Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae Gweithdai'r Ierd Forol, Caergybi'n gasgliad o adeiladau gwasanaethau morol pwrpasol a gafodd eu hadeiladu gan fwyaf rhwng 1850 a 1900. Adeiladwyd y gweithdai'n arbennig ar gyfer trwsio fferïau Gwyddelig ym mhorthladd mawr Caergybi. Mae siartiau'r Morlys yn dangos yr oedd 'iard adeiladwyr' ar y safle cyn cyrhaeddodd y rheilffordd ym 1850, ac erbyn 1858 mae'n debyg ei bod yn cael ei defnyddio i drwsio llongau'n barod a'i galw'n 'iard bacedlongau'. Mae gweithdai'r iard forol yn dangos y twf mewn pwysigrwydd o'r fferi i Iwerddon, a'r angen i fedru trin, cynnal a chadw'r pacedlongau ager ar ddiwedd y 19eg ganrif ac yn ddiweddarach y llongau olew a disel.
Bu'r Iard Forol yn gyflogwr mawr yng Nghaergybi drwy gydol ei hanes. Roedd amrediad anferth o waith crefftus yno, cyflogwyd peirianwyr a chrefftwyr o bron pob math a phrentisiwyd dynion ifanc 15 ac 16 oed am bum mlynedd ym mhob crefft.
Yn y 1980au roedd y newid yn yr hinsawdd economaidd a gwleidyddol yn golygu newidiadau yn yr iard. Roedd 140 o bobl wedi'u cyflogi yn yr Iard Forol ym 1982, yn cynnwys ffitwyr, gwneuthurwyr boeleri, plymwyr, trydanwyr, seiri, adeiladwyr llongau, rigiwr a llathrydd Ffrengig. Wedi i'r cwmni llongau, a oedd yn berchen ar yr iard ar y pryd, gael ei breifateiddio ym 1984; ac wedi cyfnod o ad-drefnu, dim ond 40 o weithwyr a gadwyd. Ym 1986, caewyd yr Iard Forol.
Roedd yr adeiladau'n cynnwys y canlynol:
Siopau cyffredinol a swyddfeydd, gefail, gweithdy bwyleri ac estyniad, melin lifio, gweithdy ffitio, ffowndri haearn, Ffowndri Gof Copr a Ffowndri Bres (tair uned mewn adeilad tal unllawr yn wreiddiol), stordy olew'r gweithdy codi, stordy paent, gweithdai asiedyddion a seiri, a gweithdai'r dodrefnwyr - a ddefnyddiwyd gan ddodrefnwyr, gwniadwragedd, cynhyrchwyr hwyliau a llathryddion.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw