Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyluniwyd a chynlluniwyd Portmeirion gan y pensaer enwog Syr Clough Williams-Ellis (1883-1978) wedi iddo brynu'r stad, Aber Iâ ar y pryd, ym 1926. Cafodd y pentref ei greu'n fwriadol a datblygodd dros sawl degawd ac roedd adeiladau'n cael eu hychwanegu o hyd yn y 1970au. Mae'r pentref, wedi'i adeiladu mewn ac o amgylch cwm bach yn agor ar yr aber, yn cynnwys gwesty a bythynnod, gyda siopau ac adeiladau cyhoeddus, wedi'u trefnu o amgylch sgwâr canolog agored sy'n ardd gyhoeddus. Mae'r pentref o un cyfnod (canol yr ugeinfed ganrif), ond mae'n amrywiol o ran arddulliau, yn ymgorffori elfennau pensaernïol o amrediad eang o gyfnodau ac o sawl gwlad. Oherwydd natur serth y safle mae rhan fwyaf yr adeiladau'n cael eu harddangos ar ochr y bryn. Am y rheswm hwn mae'r olygfa orau o'r pentref o'r môr, lle gwelwyd y safle am y tro cyntaf gan ei grêwr, Clough Williams-Ellis.
Mae'r adeiladau'n gasgliad o ffantasïau a grêwyd gan Williams-Ellis. Mae Portmeirion yn aml yn cael ei alw'n 'Eidalaidd', ond nid yw hynny'n ddisgrifiad cywir na digonol. Mae'r arddull mewn gwirionedd yn gymysgedd o lawer o wahanol elfennau a oedd yn digwydd apelio i Williams-Ellis, a mewnforiwyd rhai o'r adeiladau, neu rannau ohonynt, o leoedd eraill a'u hail-godi yma. Cynhaliwyd 'Cartref ar gyfer Adeiladau Syrthiedig', lle cadwyd tameidiau pensaernïol a darnau o adeiladau nes y gallent gael eu hymgorffori i mewn i ryw adeiledd newydd. Cadwyd a thrawsnewidiwyd y tŷ gwreiddiol o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Aber Iâ, hefyd, ynghyd â'i adeiladau allan. Mae cymeriad swrreal y pentref, o le daw llawer o'i swyn, yn deillio o'r adeiladau'n bennaf, ond mae tyfiant ffrwythlon planhigion, yn enwedig llwyni blodeuog, yn cwblhau'r awyrgylch egsotig.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw