Medal Eisteddfod Y Bala
Disgrifiadau
Medal arian a roddwyd gan Gymdeithas y Gwynegyddion fel gwobr am y gerdd orau yn Eisteddfod y Bala ym 1789.
Stori fanylach, yn gysylltiedig ag ysgrifbin arian: Noddwyd yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn y Bala ym mis Mai 1789 gan y Gwyneddigion, cymdeithas o alltudion o Gymru yn Llundain. Hi oedd y gyntaf fel yr Eisteddfod gystadleuol fodern sy'n gyfarwydd i ni heddiw. Ond mi roedd yn ddadleuol. Credid i Wallter Mechain, enillydd y fedal a roddwyd gan y Gwyneddigion, dwyllo gan rai ac fe gafodd ei gadeirio mewn storm o brotestio a suon am ymladd gornestau. Ymhlith y protestwyr oedd David Samwell, y llawfeddyg a aeth gyda Chapten Cooke ar ei fordaith olaf. Rhoddodd ef yr ysgrifbin arian i Twm o'r Nant a ddaeth yn ail orau fel gwobr gysur.
I gael golwg ar y eitem hon mewn 3D, cliciwch:
http://labs.casgliad.sequence.co.uk/1789-bala-eisteddfod-medal.aspx">http://labs.casgliad.sequence.co.uk/1789-bala-eisteddfod-medal.aspx">http://labs.casgliad.sequence.co.uk/1789-bala-eisteddfod-medal.aspx
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment