Skip to main content

Stand laeth. Penllwynteg, Mynyddygarreg

Disgrifiadau

Stand laeth brics coch, gyda gris.

Atgofion Tyssul Evans o ddefnyddio'r stand laeth Penllwynteg. 11 Chwefror 2024

Ychydig o hanes hon : codwyd rhywbryd rhwng 1957 a 1960 yn dilyn diriwiad yng nghyflwr y stand laeth bren a cherrig wreiddiol yr ochr arall o’r hewl gefn gwlad ar fynedfa Penllwynteg.

‘Rwyn cofio helpu fy nhad i adeiladu’r un yn y llun mas o hen frics ail law a cherrig rhydd o’r caeau fewn yn y canol, (‘rhain a gasglwyd wrth gario mas y ddefod flynyddol ‘crynhoi cerrig’ ar ôl aredig), gyda stripedu o ddur ar yr wyneb rhag fod y tshyrns metal trwm yn difrodi gwyneb y stand laeth yn ormodol, dodwyd math o ffens dur rownd dwy ochor y stand hefyd er mwyn sicrhau fod y tshyrns llawn ddim yn cwmpo fewn i’r goedwig islaw.

Pan ddes mas o’r ysgol yn Mehefin 1963 roedd gan fy rhienu 20 o wartheg godro (Shorthorn a Friesian a peth gwartheg wedi ei croesi rhwng y ddau frid ag hefyd un fuwch Jersey i gadw’r butterfat mor uchel a phosib) a’r diwrnod cyntaf yr es mas a’r tshyrns i’r stand laeth gymharol newydd ‘roedd ganddom 7 tshyrn (68) galwyn. ‘Rwyn meddwl fod digon o le ar y stand i ddal dwsin o tshyrns. Cofio enwau ambell un o’r gyrrwyr loris llaeth : Doug Hicks o Gaerfyrddin (gynt o ardal Llanddarog/Porthyrhyd, Glan Morris (Sooty) o Langyndeyrn, Lloyd Jones o Lanpumsaint a ???? Hesford o ardal Treioan/Llangain.

Cofio yn hynod un bore gaeafol, ‘roedd fy nhad yn ysbyty’r Infermary yng Nghaerfyrddin yn dioddef yn wael o’r gweinegon a’r tractor International B250 (model 1956) yn gwrthod dechre ‘da fi, weles y lori laeth yn dod lan y tyle heibio Bryngwenyn so ma’ gwrs amdani mas i gwrdd a’r lori laeth ar ben hewl, wrth lwc Doug Hicks oedd y dreifwr y diwrnod hwnnw a buodd e ddim chwincad cyn referso’r lorri 200 can llath ‘nol i glôs Penllwynteg a rhyngom ni’n dau a help Mam llwyddwyd i godi’r tshyrns o lawr y tŷ cwlyr lan i’r lori. Hyd y gwn i dyna’r unig dro fuodd lori laeth ar y clôs.

Pan gwples werthu llaeth tua chwarter canrif yn ol ‘roedd y fuches wedi codi i 87 o wartheg Friesian ond ‘smoin cofio faint o liters o laeth wethwyd y diwrnod hwnnw, trueni na fyddwn wedi cadw’r tocyn dyddiol gafwyd mas o’r printer ar y lori tancyr. Os y cofiaf yn iawn defnyddiwyd y stand laeth yma hyd at 1967 cyn mynd am danc llaeth modern stainless steel.

Owner:
Anthony Rees
Crëwr:
Tyssul Evans
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
7/2/2025
Gwelediadau:
144
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment