Cadeiriau yr Eisteddfod Genedlaethol
Casgliad o gadeirau eisteddfodol sydd wedi eu cyflwyno i'r bardd buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyflwynir y gadair i'r Prifardd yn ystod Seremoni Cadeirio'r Bardd a hynny am lunio awdl, sef cerdd a gyfansoddir yn un o'r mesurau caeth cynganeddol. Cynllunir cadair newydd yn arbennig ar gyfer pob Eisteddfod, ac ystyrir y seremoni hon yn un o'r digwyddiadau pwysicaf o fewn traddodiad yr Eisteddfod. Mae'r casgliad hwn yn cynnwys ffotograffau o gadeiriau, ac eitemau cysylltiedig, o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif ar hugain.