Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llun Clarence Wilfred Stiff o Clomendy Road, Cwmbrân. Fe listiodd yn ail fataliwn Catrawd Sir Fynwy (Monmouthshire Regiment) yn Hydref 1914 a'i ddanfon i Ffrynt y Gorllwein yn Chwefror 1915. Fe'i lladdwyd mewn brwydr ar 6 Mai 1915 yn 17 oed. Medd yr ysgrif goffa amdano yn y papur lleol: "Er nad oedd ond yn 17 oed, roedd enw da iddo. Roedd yn ŵr ifanc dros chwe troedfedd mewn taldra. I fyny i'r adeg pryd ymadawodd y bataliwn wrth gefn o Bont-y-pŵl, roedd yn aelod o'r band biwgl. Roedd yn gricedwr brwd ac yn aelod o dîm criced Cwmbrân. Roedd yn aelod o Ysgol Sul y Wesleaid yng Nghwmbrân." Dyma'r plac efydd a dderbyniodd ei deulu, a adnabyddir yn gyffredin fel 'Ceiniog y Brenin', ynghyd â'i fedalau a'r gwaith papur cysylltiedig.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw