Skip to main content

Clarence Stiff, Monmouthshire Regiment

Disgrifiadau

Llun Clarence Wilfred Stiff o Clomendy Road, Cwmbrân. Fe listiodd yn ail fataliwn Catrawd Sir Fynwy (Monmouthshire Regiment) yn Hydref 1914 a'i ddanfon i Ffrynt y Gorllwein yn Chwefror 1915. Fe'i lladdwyd mewn brwydr ar 6 Mai 1915 yn 17 oed. Medd yr ysgrif goffa amdano yn y papur lleol: "Er nad oedd ond yn 17 oed, roedd enw da iddo. Roedd yn ŵr ifanc dros chwe troedfedd mewn taldra. I fyny i'r adeg pryd ymadawodd y bataliwn wrth gefn o Bont-y-pŵl, roedd yn aelod o'r band biwgl. Roedd yn gricedwr brwd ac yn aelod o dîm criced Cwmbrân. Roedd yn aelod o Ysgol Sul y Wesleaid yng Nghwmbrân."

Owner:
Anon
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
WVP00692
Eitem wedi’i llwytho:
20/4/2011
Date originally created:
1/10/1914 - 6/5/1915
Gwelediadau:
1823
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment