Ddoe a Heddiw: Stad Ddiwydiannol Trefforest
Disgrifiadau
Cliciwch ar y ddelwedd i'w hehangu a chymharwch yr awyrluniau.
Sefydlwyd Stad Fasnacha De Cymru a Sir Fynwy ym 1936. Dyma'r stad gyntaf o'i math yng Nghymru, a adeiladwyd gan y llywodraeth mewn ymgais i ysgogi cyflogaeth trwy gyflwyno cynhyrchu ysgafn i'r Rhondda a oedd ar y pryd yn dioddef dirywiad difrifol yn y diwydiant glo.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhwng 1939 a 1944, meddiannodd y llywodraeth lawer o adeiladau ac adeiladu ac addasu llawer eraill ar gyfer ymdrech y rhyfel; yn ei hanterth ym 1944 roedd 16,000 o weithwyr yno.
Mae'r ffotograff cyntaf yn dangos y stad newydd ym 1937. Yma yng Nghwm Taf oedd, o'r dwyrain i'r gorllewin, Rheilffordd Alexandra, Camlas Morgannwg yn segur, Pwll Glo Nantgarw, Rheilffordd Caerdydd wedi'i datgymalu. Yna mae priffordd yr A470 o'r Gogledd i'r De, adeiladau cyntaf y stad fasnacha, Afon Taf a phedwar trac Rheilffordd Cwm Taf.
Mae'r ail ffotograff yn dangos y stad ym 1952. Erbyn hyn mae'r stad wedi tyfu i'w maint mwyaf cynhyrchiol. Mae priffordd yr A470 nawr yn ffordd ddeuol.
Mae'r trydydd ffotograff, a dynnwyd yn 2006, yn dangos sawl ffatri wreiddiol yn goroesi, ond gyda llawer o unedau newydd. Mae'r stad erbyn hyn yn nwylo preifat.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment