Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganed Meurig Hughes yn 1937 yn Nhreorci. Bu glofa'r Parc, Cwmparc, yn fater deuluol iddo; cerddodd ei daid o Ystrad Meurig ger Tregaron i'r Rhondda i chwilio am waith gan ei fod yn adnabod David Davies Llandinam. Roedd ei dad Evan David Hughes yn gweithio fel fforman yng nglofa’r Parc fel y gwnaeth ei frawd John, ac roedd ei fam, Leah Jane (Lewis gynt) yn deleffonydd i’r Ocean Coal Company, yn ogystal â’i chwaer hynaf Mair, cyn iddi symud i Lundain. Bu Meurig yn dysgu yn y Rhondda am y rhan fwyaf o'i oes, yn arbennig Ysgol Gyfun Treorci, ar waelod Cwm-parc. Mae ganddo lawer o atgofion byw a chynnes o gymuned Cwmparc. 

Clecs Cwmparc

[00:00] Dai yr Hwrdd
[01:28] Y Cyfieithydd
[02:49] Merlod Pwll
[03:40] Darn o ‘Yr Argae’ (Yn y Gymraeg)

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw