Skip to main content

Atgofion a myfyrdodau o oes yn gweithio yn niwydiant llaeth Sir Gaerfyrddin - Alun Voyle.

Disgrifiadau

Yn frodor o Landdarog, treuliodd Alun Voyle y rhan fwyaf o’i fywyd yn gweithio yn y diwydiant llaeth yn Sir Gaerfyrddin. Gwnaeth ei wasanaeth milwrol ar ddiwedd y 1950au gyda Chyffinwyr De Cymru yn Aberhonddu ac yna cyfnod yn yr Almaen. Wedyn dychwelodd i Gaerfyrddin i weithio yn y ffatri laeth ym Mhensarn yn gynnar yn y 1960au. Dechreuodd yn y ffatri yn gwneud caws ac yna wedyn yn gyrru lorïau i gasglu chyrns o'r ffermydd a danfon llaeth Ynysoedd y Sianel i laethdy'r Hafod yn Abertawe. Mae Alun yn rhannu atgofion hapus o’i fywyd ffatri laeth ac o gasglu chyrns o ardaloedd Pencader / Dolgran a Brechfa. Mae'n sôn am y cymunedau amaethyddol a'r arferion yn yr ardaloedd hyn. Mae'n sôn am yr her o gasglu chyrns yn ystod gaeaf eira 1963 ac mewn hafau poeth. Wedi hynny treuliodd 32 mlynedd yn gweithio i adran ffrwythloni artiffisial y Bwrdd Marchnata Llaeth yng Nghaerfyrddin. Mae'n myfyrio ar y newidiadau a gyflwynwyd ar ddiwedd y BML. Yn ogystal, mae ei bersbectif hirdymor yn peri iddo bryderu am y dirywiad cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd y mae bellach yn ei weld yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Cynhaliwyd y cyfweliad yn Gymraeg yng Nghaerfyrddin gan Anthony Rees (prosiect stondin laeth Sir Gaerfyrddin). 23 Ebrill 2024.

Owner:
Anthony Rees
Crëwr:
Anthony Rees / Alun Voyle
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
18/3/2025
Date originally created:
23/4/2024
Gwelediadau:
144
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment