Ali’n agos at Glwyd Banc ar Stryd Clwyd
Disgrifiadau
Ar hyd yr ali yma y dywedir i Goch Bach y Bala, carcharor drwg-enwog Carchar Rhuthun ddianc yn 1913. Roedd Coch Bach y Bala, neu John Jones i roi iddo'i enw iawn, yn botsiwr ac yn lleidr rheolaidd a oedd i mewn ac allan o'r carchar ar hyd ei oes. Fe ddihangodd o Garchar Rhuthun ddwywaith, y tro cyntaf ar Dachwedd 30ain 1879 pan ddaeth allan o'i gell a cherdded allan drwy brif fynedfa'r carchar tra'r oedd y wardeniaid yn cael eu swper. Cafodd ei ddal y mis Ionawr canlynol. Fe ddihangodd am yr ail waith ar Fedi 30ain 1913 yn chwe deg oed. Fe dyllodd drwy wal ei gell, dringo dros y to a thros wal y carchar cyn dianc drwy'r ali. Gellir gweld cornel Carchar Rhuthun y tu ôl i'r wal ar ddiwedd yr ali yn y ffotograff. Chwe diwrnod wedi ei ddihangfa, yn ystod ymdrech i'w ail-ddal ar Stad Nantclwyd, cafodd ei saethu yn ei goes ac fe fu farw o'i anafiadau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment