Mefin Lewis yn rhannu atgofion am stondinau llaeth a bywyd cefn gwlad gyda Ceirios Jenner yn Nyffryn Henlyn, Hendy-gwyn ar Daf.
Disgrifiadau
Sgwrs fer yn y Gymraeg rhwng Mefin Lewis, a fagwyd ar Fferm Dyffryn Henlyn yn Login a Ceirios Jenner. Mae Mefin yn cofio’r stand laeth yn cael ei ddefnyddio a defnyddio ceffyl a chert bach i fynd â’r churns ato bob dydd. Mae Mefin hefyd yn cofio bod rhai o’r ffermwyr lleol yn arfer gosod betiau am ddarnau o dir. Nid yw'r stand laeth Dyffryn Henlyn yn weladwy bellach. /// churns.visits.hairstyle
Crynodeb o'r drafodaeth
Trafodaeth fer am y stondin laeth yn Nyffryn Henlyn, Hendy-Gwyn ar Daf, lle ganwyd Mefin Lewis. Mae hi'n siarad â Ceirios Jenner yn 2025.
Nid oedd y stondin ger y beudy ond ychydig ymhellach i ffwrdd yn Llanfallteg oherwydd bod parseli bach o dir wedi cael eu gamblo gan ffermwyr.
Dim ond pan ddywedodd yr athro Hanes yn yr ysgol ramadeg – Jim Mathias o Gwm Bach, Tad William Mathias y cerddor – wrthi y dysgodd Mefin am y ffaith hon. ‘Gofynnodd a oedd unrhyw un yn gwybod am dir a enillwyd/gollwyd yn y bet?’ Roedd Mefin wedi synnu mai tir ei theulu ydoedd.
Mae Mefin yn cofio pan ddefnyddiwyd y stondin laeth. Byddai merlod a throl bach yn cludo churns yno i’w casglu.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment