brofiadau o aredig cystadleuol a'i obeithion ar gyfer dyfodol cystadlaethau aredig lleol
Disgrifiadau
Ellis Davies [ED] o Fferm Betlands, Llanddeiw, Gŵyr, wedi'i gyfweld yng Ngêm Aredig Gŵyr 2022, gan drafod hanes aredig ac aredig cystadleuol, ei brofiadau aredig cystadleuol, ei obeithion ar gyfer dyfodol cystadlaethau aredig lleol. Mae ED yn adrodd ei gysylltiad gydol oes â ffermio Gŵyr, hanes ac esblygiad aredig, a'i yrfa aredig gystadleuol 50 mlynedd ei hun. Mae'n disgrifio traddodiadau teuluol, buddugoliaethau mawr gan gynnwys teitlau Cymru, Prydain ac Iwerddon, ac yn myfyrio ar ddirywiad gemau aredig gan obeithio y bydd y traddodiad yn parhau.
Trawscrifiad:
ED: Fy enw i yw Ellis Davies, gŵr Gŵyr, wedi byw yng Ngŵyr gydol fy oes, wedi fy nhrwytho ym myd amaeth, yn mynd yn ôl am genedlaethau, mor bell ag y gallwn ni fynd, ffermwyr oedden ni.
Aredig, sydd wedi bod gyda ni ers oes y Beibl. Mae’n cael ei grybwyll yn sawl un o lyfrau’r Beibl,, wedi’i wneud bryd hynny wrth gwrs â ffon, wedi’i llusgo gan ddyn drwy’r tir i wneud rhych bach i osod hadau ynddo fe. A wnaeth hynny ddim newid llawer ar hyd yr oesau tan tua’r 17eg ganrif, a dyfeisio dur, a dyna pryd y dyfeisiwyd swch yr aradr a daeth y styllen bridd oedd yn dilyn y swch i droi’r soflen drosodd, i fodolaeth, ac wedyn gallech chi aredig cwysi dyfnach, ac a fyddai’n cynhyrchu’r pridd gorau, y trwch gorau, ac felly gallech chi dyfu cnydau gwell.
Daeth cystadlaethau aredig i fodolaeth tua’r 1780au, ac maen nhw’n bur gyffredin ledled Ynysoedd Prydain. Ychen yn wreiddiol, a thua 1820 newidiodd i geffylau. Roedd y ceffyl yn fwy effeithiol, yn anifail cryfach, a gallai dau geffyl dynnu cwys ddofn, lydan, ble gallai’r ychen wneud cwpwl o droeon ac wedyn byddai’n rhaid iddyn nhw stopio i gael sbel fach. Ceffylau oedd ffynhonnell yr ynni mewn cystadlaethau aredig, fel ar y ffermydd tan tua’r 1920au / 1930au pan gyflwynwyd y tractor. Cymerodd y tractor drosodd yn dawel bach wedyn. Lleihaodd niferoedd y ceffylau, a daeth y tractorau’n fwy amlwg wrth iddyn nhw gael eu defnyddio’n fwy cyffredin ar y ffermydd.
Byddai fy nheulu i, tad-cu, gor-ewyrthrod, tad, brawd, oll yn aredig gyda cheffylau, ond fi oedd y genhedlaeth gyntaf o’n teulu ni i aredig gyda thractor. Roeddwn i’r tamed bach yna’n iau, ac roedd tractors yn dod i’r amlwg, felly cymerais at y tractor.
Fe ddechreuais aredig yn gystadleuol yn 13 oed, ac fe wnes i aredig yn ôl ac ymlaen am ryw 50 mlynedd. ro’n i’n mwynhau fy aredig yn fawr iawn, iawn, a dwi’n dal i fwynhau cystadlaethau aredig heddiw, i fynd i wylio.
Fe ges i ail wobr y tro cyntaf es i mas, mas o bump, a’r ail waith es i mas, ges i wobr gyntaf, ac fe ysbrydolodd hynny fi wedyn i fynd ymhellach. Enillais yng Ngŵyr ac wedyn gwobr Genedlaethol Cymru, a gwobr Genedlaethol Lloegr, a daeth gwobrau’r byd i fodolaeth yn y 50au. Pan oedd trafnidiaeth â char ar gael gallech deithio ymhellach, lledu eich golygon ac aredig yn erbyn cystadleuwyr eraill o rannau eraill o’r wlad. Des i’n bencampwr Cymru pan o’n i’n 27 oed, dilynais hynny eto y flwyddyn wedyn yn 28, ac wedyn rhois y gorau i aredig am 11 o flynyddoedd achos roedd fy nhad wedi ymddeol, a chymerodd fy mrawd a minnau’r fferm drosodd, a doedd hi ddim yn hawdd wedyn, i chwilio am arian, felly wnes i ddim aredig wedyn am 11 mlynedd. Ac wedyn fe es i’n ôl i mewn iddo a dod yn bencampwr Cymru eto ar fy union, felly roedd hynny’n anrhydedd fawr yn fy mywyd a dweud y gwir. Ac wedyn, y flwyddyn ddilynol, fe ddes i’n bencampwr Prydain. Ond fe wna i ddweud â’m llaw ar fy nghalon fod uchafbwynt fy ngyrfa aredig wedi dod tua diwedd fy ngyrfa aredig yn 2004, pan es i Iwerddon ac roedd Pencampwriaethau’r Byd yno, ond fe wnaethon nhw gynnwys dosbarth trwy wahoddiad am y steil. Do’n i erioed wedi aredig steil y byd, dwi’n aredig yr hyn sy’n cael ei adnabod fel ??, trionglau hafalochrog, fel sy’n cael ei ddangos yn y llyfrau. Sef aredig ar gyfer arddangos. Byddai’n cael ei wneud yn ffurfiol yn y dyddiau pan fyddai’r hau’n digwydd â llaw, a byddai’r had yn disgyn ar y trionglau hynny yn y gwaelod, cyffyrddiad â’r og ac wedyn byddai’r ŷd yn dod lan mewn rhychau, Mae’r dull yna’n cael ei wneud o hyd, hyd heddiw, roedd pedwar yn y Bont-faen echdoe, fel mae’n digwydd.
Beth arall oeddwn i eisiau dweud? Felly es i i Iwerddon ac aredig yn erbyn aradwyr Gwyddelig ac fe enillais ar y dydd Iau, oedd yn caniatâu i fi aredig eto ar y dydd Sadwrn. Ac fe enillais i eto ar y dydd Sadwrn. Felly ges i’r dwbwl yn Iwerddon yn 2004, ac roedd hynny fwy neu lai ar ddiwedd fy ngyrfa aredig. Felly roedd hwnna’n argoeli’n dda i orffen, a dweud y gwir, ie.
Dwi’n gobeithio y bydd y cystadlaethau aredig yn dal ati. Does dim cymaint ag y bu unwaith, am fod llai o ffermydd, mae llai o bobl yn gweithio ar ffermydd ac felly mae llai o ieuenctid i ddod draw, ond mae gyda ni rai ieuenctid o hyd. Roedd cwpwl yng Ngŵyr eleni ddaeth mas am y tro cyntaf. A dwi’n gobeithio y bydd yn bendant yn para tra bydda i, ta beth, ie?
Reit, diolch.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment