Skip to main content

Cpl Joseph Henry Morgans a chyfeillion o'r Devonshire Regt

Disgrifiadau

Ganwyd Joseph Morgans ar 23 Gorffennaf 1891 yn Nhylagwyn Cwm Garw. Ar ôl addysg yn Ysgol y Sir, Pen-y-bont-ar-Ogwr, fe aeth i astudio cyn y rhyfel yng ngholeg Sant Luc yng Nghaerwysg. Fe ymunodd â'r fyddin diriogaethol, ac i gychwyn roedd gyda'r Devonshire Regiment: dengys y llun hwn Joseph yn sefyll ar y dde, gyda rhai o'i gyfeillion yn y Devonshires. Erbyn 1916 yr oedd yn gwasanaethu gyda'r Gloucester Regiment, ac fe'i danfonwyd i Ffrainc yn mis Mawrth 1916. Ymladdodd Joseph gyda'r magnelau yn y ffosydd ac fe'i saethwyd ar 2 Rhagfyr 1917 yn La Vaquerie, yn ystod Brwydr Cambrai (y frwydr gyntaf y defnyddiwyd nifer sylweddol o danciau ynddi). Pan glwyfwyd Joseph yn ei ben-glin dde gadawyd ef ar ôl gan ei gymrodyr, ac fe'i daliwyd gan yr Almaenwyr ar 3 Rhagfyr. Medr llawfeddygon Almaenig a achubodd ei fywyd. Danfonwyd Joseph i wersyll carcharorion yn Altdam, Stettin (gwersyll a oedd yn gysylltiedig â'r bataliwn Almaenig a'i cymerodd yn garcharor), a danfonodd gerdyn post adre ar 29 Rhagfyr 1917 i ddweud ei fod yn dal yn fyw. Roedd amgylchiadau yn y gwersyll yn wael gan nad oedd digon o fwyd i'r carcharorion na chwaith i'r gwarchodwyr. Er mai ond 55 o filwyr Prydain a garcharwyd yno, roedd 18,500 o garcharorion o Rwsia. Gan ei fod yn gallu darllen a chyfrif, rhoddwyd Joseph i weithio yn Swyddfa Bost brysur y gwersyll. Bu'n cynorthwyo eraill i ysgrifennu a darllen llythyrau, ond ni dderbyniodd ef ei hunan unrhyw lythyr tan 18 Ebrill 1918 - yr oedd ei deulu wedi eu hysbysu ei fod ar goll, a'r dybiaeth oedd iddo gael ei ladd. Roedd Jo uwchben ei ddigon pan dderbyniodd y llythyr gan ei gefnither Catherine yn Ebrill 1918. Cadwai ddail tê o'r parseli a gyrhaeddai'r Swyddfa Bost oddi wrth y Groes Goch. Ar ddiwedd y rhyfel agorwyd gatiau'r carchar a bu'n rhaid i bob carcharor ofalu amdano ef ei hun. Cerddodd Jo ac eraill i Denmarc lle cawsant groeso brwd. Hwyliodd i Leith ar 14 Rhagfyr 1918 ac oddi yno cymerwyd ef i Wersyll Derbyn Carcharorion Rhyfel yn Ripon. Rhoddodd adroddiad o'i brofiadau a chafodd ei ddanfon adref i ymuno â'i deulu erbyn Nadolig 1918. Ni soniodd Joseph ddim am ei brofiadau yn y rhyfel wrth ei blant, ond fe gofia Nest, ei ferch, na allai gerdded pan oedd hi'n oer iawn oherwydd yr ewinrhew a ddioddefodd pan yn garcharor yn y gwersyll. Byddai hi a'i brodyr yn casglu'r gwlân a gollai'r defaid ar y mynydd er mwyn ei roi yn esgidiau eu tad i'w helpu i gerdded. Bu farw yn 1953 o waedlif ar yr ymennydd.

Owner:
Kim Morgans
Crëwr:
Kim Morgans
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
WVP00768
Eitem wedi’i llwytho:
20/4/2011
Date originally created:
1/8/1914 - 1/1/1916
Gwelediadau:
1726
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment