Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganwyd Joseph Morgans ar 23 Gorffennaf 1891 yn Nhylagwyn Cwm Garw, ac fe wasanaethodd yn y Rhyfel Mawr gyda'r Devonshire Regiment a'r Gloucester Regiment. Fe'i saethwyd ar 2 Rhagfyr 1917 yn La Vaquerie, yn ystod Brwydr Cambrai, gan glwyfo ei ben-glin dde, ac fe'i daliwyd gan yr Almaenwyr ar 3 Rhagfyr. Danfonwyd Joseph i wersyll carcharorion yn Altdam, Stettin (gwersyll a oedd yn gysylltiedig â'r bataliwn Almaenig a'i cymerodd yn garcharor), a danfonodd gerdyn post adre ar 29 Rhagfyr 1917 i ddweud ei fod yn dal yn fyw. Roedd amgylchiadau yn y gwersyll yn wael gan nad oedd digon o fwyd i'r carcharorion na chwaith i'r gwarchodwyr. Er mai ond 55 o filwyr Prydain a garcharwyd yno, roedd 18,500 o garcharorion o Rwsia. Ar ddiwedd y rhyfel agorwyd gatiau'r carchar a bu'n rhaid i bob carcharor ofalu amdano ef ei hun. Cerddodd Jo ac eraill i Denmarc lle cawsant groeso brwd. Hwyliodd i Leith ar 14 Rhagfyr 1918 ac oddi yno cymerwyd ef i Wersyll Derbyn Carcharorion Rhyfel yn Ripon. Rhoddodd adroddiad o'i brofiadau a chafodd ei ddanfon adref i ymuno â'i deulu erbyn Nadolig 1918. Daeth Jo adref â'r llun hwn o gofeb Brydeinig ym mynwent y gwersyll - ac arni enwau 46 o filwyr Prydain a fu farw yn Altdam.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw