Skip to main content

Wrecsam, 1970

Disgrifiadau

Wrecsam Awst 1970.
Cliciwch ar y ddelwedd i'w hehangu.
Yr adeilad ym mlaendir canol y ddelwedd hon yw Baddonau Wrecsam, sydd nawr yn cael ei alw'n Waterworld Leisure and Activity Centre. Fe'i hadeiladwyd rhwng 1965 a 1967 o goncrit dur ac mae cynllun y to yn 'baraboloid hyperbolig'. Trwy'r ffenestri gwydr tal gellir gweld llwyfannau plymio'r pwll plymio ar wahân, un o dri phwll gwahanol yn yr adeilad. Roedd adeiladu'r baddonau'n arwyddo dechrau ailddatblygu'r rhan hon o Wrecsam.
Ar y dde ar waelod y ffotograff mae cefn tafarn y Victoria a'i thai allan. Mae'r adeilad hwn, a'r lleill sy'n debyg ar ochr arall Farndon Street, yn ymestyn tuag ochr chwith y ffotograff, yn rhoi syniad o sut ddatblygodd yr ardal hon o Wrecsam mewn ffordd dameidiog. Roedd yr ardal o dir agored gyda glaswellt yn wreiddiol yn safle rhes o dai, ac er eu bod wedi'u dymchwel, mae ffin yr eiddo'n bodoli o hyd a defnyddiwyd y tir y tu ôl am amrywiaeth o wahanol bwrpasau. Adeiladwyd y tŷ mawr arunig i'r dde o'r baddonau y tu ôl i res arall o dai teras o'r enw Holt Street Terrace. Gellir gweld lliw pridd gwahanol a darnau o wal nesaf at y pafin sy'n arwain allan o ochr dde'r llun sy'n dangos eu safle blaenorol.
Uwchlaw'r Baddonau, i'r chwith ac i'r dde mae Swyddfeydd y Cyngor a Neuadd y War Memorial Hall. Y ffordd sydd wedi'i hadeiladu'n rhannol islaw'r baddonau yw Bodhyfryd, sydd erbyn hyn yn rhan o ffordd osgoi fewnol canol dinas Wrecsam. Datblygwyd y cae gwair mawr petryalog yn ddiweddarach pan adeiladwyd yr Orsaf Heddlu a'r Llysoedd Barn.
Ysgol Uwchradd The Groves yw'r casgliad o adeiladau mawr, onglog uwchlaw'r cae. Caeodd yr ysgol yn 2002 pan gyfunodd ag Ysgol Uwchradd Dewi Sant ac Ysgol Bryn Offa a'i hailenwi'n Ysgol Rhosesni. Mae'r adeiladau (2011) o hyd yn wag.
Mae Chester Street yn rhedeg drwy ganol y llun o'r chwith i'r dde. Roedd Ysbyty War Memorial Wrecsam erbyn hyn wedi lledaenu at ymyl Chester Street, ac mae adeiladau gwreiddiol yr ysbyty'n wynebu Rhosddu Road i'r chwith o simnai'r ysbyty.
Tai yw'r rhan fwyaf o'r adeiladau eraill yn y llun, ac mae'n rhoi syniad sut daeth gwahanol ardaloedd o'r dref a'i maestrefi'n lleoedd ffasiynol neu anffasiynol i fyw. Roedd gan bob ardal ei chymeriad arbennig ei hun a gwahanol arddulliau tai.
Ar frig y ddelwedd ar y chwith gellir gweld y Cae Ras, maes chwarae Clwb Pêl-droed Wrecsam a drws nesaf iddo Coeg Chweched Dosbarth Iâl. Yn rhedeg ar draws y llun, o flaen yr adeiladau hyn, yw'r rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer.
(Gan Spencer Gavin Smith).

Owner:
Aerofilms Ltd.
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/7/2011
Date originally created:
1/1/1970
Gwelediadau:
5213
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment