Skip to main content

Wrecsam, 1977

Disgrifiadau

Cliciwch ar y ddelwedd i'w hehangu.

Mae'r awyrlun hwn, a dynnwyd ym 1977, yn dangos ardal Croesnewydd yn Wrecsam. Yn y blaendir ar y gwaelod mae Cyffordd Rheilffordd Croesnewydd, gyda lein gangen Wrexham and Minera Branch yn rhedeg allan o'r llun ar y chwith, yn gwasanaethu ffowndrïau a chwareli'r ardal. Mae'r rheilffordd wedi cyfyngu ar ehangiad Ysbyty Maelor, a agorwyd yma ym 1934 ac a ellir ei weld ar ddwy ochr Watery Road yn rhedeg ar draws y llun o'r chwith i'r dde. I'r dde mae'r brif reilffordd o Gaer i'r Amwythig, gyda rheilffordd Wrecsam ac Ellesmere i'w gweld yn gwyro tuag at ganol y llun, cyn troi'n ô o dan y brif reilffordd tuag at Orsaf Ganolog Wrecsam. O fewn dolen y rheilffordd gellir gweld Iard Sborion Jaques.

Uwchlaw'r Ysbyty ar y llun gellir gweld datblygiad newydd o dai parod, ac i'w chwith, y tu ôl i'r coed mae Neuadd Maesgwyn. Roedd gan Gwmni Bysiau Crosville eu modurdy bysiau yma ar y pryd, a gellir gweld y bysiau nad ydynt yn gwasanaethu wedi parcio yn yr iard.

Roedd gan Neuadd Maesgwyn a'r datblygiad tai parod eu mynedfeydd yn agor ar Mold Road. Ar draws y ffordd yn eu hwynebu mae Maes Clwb Pêl-droed Wrecsam, y Cae Ras.

Nesaf at y Cae Ras mae Coleg Technegol Sir Ddinbych, sydd nawr yn brif adeilad Prifysgol Glyndŵr, a'r tu hwnt iddo ar ochr bellaf Plas Coch Road nesaf at y caeau rygbi mae Plas Coch. Dymchwelwyd ef er mwyn adeiladu'r Parc Manwerthu ar y tir. Ar y chwith ar frig y llun mae Ffordd Osgoi Wrecsam A483.

I'r dde ar frig y llun mae maestref Rhosddu, gyda'r adeilad concrit dur yn gartref i Goleg Chweched Dosbarth Iâl i'w weld ar Crispin Lane. Islaw mae Gorsaf Gyffredinol Wrecsam.

(Disgrifiad gan Gavin Spencer Smith).

Owner:
Aerofilms Ltd.
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/7/2011
Date originally created:
1/1/1977
Gwelediadau:
3715
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment