Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cyfweliad byr a gynhaliwyd gan Vicky MaCdonald yn ystod yr ‘Longest Yarn’ gydag ymwelwyr a rannodd atgofion personol a straeon teuluol mewn ymateb i’r arddangosfa. Roedd arddangosfa’r Longest Yarn yn deurnged i’r Ymdrech Ryfel y tu ôl i Laniadau D-Day ym 1944 – drwy arddangos tapestri 3D yn darlunio D-Day mewn 80 panel – a gynhaliwyd yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno (Hydref 2–27 2024).
Mae Anita Butler yn rhannu hanes ei thad a oedd yn enedigol o Wrecsam. Cafodd ei alw i wasanaethu fel ‘arwyddwr’ [signaller] yn ystod glaniadau D-Day pan yn 17 mlwydd oed. Tra yn Bayeux[?] gyda 4 dyn arall, cafodd ei anafu yn ddrwg – fel collwyd y dynion eraill ei bywydau. Dychwelwyd adref a treulio peth amser yn Ysbyty Kirkbymoorside. Mae Anita yn cofio effeithiau'r rhyfel ar ei thad er na ddoedd yn siarad dim amdano. Fe briododd ei rhieni a symud i Lanberis. Yno cafodd swydd yn y chwarel lle'r oedd rhaid iddo ddysgu Cymraeg – Iaith y chwarel - ac fe’i hadnabuwyd fel ‘Bob Wrecsam’. Mae Anita hefyd yn rhannu stori am ei mam yn ymweld â'r ysbyty ac yn derbyn cymorth gan Mr Rodgers. Fel diolch, trefnodd y teulu i Mr Rodgers aros gyda nhw yn ystod arwisgiad y Tywysog Charles [Charles Philip Arthur George] ym 1969.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw