Llun Ben Williams o'r 1st Canadian Infantry Battalion
Disgrifiadau
Ganwyd Ben Williams yn 1883 i deulu o ffermwyr yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin. Ymladdodd yn Rhyfel y Boer ac yna, yn 1906 ymfudodd i fywyd newydd yng Nghanada. Flynyddoedd yn ddiweddarach dywedodd iddo gwrdd â gwirfoddolwyr o Ganada tra'n gwasanaethu yn Ne Affrica ac mai hwy a'i anogodd ef i fanteisio ar y cyfleoedd yng Ngogledd Orllewin Canada i wŷr â chanddynt brofiad yn y byd amaethyddol. Yn 1914, ymunodd Ben â byddin Canada, ei brofiad blaenorol yn ôl pob tebyg yn sicrhau comisiwn iddo. Gwasanaethodd am bron y cyfan o'r rhyfel gan gael ei ddanfon dramor yn gynnar yn 1915. Ymladdodd yn rhai o frwydrau mwyaf gwaedlyd Ffrynt y Gorllewin gan gynnwys Brwydr Vimy Ridge, lle enillodd y Groes Filitaraidd am ei ddewrder. Ar ôl y rhyfel dychwelodd Ben i Saskatchewan lle ymgartrefodd a dechrau ffermio. Ymddeolodd i Langley ar arfordir gorllewinol Canada ac yn hwyr yn y pumdegau ymwelodd nifer o weithiau â Chymru, yn enwedig ag ardal Llsansawel. Bu farw'r Uwchgapten Ben Williams MC, heb fawr o sylw cyhoeddus yn Ysbyty Shaughnessy i gyn-filwyr yn Vancouver yn 1967.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment