Cyfweliad gyda Joan Barnes gan Vicky Macdonald
Disgrifiadau
Cyfweliad byr a gynhaliwyd gan Vicky MaCdonald yn ystod yr ‘Longest Yarn’ gydag ymwelwyr a rannodd atgofion personol a straeon teuluol mewn ymateb i’r arddangosfa. Roedd arddangosfa’r Longest Yarn yn deurnged i’r Ymdrech Ryfel y tu ôl i Laniadau D-Day ym 1944 – drwy arddangos tapestri 3D yn darlunio D-Day mewn 80 panel – a gynhaliwyd yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno (Hydref 2–27 2024).
Yn y cyfweliad hwn, mae Joan Barnes yn rhannu atgofion am ei phlentyndod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn byw mewn pentref glofaol, ni wasanaethodd ei thad yn y rhyfel, er i’w hewythr wneud hynny. Mae Joan yn cofio dogni, bwyta moron amrwd fel trît, a defnyddio masgiau nwy, gan gynnwys un ar thema Mickey Mouse ei brawd. Disgrifia awyren yn gollwng bom ger y pentref a'r angen i dywyllu ffenestri, gyda wardeniaid yn gorfodi'r rheol. Er gwaethaf y caledi, fe feithrinodd y rhyfel ysbryd cymunedol cryf, wrth i gymdogion ddod at ei gilydd mewn llochesi cyrch awyr a chefnogi ei gilydd trwy gyfnod heriol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment