Cae Ras, Wrecsam, 1976
Disgrifiadau
Mae'r Cae Ras, Wrecsam, wedi bod yn gartref i glwb Pêl-droed Cynghrair hynaf Cymru, Clwb Pêl-droed Wrecsam, ers 1872. Mae hefyd yn cael ei gydnabod y stadiwm pêl-droed hynaf yn y byd sydd o hyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gemau rhyngwladol gan Recordiau Byd Guinness am gêm a chwaraewyd yma ym 1877. Mae'r eisteddle ar y dde wedi'i leoli ar y Scion Kop (neu'r Kop yn fyr). Mae'n cael yr enw Kop oherwydd tebygrwydd y terasau serth hyn i fryn ger Ladysmith, De Affrig, man Brwydr Scion Kop ym mis Ionawr 1900 yn Ail Ryfel y Böer.
Y ffordd sy'n rhedeg drwy'r llun yw Mold Road, ac ar yr ochr dde, yn wynebu'r ffordd mae gwesty'r Turf Hotel. Tan 1999 gallai diotwyr yn y dafarn eistedd ar y balconi a gwylio'r gemau pêl-droed. Drws nesaf gellir gweld yr ystafelloedd newid a'r swyddfeydd gynt. Fe'u dymchwelwyd pan godwyd yr eisteddle Pryce Griffiths presennol ar gyfer twrnamaint Cwpan Rygbi'r Byd ym 1999.
Nesaf at y Cae Ras mae Coleg Technegol Sir Ddinbych, sydd erbyn hyn yn brif adeilad Prifysgol Glyndŵr. Ar yr ochr dde ar frig y llun mae maestref Rhosddu. Tafarn y Walnut Tree yw'r adeilad gwyn, a oedd yn fferm yn wreiddiol cyn cael ei thrawsnewid pan adeiladwyd ar ei thir.
Roedd cartref Coleg Chweched Dosbarth Iâl yn yr adeilad concrit dur sydd i'w weld ar Crispin Lane. Oddi tano mae Gorsaf Gyffredinol Wrecsam. Mae ffos Wat's Dyke ar ochr dde cledrau'r rheilffordd yn rhedeg yn fertigol drwy'r llun.
(Disgrifiad gan Spencer Gavin Smith).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment