Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Rhaglen Eisteddfod a Chyngerdd yn Llandeilo, mewn pabell enfawr ar gae'r Castle Hotel, dan nawdd y Llandilo Male Voice Society ar ddydd Llun, 4 Medi 1905

"Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Landeilo cyfran dda o leoliadau perfformio, megis y capeli, y Neuadd Ddinesig, Neuadd y Farchnad ac Eglwys Sant Teilo. Roedd gan y rhain galendrau llawn o gyngherddau, digwyddiadau codi arian, ac eisteddfodau, a oedd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos. Ar un adeg, cynhaliwyd sawl eisteddfod yn y dref bob blwyddyn, megis Eisteddfod y Plant, y 'Semi-National Eisteddfod', eisteddfodau'r capeli, ac eisteddfodau o dan nawdd corff neu gymdeithas benodol, fel yr enghraifft yma. Ceir tudalennau ar goll o’r rhaglen hon, ond gellir darllen mwy am yr eisteddfod mewn papurau newyddion o’r cyfnod: https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4358279/4358287/76/Eisteddfod%20AND%20Llandilo

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw