Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tom Carrington yn eistedd ar gadair Shanghai. Fe gymerodd dros flwyddyn i'r crefftwyr i gerfio'r gadair eisteddfodol hon. Fe'i gwnaed yn amddifaty Catholig T'ou-se-we, ar gyrion Shanghai. Roedd gan yr amddifaty hwn, a sefydlwyd gan genhadon Catholig ym 1852, nifer o weithdai lle dysgid crefftau megis cerfio pren, paentio, argraffu, gwaith tun a gwaith gwydr lliw a ffotograffiaeth.
Cyflwynwyd y gadair yn wobr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1933 gan Gymro llwyddiannus oedd yn byw yn Shanghai. Roedd Dr John Robert Jones(g. Llanuwchllyn 1887,m. Hong Kong 1976) yn fargyfreithiwr ac yn eisteddfodwr brwd a oedd hefyd yn ymddiddori'n fawr yn niwylliant a chelfyddyd Tseina. Aeth i Shanghai ym 1924, a dyfod yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor Rhyngwladol ym 1928. Roedd yn un o hoelion wyth cangen Shanghai o'r Royal Asiatic Society a Chymdeithas Dewi Sant. Ei syniad ef oedd comisiynu crefftwyr T'ou-se-we i wneud y gadair.
Enillydd y gadair ym 1933 oedd Trefin (Edgar Phillips) am ei awdl 'Harlech'. Rhan o Gasgliad Tom Carrington

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw