Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

'Welsh Not' gydag arysgrifiad Welsh N. Daethpwyd o hyd iddo o dan eisteddleoedd yng Nghapel Pen-rhiw, Dre-fach Felindre, wrth iddo gael ei ddymchwel. Roedd y 'Welsh Not' yn fodd o orfodi plant i siarad Saesneg yn yr ysgol yn ystod y 19eg ganrif. Rhoddwyd ffon neu blac i unrhyw blentyn a glywyd yn siarad Cymraeg yn yr ysgol, i'w basio ymlaen i bwy bynnag a siaradodd Cymraeg nesaf. Ar ddiwedd y dydd, byddai'r plentyn â'r Welsh Not yn ei feddiant yn cael ei gosbi.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw