Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd John Jones neu 'Coch Bach Y Bala' (1854-1913) yn leidr adnabyddus a enillodd enwogrwydd oherwydd iddo gael ei garcharu mor aml, ac hefyd oherwydd iddo lwyddo i ddianc o'r carchar ar sawl achlysur. Roedd hefyd yn cael ei alw'n 'The Little Welsh Terror' a 'The Little Turpin'. Ym 1913 llwyddodd i ddianc o Garchar Rhuthun ond fe'i saethwyd gan dirfeddiannwr lleol yn Llanfair Dyffryn Clwyd ac fe waedodd i farwolaeth. Er gwaethaf ei ffaeleddau, roedd yn gymeriad poblogaidd a mynegwyd cryn anfodlonrwydd cyhoeddus ynglŷn ag amgylchiadau ei farwolaeth. Claddwyd ef yn Llanelidan.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw