Skip to main content

Medalau Ben Williams

Disgrifiadau

Ganwyd Ben Williams yn 1883 i deulu o ffermwyr yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin. Yn 17 oed gwirfoddolodd i ymladd yn Rhyfel De Affrica. Yn 1902 rhyddhawyd ef o'r fyddin yn Bloemfontein a dychwelodd i Gymru. Hwyliodd i Halifax, Nova Scotia, yn 1906 er mwyn dechrau bywyd newydd yng Nghanada. Flynyddoedd yn ddiweddarach dywedodd iddo gwrdd â gwirfoddolwyr o Ganada tra'n gwasanaethu yn Ne Affrica ac mai hwy a'i anogodd ef i fanteisio ar y cyfleoedd yng Ngogledd Orllewin Canada i wŷr â chanddynt brofiad yn y byd amaethyddol. Yn 1914 ymunodd Ben â byddin Canada - ei brofiad fel milwr yn Ne Affrica, yn ôl pob tebyg, yn sicrhau iddo gael ei godi'n swyddog. Gwasanaethodd bron drwy'r rhyfel i gyd, gan symud i wasanaethu dramor yn gynnar yn 1915. Bu yn rhai o frwydrau mwyaf gwaedlyd Ffrynt y Gorllewin, gan gynnwys Brwydr Vimy Ridge, yr ymosodiad ar Fryn 70 ac ymgyrch hir Fflandrys. Dyfarnwyd y Groes Filitaraidd (MC) iddo fel canlyniad i Frwydr Vimy Ridge, a dywed y ddyfynneb: For conspicuous gallantry and devotion to duty. During the attack he showed great courage in dealing with several difficult situations. He personally bombed a machine gun crew, capturing the gun and seventeen prisoners. Yn y llun gwelir y medalau a enillodd Ben yn Rhyfel y Boer a'i Groes Filitaraidd.

Owner:
Eifion Willilams
Crëwr:
Eifion Willilams
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
WVP00548
Eitem wedi’i llwytho:
11/3/2011
Date originally created:
1/8/1914 - 11/11/1918
Gwelediadau:
768
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment