Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Val a Gwyn Evans
 
Ganed Val yn 1946 ym mhen uchaf Cwmparc (Parc Road) ac aeth i'r ysgol yno cyn ysgol ramadeg. Yna gweithiodd yn llawn amser yng Nghanolfan Ieuenctid Treherbert.
 
Ganed Gwyn yng Nghwmtwrch Uchaf yng Nghwm Tawe ym 1941. Ar ôl mynychu Coleg Caerdydd, bu'n dysgu yn y Rhondda. Ym 1968 ef oedd Pennaeth Canolfan Ieuenctid Treherbert.
Symudon nhw i Fferm Parc Isaf, Cwmparc ym 1975 lle magwyd eu 4 o blant, Nick, Luc, Daniel a Sera. Mae Daniel yn actor a chyfarwyddwr theatr adnabyddus ac mae bellach yn Bennaeth y Royal Shakespeare Company.
 
Daeth Gwyn yn Gadeirydd y Gymdeithas Lles Cymunedol a sefydlwyd i adnewyddu Neuadd Cwmparc ar ôl iddi gau. Fe'i hailagorwyd yn llwyddiannus yn 1987. Gwasanaethodd Val ar y pwyllgor hefyd.
 
Bu Val a Gwyn yn gweithio gydag eraill ar y pwyllgor diweddar i godi cofeb ar gyfer bomio Cwmparc yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
 
Dadansoddiad cyfweliad
 
[00:02] Mae Val yn sôn am ei phlentyndod yn tyfu i fyny yng Nghwmparc a’r gymuned bryd hynny
[01:52] Mae Val yn siarad am yr amgylchedd naturiol yng Nghwmparc
[3:10] Disgrifia Gwyn sut yr oedd hi i symud o gwm Tawe i Gwmparc
[4:11] Val yn trafod y cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cwm-parc a Threorci
[5:33] Gwyn yn trafod y gwahaniaeth rhwng Cwmparc a Threorci
[6:04] Val a Gwyn yn trafod pwysigrwydd y capel
[6:42] Val a Gwyn yn sôn am bwysigrwydd hanesyddol Cwmparc, sut mae wedi newid a pham y dylid ei gofio
[8:25] Mae Gwyn yn disgrifio Railway Terrace – ‘Tub row’
[9:14] Gwyn ar arwyddocâd Neuadd Cwmparc (Parc).
[9:48] Val ar bwysigrwydd y llyfrgell yn Neuadd y Parc
[10:26] Y byrddau Snwcer i ddynion iau
[11:02] Pwysigrwydd Neuadd y Parc i’r gymuned
[11:33] Theatr Neuadd y Parc
[13:12] Val ar sut y bu i theatr Parc Hall danio ei diddordeb gydol oes mewn theatr
[13:46] Gwyn ar bwysigrwydd y bandiau jazz
[14:35] Gwyn- tynged Neuadd Parc
[14:54] Gwyn ar bwysigrwydd y Gymraeg yng Nghwmparc
[15:58] Stori doniol o Gwyn, y geifr yng Nghwmparc (yn y Gymraeg)
[20:18] Stori ddoniol Gwyn am ei geffyl, Brown Lad

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw