Ysgrifbin Arian
Disgrifiadau
Ysgrifbin arian a roddwyd i Twm o'r Nant fel gwobr gysur gan David Samwell yn Eisteddfod y Bala, 1789.
Noddwyd yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn y Bala ym mis Mai 1789 gan y Gwyneddigion, cymdeithas o alltudion o Gymru yn Llundain. Hi oedd y gyntaf fel yr Eisteddfod gystadleuol fodern sy'n gyfarwydd i ni heddiw. Ond mi roedd yn ddadleuol. Credid i Gwallter Mechain, enillydd y fedal a roddwyd gan y Gwyneddigion, dwyllo gan rai ac fe gafodd ei gadeirio mewn storm o brotestio a suon am ymladd gornestau. Ymhlith y protestwyr oedd David Samwell, y llawfeddyg a aeth gyda Chapten Cooke ar ei fordaith olaf. Rhoddodd ef yr ysgrifbin arian i Twm o'r Nant a ddaeth yn ail orau fel gwobr gysur.
I gael golwg ar y eitem hon mewn 3D, cliciwch:
http://labs.casgliad.sequence.co.uk/silver-pen.aspx
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment